Gofalu am Gasgliadau (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Cewch hyfforddiant eithriadol mewn cadwraeth ataliol a rheoli casgliadau diwylliannol a threftadaeth.
Dylunio Galwedigaethol
Cewch hyfforddiant eithriadol ym maes cadwraeth ataliol, a rheoli casgliadau diwylliannol a threftadaeth.
Dan arweiniad arbenigwyr
Addysgir gan arbenigwyr yn y maes sydd o fri rhyngwladol.
Profiad yn y byd go iawn
Byddwch yn cael eich 'gefeillio' â sefydliad treftadaeth go iawn, yn astudio sut mae'n gweithredu a sut mae'n gofalu am gasgliadau.
Labordai pwrpasol
Ystafell gadwraeth bwrpasol, sydd wedi'i gwella'n ddiweddar yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £250,000.
Wedi’i dylunio gyda mynediad i’r proffesiwn cadwraeth mewn golwg, mae ein rhaglen MSc Gofalu am Gasgliadau ysgogol yn ymgorffori elfennau o gelf a gwybodaeth wedi’u teilwra ar gyfer gyrfa yn y maes hynod wobrwyol hwn.
Drwy gael eich addysgu gan ymarferwyr achrededig uchel eu parch ledled y byd, byddwch chi’n datblygu’r sgiliau sy’n hanfodol i gynnal gyrfa ym maes treftadaeth. Mae’r rhain yn cynnwys dealltwriaeth o strategaethau rheoli er mwyn dadansoddi sefydliadau mewn cyd-destun ac er mwyn cynllunio a rheoli newid, a chydnabod a defnyddio technegau dylanwadu. Wedi gefeillio â sefydliad treftadaeth yn y DU, byddwch yn cael profiad ymarferol o reoli a gweithredu casgliadau, gan roi eich sgiliau dylunio prosiectau ac ysgrifennu adroddiadau newydd ar waith er budd y byd go iawn.
Drwy’r addysg a’r asesiadau, cewch eich annog i ddatblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar ofal a defnydd casgliadau treftadaeth ddiwylliannol a chymhwyso’r gwersi hynny mewn cyd-destunau byd go iawn gan ystyried arferion cynaliadwy.
Mae eich diddordeb mawr yn y pwnc i’w ddisgwyl, ond nid yw ein rhaglen lefel mynediad sy’n cael ei barchu’n rhyngwladol yn gofyn am lefel uchel o wybodaeth arbenigol, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer unigolion o gefndiroedd y dyniaethau a gwyddoniaeth.
Wrth ddathlu canmlwyddiant Archaeoleg a Chadwraeth yn 2020, rydym ymhlith y 150 gorau yn y byd (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2020) gyda’n hymchwil yn y 12fed safle yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Os oes gennych radd yn seiliedig ar y celfyddydau, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r lefel uchaf o addysg o fewn gwyddoniaeth yr ydych wedi'i gyflawni.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd 2.1, gellir ystyried eich cais ar sail eich cymhwyster addysg uwch a'ch profiad proffesiynol presennol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn astudio 180 credyd o fodiwlau dros dair blynedd.
Mae hyn yn cynnwys 120 credyd o fodiwlau a addysgir ac, ar ôl cwblhau’r cam a addysgir yn llwyddiannus, traethawd hir 60 credyd.
Gan fod nifer o’n rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser yn rhedeg dros dair blynedd, bydd angen i chi wirio a ydych yn gymwys i gael benthyciad i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Asesu a Dylunio ar gyfer Gofal Casgliadau | HST330 | 40 credydau |
Dylunio Ymchwil mewn Gwyddoniaeth Treftadaeth | HST462 | 20 credydau |
MSc Traethawd Cadwraeth | HST592 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dull Gwyddonol mewn Ymarfer Cadwraeth | HST341 | 20 credydau |
Dadansoddiad mewn Gwyddor Treftadaeth | HST342 | 20 credydau |
Gofal Casgliad yn Amgylchedd yr Amgueddfa | HST343 | 20 credydau |
Deunyddiau yn amgylchedd yr amgueddfa | HST344 | 20 credydau |
Sgiliau Ôl-raddedig mewn Archaeoleg a Chadwraeth | HST500 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich dysgu drwy seminarau, darlithoedd a gwaith a asesir i gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymwysiadau ymarferol realistig, gan gynnwys mewn amgueddfeydd partner a sefydliadau treftadaeth cysylltiedig.
Mae’r addysgu fel arfer yn digwydd ar ddydd Iau a dydd Gwener, gyda sesiynau tiwtorial a theithiau maes ychwanegol ar ddydd Mercher.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r Broses Asesu drwy draethodau, arholiadau, cyflwyniadau llafar ac adroddiadau, i sicrhau eich bod yn datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sylfaenol i ddod yn fedrus wrth gyfathrebu’n briodol erbyn i chi gwblhau'r cwrs.
Ar ôl cwblhau elfennau a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at draethawd hir, hyd at 20,000 o eiriau. Mae'r flwyddyn hon o astudio hunanreoledig yn ddelfrydol er mwyn eich paratoi i symud ymlaen i’r PhD.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ôl cofrestru, caiff Tiwtor Personol ei neilltuo i chi a byddwch yn cael adnoddau addysgu a dysgu, gan gynnwys Llawlyfr i Ôl-raddedigion. Mae adnoddau ychwanegol sy’n benodol i’r modiwlau ar gael yn ystod y rhaglen.
Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost hefyd. Yn ogystal, gallwch wneud apwyntiadau i weld eich tiwtor personol ar sail un-i-un i drafod unrhyw fater. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.
Eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt i drafod unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cwrs. Dylid cyfeirio ymholiadau pellach i’r Ysgol.
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis traethodau hir ymresymiadol ond i'r rhai sy'n ffafrio prosiectau labordy sy'n canolbwyntio ar ofalu am gasgliadau mae ystod eang o gyfleusterau dadansoddol ar gael yn fewnol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- SEM Dadansoddol
- Siambrau hinsoddol
- Microsgobeg ddigidol
- Cyfleusterau ffotograffig (yn cynnwys labordy pwrpasol i brosesu delweddau)
- Ystafell cyfrifiaduron
Adborth
Cynigir trafod aseiniadau a rhoddir adborth ysgrifenedig ar asesiadau crynodol. Fe'ch anogir i drafod eich syniadau â thiwtoriaid y modiwl mewn seminarau ac ar sail un-i-un yn ystod oriau swyddfa.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn meithrin ystod eang o sgiliau gan gynnwys y gallu i:
- siarad â chadwraethwyr a gwyddonwyr cadwraeth am bydredd gwrthrychau
- deall strategaethau rheoli syml ar gyfer dadansoddi sefydliadau yn eu cyd-destun ac ar gyfer cynllunio a rheoli newid
- deall rôl unedau mesur a manwl gywirdeb wrth bennu prosesau casglu a dehongli data
- cynnal ymchwil annibynnol ar bynciau arbenigol
- bod yn flaengar, ysgwyddo cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth i gynnig atebion pragmatig i broblemau a hynny'n seiliedig ar dystiolaeth
- cydnabod a defnyddio technegau dylanwadu sylfaenol
- cyflwyno gwybodaeth mewn cyd-destun proffesiynol
- caffael y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,500 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae graddedigion y rhaglen hon wedi mynd ati i ddilyn gyrfaoedd o fewn y sector treftadaeth a phroffesiynau cysylltiedig.
Mae cyrchfannau graddedigion o’r rhaglen hon yn cynnwys Sefydliad Cadwraeth Canada, Amgueddfa Cwm Cynon, Archifau Morgannwg, Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwent Morgannwg, Archifau Gwent, Amgueddfa Horniman, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, hunangyflogaeth, Oriel Tate, Ymchwil ac Arloesedd y DU, Llywodraeth Cymru ac ystod o brifysgolion y DU a thramor.
Roedd 91% o raddedigion yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Archaeology, History and ancient history
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.