Ewch i’r prif gynnwys

Gweinyddu Busnes (MBA)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Ewch i’r afael â heriau arwain ac ystyried effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol busnesau byd-eang.

people

Datblygu arweinyddiaeth

Aseswch eich gallu i arwain, pennu trywydd datblygu personol ac adeiladu sgiliau arwain allweddol ar ein rhaglen bwrpasol, holl gynhwysfawr.

structure

Cysylltiadau Caerdydd

Dewch yn rhan o'n cymuned busnes cyfalaf trwy ddigwyddiadau rhwydweithio, a dod i gysylltiad ag arweinwyr busnes a chynfyfyrwyr.

tick

Prosiect cyflymu

Cyfle i atgyfnerthu eich profiadau dysgu a phroffesiynol wrth i chi ymateb i broblem gymhleth, amlochrog a gyflwynir gan gleient busnes.

star

Caerdydd yn estyn croeso

Beth am gamu i mewn i’r rhaglen a chymuned ddysgu Caerdydd, trwy raglen sydd wedi’i chreu yn arbennig i roi cymorth i chi ymgynefino, ac er mwyn adeiladu tîm.

rosette

Wedi’i hachredu gan AACSB

Mae llai na 5% o ysgolion busnes y byd wedi’u hachredu gan AACSB, sy’n cydnabod rhagoriaeth ysgol busnes.

AACSB logo on a white background
rosette

Wedi’i achredu gan AMBA

Mae ein cwrs MBA wedi’i achredu gan Gymdeithas MBAs (AMBA), un o brif awdurdodau’r byd ar addysg fusnes ôl-raddedig.

Association of MBAs logo on white background

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol uchelgeisiol sy’n ceisio symud ymlaen at uwch-arweinyddiaeth a gyrru newid cadarnhaol busnes? Os yw hyn yn swnio fel chi, yna mae’r MBA Caerdydd yn gam nesaf gwych.

Beth bynnag yw eich cefndir fel rheolwr, rydym yn cynnig profiad heriol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich cefnogi, yn datblygu eich gwybodaeth am fusnes, yn gwella eich hunanymwybyddiaeth ac yn mireinio eich gallu fel arweinydd effeithiol ac ysbrydoledig ar hyd y ffordd.

Cymerwch y cyfle hwn i ffynnu ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol sydd o’r un anian â chi wrth ystyried effeithiau masnachol, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach gwneud penderfyniadau ar fusnes byd-eang.

Newid y byd yw ein busnes ni. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.

Credwn fod dysgu effeithiol wedi’i seilio ar ddau beth: cymryd rhan mewn profiadau amrywiol a heriol a’r ffordd rydych yn gwneud synnwyr o’r profiadau hynny, yn unigol a gydag eraill.

O gofio hynny, caiff y cwrs MBA Caerdydd ei gyflwyno mewn blociau trochol sydd wedi’u dylunio i ysgogi eich chwilfrydedd, llywio eich proses o ymholi a chryfhau cymhwysiad eich dysgu. Fe welwch chi fod pob bloc o ddysgu’n cynnwys amrywiaeth gyfoethog o weithgareddau sy’n cynnwys ymweliadau a chwmnïau, siaradwyr o’r diwydiant, heriau â chyfyngiad amser, chwarae rôl ac efelychiadau.

Byddwch yn elwa ar weithio mewn grwpiau bach ac addysg fesul bloc sy’n eich galluogi i feistroli dulliau rhyngddisgyblaethol penodol cyn cael cyfle i ddatblygu arbenigedd drwy ein prosiect cyflymu. Daw’r rhaglen i ben gyda modiwl clo sy’n dod â’r darnau o arbenigedd a gasglwyd dros gyfnod eich profiad MBA at ei gilydd.

Mae amrywiaeth ein carfan o fyfyrwyr a’n saff academaidd yn gaffaeliad mawr. Bydd cyfleoedd i gydweithio gyda chymheiriaid, academyddion ac ymarferwyr i herio eich strwythurau gwybodaeth, rhagdybiaethau, gwerthoedd a’r sgiliau a oedd gennych eisoes yn eich helpu i ailystyried eich dealltwriaeth bresennol ac i archwilio materion o safbwyntiau gwahanol.

Mae ein cwrs MBA wedi’i ddylunio i fynd i’r afael â heriau bywyd go iawn, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein hasesiad o’ch gwaith. Gan efelychu’r gweithle, byddwch chi’n gweithio yn unigol ac yn rhan o dîm i gwblhau tasgau asesu sy’n cwmpasu strategaeth, personél, ymgynghoriaeth, arloesedd ac argyfwng.

Mae’r strwythur hwn yn eich galluogi i addasu eich rhaglen MBA ar chwech o fodiwlau sy’n canolbwyntio ar her gyda chyfle i fod yn hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa.

 

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda gan eich cyflogwr a/neu gyflogwyr blaenorol i ddangos tystiolaeth bod gennych dair blynedd o brofiad gwaith perthnasol. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
  4. CV cyfredol sy'n cynnwys eich hanes academaidd a gwaith llawn.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, naill ai'n bersonol neu ar-lein, i sefydlu lefel eich profiad gwaith, eich dawn ar gyfer y rhaglen, a'ch cymhelliant. Os byddwch yn bodloni'r gofynion hyn yn y cyfweliad, byddwch yn cael cynnig.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae MBA Caerdydd ar ffurf chwe modiwl sy’n cyflwyno problemau a welwch chi yn aml yn y gwaith ac yn gofyn i chi geisio eu datrys trwy swyddogaethau a chamau nodweddiadol. Bydd nifer o themâu yn integreiddio ar draws y modiwlau. Gall y rhain gynnwys Arweinyddiaeth Gyfrifol, Trawsnewid Digidol a Dyfodol Gwaith. Mae dewis ac arbenigedd wedi'u hymgorffori mewn modiwlau. Er enghraifft, mae'r modiwl 'Wynebu Heriau Mawr' yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio ar her sy'n arbennig o berthnasol i'ch gyrfa yn y dyfodol.

Byddwch chi’n dysgu sut i ddatrys y problemau trwy gyfres o wersi dwys a fydd yn ennyn eich chwilfrydedd, yn llywio’ch proses ymholi ac yn cryfhau’ch gallu i ddefnyddio’r hyn sydd wedi’i ddysgu.

Mae'r dull hwn yn cynnig cyfle euraidd ar gyfer:

  • manteisio ar nifer o weithgareddau hwy i gael deall rhagor
  • cydweithio â’r myfyrwyr eraill er mwyn helpu eich gilydd i ddeall materion
  • trin a thrafod materion o dan arweiniad
  • cydweithredu rhwng myfyrwyr a thîm y rhaglen
  • adolygu dealltwriaeth a datblygiad yn aml
  • canolbwyntio ar un pwnc yn hytrach na cheisio ymdopi â gofynion amryw fodiwlau
  • dysgu annibynnol strwythuredig

Mae’r heriau yn cynnwys efelychu strategaeth fusnes, ateb â chyfyngiadau amser i friff gan uwch dîm rheoli, datblygu ateb busnes arloesol a her gymhleth nifer o randdeiliad. Mae'r Prosiect Cyflymu yn brosiect byd go iawn sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â chleient corfforaethol i ddatblygu atebion i fater strategol sylweddol. Yn y modiwl olaf, bydd argyfwng dychmygol i’ch helpu i ystyried amryw agweddau heriau arwain ar hyn o bryd. Mae’n rhagweld beth fydd y sefyllfa yn y dyfodol yn ogystal â'r newid trawsffurfiol y bydd ei angen.

Trwy ofyn i chi ymateb i heriau, bydd y cwrs dwys hwn yn gwella’ch gallu mewn pedwar maes cysylltiedig. Byddwch yn:

  • dod i ddeall yn gyfannol feysydd a phrosesau busnes craidd yn ôl safbwyntiau swyddogaethol, disgyblaethol a chyd-destunol cyferbyniol;
  • cyfuno elfennau theori ac ymarferol i’ch helpu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • mynd i’r afael â natur gymhleth, ddeinamig ac amwys penderfyniadau strategol;
  • gweld sut gallwch chi gyflawni’ch llawn dwf a datblygu sgiliau uwch arweinydd.

Trwy gydol cyfnod y rhaglen, mae pecyn ategol o weithgareddau Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth yr MBA. Mae’r gweithgareddau’n ymwneud â’r sgiliau personol a phroffesiynol y bydd eu hangen arnoch chi i ateb pob her yn effeithiol a mynd ymlaen i gam nesaf eich gyrfa. Canolbwyntir yn benodol ar fod yn wydn, yn ddyfeisgar, yn gyfrifol ac yn berthynol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dull dysgu gweithredol wedi'i ymgorffori yn MBA Caerdydd. Rydyn ni o’r farn bod dysgu wedi’i seilio ar ddau beth - eich gallu i gydio mewn profiadau amryfal ac ymestynnol a’ch ffordd o bwyso a mesur y profiadau hynny, ar eich pen eich hun ac ar y cyd â’r myfyrwyr eraill. Tîm ac ynddo academyddion o sawl maes ac ymarferwyr amrywiol eu swyddogaethau a’u sectorau fydd yn cyflwyno pob modiwl. Bydd hynny’n adlewyrchu arferion y gweithle ac yn annog pawb i rannu gwahanol safbwyntiau a’u datblygu.

Ym mhob rhan o’r dysgu, bydd amrywiaeth helaeth o weithgareddau, fel ymweld â chwmnïau, siaradwyr o’r byd diwydiannol, datrys problemau yn ôl amserlen, chwarae rolau ac efelychiadau. Diben y rheiny yw gofyn i chi ystyried faint rydych chi’n ei wybod eisoes ac edrych ar faterion o safbwyntiau gwahanol. Bydd cefndiroedd amrywiol y myfyrwyr yn gyfraniad gwerthfawr yn hynny o beth.

Byddwn ni’n eich helpu i fireinio eich sgiliau myfyriol lefel uwch, fel arsylwi, dadansoddi a synthesis er mwyn i chi allu dod i gasgliadau cynhwysfawr am y profiadau hynny.

At hynny, byddwn ni’n eich annog i bwyso a mesur pethau ar y cyd â myfyrwyr, academyddion ac ymarferwyr i gwestiynu eich gwybodaeth, eich tybiaethau, eich egwyddorion a’ch sgiliau. Bydd hynny’n eich galluogi i drin a thrafod natur arferion arwain a busnes a dyfeisio atebion creadigol i broblemau busnes.

Byddwch yn cael cyfleoedd i gyfuno a defnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu â’r sgiliau sydd wedi’u meithrin yng ngweithdai’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth i gyflawni tasgau ymarferol ym mhob bloc astudio yn ogystal â’r heriau gwaith cwrs ffurfiol mae pob modiwl wedi’i seilio arno.

Sut y caf fy asesu?

Mae strwythur blociau’r rhaglen yn rhoi digon o gyfleoedd i chi fyfyrio’n anffurfiol ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu ac ar eich datblygiad. Ym mhob modiwl, mae gweithgareddau byr ar gyfer adolygu gwybodaeth a sgiliau er mwyn i chi allu cadw llygad ar eich cynnydd a gwella’ch ffordd o ddysgu. Bydd hynny’n rhoi hwb i’ch hyder ac yn gwella eich ffordd o drin a thrafod tasgau asesu ffurfiol.

Mae problemau ymarferol wrth wraidd yr asesu ffurfiol ym mhob modiwl. Bydd disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu ystyried pob tasg yn academaidd yn ogystal â defnyddio diwygiau nodweddiadol byd busnes i gyflwyno eich canfyddiadau, fel cyflwyniadau ar lafar ac adroddiadau ysgrifenedig.

Mae tasgau asesu’n gofyn i chi weithio'n unigol ac yn rhan o dîm, yn union fel y byddech chi yn y gweithle.

Bydd yr holl asesiadau ffurfiol yn cael eu cwblhau ym mhob bloc modiwl. Bydd hynny’n eich galluogi i atgyfnerthu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu cyn ei ddefnyddio i gyflawni’r tasgau asesu sydd wedi’u seilio ar waith cymhleth arweinwyr busnes. Mae’n adlewyrchu amserlenni arferol y gweithle o ran cyflawni tasgau hefyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion. Mae’r rhain yn cynnwys:

Dysgu Canolog

Amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol yw Dysgu Canolog. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn ystod darlithoedd ac ar ôl darlithoedd.

Llyfrgelloedd

Mae copïau caled ac electronig o amryw o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar gael i fyfyrwyr y rhaglen. Mae Llyfrgell Aberconwy ar brif safle’r Ysgol Busnes, ac mae adnoddau ychwanegol yn y llyfrgelloedd eraill sydd ar y campws. Mae llawer o gyfnodolion a llyfrau ar ffurf electronig ar gael hefyd.

System Tiwtor Personol

Bydd pob myfyriwr yn cael Tiwtor Personol. Bydd yr aelod hwnnw o’r staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Bydd eich Tiwtor Personol yno i wrando ar unrhyw bryderon, gan gynnig arweiniad proffesiynol lle bo modd neu ddangos ble mae’r cymorth priodol.

Gwasanaeth Cynghori’r Myfyrwyr

Cynigir gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim, a hynny heb fynegi barn, i fyfyrwyr ynglŷn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.

Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Mae cyngor a chymorth cyfrinachol yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr anabl, y rhai ag arnyn nhw anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, a’r rhai sy’n dioddef â chyflwr meddygol hirdymor.

Gwasanaeth Cwnsela

Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn botensial ac ystyried ffyrdd o newid. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dyfeisio atebion cyfun i broblemau cyfundrefnol cymhleth yn ôl eich profiad o reoli a’r hyn rydych chi’n ei wybod am fusnes.
  • Gwerthuso’n feirniadol fersiynau diweddaraf fframweithiau, modelau, dadleuon a thystiolaeth ym maes rheoli a’u rhoi ar waith.
  • Gwerthuso’n feirniadol y gwahanol sgiliau ymchwil ac ymgynghori ar gyfer trin a thrafod problemau busnes sy’n cynnwys sawl elfen.
  • Dadansoddi’r cyd-destun amgylcheddol cymhleth sy’n dylanwadu ar benderfyniadau strategol sefydliadau ac ar sail ymarferol.
  • Dangos eich bod yn gyfarwydd â phob elfen o’r anawsterau mae busnesau’n eu hwynebu ynglŷn â chyfrannu’n economaidd ac yn gymdeithasol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dod o hyd i wahanol ffynonellau ymchwil a thystiolaeth ymgynghorol a gwahaniaethu rhyngddyn nhw.
  • Dadansoddi dulliau cynhyrchu data sylfaenol a gwybodaeth am faterion rheoli.
  • Dadansoddi’n feirniadol safbwyntiau cyferbyniol a’u tystiolaeth ategol, a’u cyfosod.
  • Cyfuno theori â phrofiadau amrywiol o’r gweithle.
  • Llunio dadleuon cryf o blaid cynlluniau gweithredu hyfyw a chreadigol i argyhoeddi a hysbysu amryw gynulleidfaoedd.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Gwerthuso’r modd mae theori ac ymarfer yn cael eu rhoi ar waith i ateb problemau di-strwythur, seiliedig ar ymarfer.
  • Dangos eich bod yn berson rhagweithiol sy’n gallu ac yn fodlon mentro.
  • Dangos eich bod yn arweinydd cyfrifol a moesegol.
  • Nodi a diwallu anghenion datblygu personol a phroffesiynol.
  • Llunio ffyrdd credadwy o gasglu data sylfaenol.
  • Gallu gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd heriol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn tîm arwain.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Datrys problemau yn greadigol.
  • Cyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol trwy nifer o gyfryngau.
  • Dangos eich bod yn gallu hunanfyfyrio a bod gennych hunanymwybyddiaeth.
  • Gweithio’n annibynnol ac ar y cyd.
  • Defnyddio technoleg ddigidol.
  • Rheoli eich hun a phobl eraill.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £31,950 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA)

Mae ysgoloriaethau gwerth £7,500 ar gael i’r ymgeiswyr hynny sy’n mynd drwy’r broses derbyn myfyrwyr yn llwyddiannus ac sy’n ymrestru i ddilyn unrhyw un o’n rhaglenni MBA.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg MBA fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Mae’r cwrs MBA Caerdydd wedi’i ddylunio gyda’ch dyfodol chi mewn golwg. Byddwch yn elwa ar ein Gwasanaeth Mantais Gyrfaol (CAS), sy’n rhoi mynediad i chi at wybodaeth ac arbenigedd ymgynghorydd gyrfa a hyfforddwr ar gyfer datblygiad proffesiynol personol.

Ochr yn ochr â’r CAS, bydd Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth gofleidiol, bwrpasol yn eich helpu i asesu eich gallu o ran arwain, datblygu llwybr datblygu personol ac adeiladu sgiliau arwain allweddol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
  • darlithoedd gwadd
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd cwblhau’r profiad dysgu eang ac amrywiol hwn yn eich galluogi i ymgeisio am swyddi uwch neu chwilio am newid gyrfa trawsnewidiol.

Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr profiadol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, gallwch chi ymgeisio am swyddi uwch neu chwilio am newid trawsffurfiol yn eich gyrfa.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Business


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.