Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
Applied-Geology
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae ffocws galwedigaeth i’n gradd MSc mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol ac mae’n darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth gydag chwmnïau ymgynghori geo-amgylcheddol a geo-dechnegol ac asiantaethau amgylcheddol y llywodraeth.

location

Unique location

South Wales provides a wide range of highly relevant geoenvironmental and geotechnical locations, which we visit during field trips and use in case studies.

tick

Modiwlau arbenigol

Byddwch yn astudio pynciau galwedigaethol arbenigol fel tir halogedig a geodechnegau, ac yn meithrin rhagor o sgiliau gyda modiwlau a fydd yn gwella eich sgiliau proffesiynol.

scroll

Datblygiad proffesiynol

Byddwch yn datblygu'r sgiliau trosglwyddadwy amrywiol sydd eu hangen ar ddaearegydd cymhwysol proffesiynol modern sydd ar drywydd gyrfa i ennill cymhwyster Daearegydd Siartredig (C.Geol).

briefcase

Prosiect proffesiynol

Byddwch yn cwblhau lleoliad diwydiannol neu brosiect ymchwil mewnol sy'n cael ei yrru gan eich diddordebau eich hun mewn lleoliad neu sefydliad o'ch dewis, gan gynnwys y tu allan i'r DU.

star

Achrediad proffesiynol

Mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearegol.

Mae'n ofynnol i ddaearegwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn ymgynghoriaethau, awdurdodau rheoleiddio ac asiantaethau amgylcheddol y llywodraeth ddefnyddio ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy yn eu swyddi. Felly, mae galw mawr am ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, cyfathrebu, ymchwil broffesiynol ac ysgrifennu adroddiadau, yn ogystal â gwybodaeth academaidd a sgiliau maes yn y proffesiynau hyn.

Mae'r cwrs MSc Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol amser llawn hwn yn cael ei addysgu’n rhannol ac yn brosiect proffesiynol yn rhannol. Ein nod yw datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy mewn cyd-destun proffesiynol a rhoi cychwyn da i chi yn y proffesiwn daeareg o'ch dewis neu ar gyfer dechrau PhD.

The dual coverage of Geotechnical and geoenvironmental aspects within the course really prepared me for a career in ground investigation. I have been able to draw on content from a variety of modules, which I feel gave me the edge in a recent (successful) job interview for a new role. The hands on and practical nature of the course meant that when I left and started my first 'proper job' I not only felt well prepared for the tasks at hand, but also like I already had a year’s experience in industry under my belt.
Rhian Lynes, MSc Applied Environmental Geology

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym yn gwneud synnwyr o'n byd sy'n newid ac yn datrys rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas, economi ac amgylchedd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4830
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn peirianneg sifil, gwyddor daear, peirianneg amgylcheddol, gwyddor amgylcheddol, daeareg (gan gynnwys archwilio, mwyngloddio ac adnoddau), geoffiseg, geowyddoniaeth, geoberyglon, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes pwnc perthnasol, neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2, gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol:
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae dau gam i'r MSc Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol.

Mae Cam 1 yn para am 7 mis (Medi - Ebrill); dyma pryd byddwch yn cwblhau gwaith maes a modiwlau a addysgir, a bydd gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn cyfrannu’n sylweddol at y cam hwn.

Yn y modiwlau hyn, byddwn yn ymchwilio i themâu cyffredinol, fel egwyddorion peirianneg geodechnegol a geoffiseg. Byddwn hefyd yn edrych ar themâu amgylcheddol yn fanylach gan gynnwys halogi tir, rheoleiddio amgylcheddol, ymddygiad priddoedd a dŵr.

Os byddwch yn pasio Cam 1 byddwch yn symud ymlaen i Gam 2, sef prosiect proffesiynol 5 mis o fis Mai i fis Medi a fydd yn arwain yn y pen draw at draethawd hir. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cynnig lleoliad diwydiannol i chi gyda chwmni proffesiynol naill ai yn y DU neu dramor dros yr haf, er mwyn i chi gwblhau eich prosiect.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Am y saith mis cyntaf, o fis Medi i fis Ebrill, byddwch yn cwblhau modiwlau a addysgir a gwaith maes ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl hyn, byddwch yn symud ymlaen i leoliad 5 mis yn y DU neu dramor lle byddwch yn ymgymryd â phrosiect proffesiynol ac yn cwblhau eich traethawd hir.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Gall y dulliau addysgu a ddefnyddiwn amrywio o un modiwl i’r llall. Yn gyffredinol, rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, gwaith ymarferol a gwaith maes. Mae gennym hefyd gyfres o ddarlithoedd gyda siaradwyr gwadd o bob rhan o'r proffesiwn, yn ogystal â chysylltiadau cryf â'r Gymdeithas Ddaearegol.

Ar y cwrs, byddwch yn ymgymryd â gwaith labordy mewn sawl modiwl. Mae hyn yn cynnwys profion labordy safonol sy'n cwmpasu priodweddau ffisegol a mecanyddol priddoedd, ac arbrofion llif dŵr i ddysgu cysyniadau hydrolegol a hydroddaearegol.

Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth am offer rhifiadol i fodelu problemau geodechnegol y byd go iawn. Defnyddir meddalwedd rhaglenni, fel CorelDraw, Surfer, ArcGIS, yn ogystal â meddalwedd geobeirianneg proffesiynol, fel Rockscience a Landsim, drwy gydol y cwrs.

Rydyn ni’n annog cyfathrebu a gwaith tîm drwy gydol y cwrs. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn i chi weithio mewn timau mewn labordai ac ar deithiau maes. Mae ein hyfforddiant prosiect yn cynnwys sgiliau goruchwylio a chydlynu ystod o dasgau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â phroblemau geodechnegol a geoamgylcheddol penodol.

Sut y caf fy asesu?

Rydyn ni’n defnyddio ystod eang o ddulliau asesu, yn dibynnu ar y modiwl. Mae'r rhain yn cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, cyflwyniadau, asesiad ymarferol, eich lleoliad diwydiannol a'ch traethawd hir (20,000 o eiriau).

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich cefnogi mewn nifer o ffyrdd yn ystod y cwrs.

Rydyn ni’n defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, i rannu deunyddiau cwrs, gan gynnwys darlithoedd, adroddiadau proffesiynol a dolenni i asiantaethau'r llywodraeth. Gallwch hefyd ddefnyddio Dysgu Canolog i gyfathrebu a rhannu syniadau â chydfyfyrwyr a thiwtoriaid cwrs.

Byddwch yn cael defnyddio'r Llyfrgell Gwyddoniaeth, sy'n cynnwys deunyddiau sy'n gysylltiedig â Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, yn ogystal â llyfrgelloedd eraill y Brifysgol.

Byddwch yn cael tiwtor personol pan fyddwch yn cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Ar gyfer eich traethawd hir, byddwn yn dyrannu goruchwyliwr academaidd i chi ac, os yw eich prosiect wedi'i leoli y tu allan i Gaerdydd, byddwch yn cael goruchwyliwr diwydiannol. Dylech gadw mewn cysylltiad â'ch goruchwyliwr academaidd a/neu ddiwydiannol yn rheolaidd drwy e-bost a mynychu o leiaf un cyfweliad cynnydd personol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod cyfnod y traethawd hir.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech allu gwneud y canlynol:

  • Ysgrifennu ac esbonio egwyddorion a chysyniadau gwyddonol craidd mecaneg pridd/creigiau, llif dŵr, a llygredd pridd, dŵr ac aer.
  • Nodi'r safonau, y rheoliadau, y polisïau a'r fframweithiau cyfreithiol sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer daeareg amgylcheddol gymhwysol yn broffesiynol.
  • Gwneud ymchwil ac ysgrifennu adroddiad safle proffesiynol ar berygl geo-amgylcheddol gan ddefnyddio ffynonellau sylfaenol a thechnegau GIS.
  • Dylunio a gweithredu ymchwiliad ar safle ac mewn labordy o nodweddion geodechnegol, geoffisegol, hydroddaearegol a geoamgylcheddol, dadansoddi'r data a datblygu atebion adferol ar gyfer problemau geoamgylcheddol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol (yn ysgrifenedig ac ar lafar) mewn timau amlddisgyblaethol, gweithredu'n foesegol ac yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch, ac asesu cynaliadwyedd polisïau a phrosiectau.
  • Deall y ffactorau geodechnegol, geocemegol a hydroddaearegol y mae'n rhaid eu hystyried wrth ymchwilio a darparu atebion i ystod eang o broblemau sy'n bodoli mewn Daeareg Gymhwysol ac Amgylcheddol.
  • Dangos ymwybyddiaeth a gwybodaeth am; faterion iechyd, diogelwch, gwyddonol, safonau technegol y DU, cyfreithiol a masnachol sy'n berthnasol i ymarfer proffesiynol fel Daearegwr Cymhwysol.
  • Cynnal astudiaeth synhwyro o bell ac astudiaeth desg hanesyddol o safle diwydiannol blaenorol a datblygu model cysyniadol o dir y safle hwnnw i helpu i ailddatblygu a chynllunio.
  • Dangos gwybodaeth uwch am natur a geocemeg halogyddion a geir mewn dyfroedd daear ac arwyneb, priddoedd, safleoedd tirlenwi, mwyngloddiau wedi’u gadael, a llygredd atmosfferig.
  • Gwybodaeth am briodweddau peirianyddol ac ymddygiad creigiau a phridd gan gyfeirio at faterion sefydlogrwydd tir, peryglon daearegol, adeiladu a gwaddol mwyngloddio diwydiannol.
  • Dangos dealltwriaeth o'r technegau geoffisegol a’r ymchwiliad tir priodol i fod yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad safle penodol.
  • Dangos dealltwriaeth systematig o'r paramedrau hydroddaearegol a daearegol sy'n pennu natur a llif dŵr daear.
  • Dangos sgiliau lefel uchel mewn asesu strategaethau adfer sy'n seiliedig ar risg ar gyfer ystod o gategorïau tir halogedig a defnyddiau terfynol.
  • Dangos gwybodaeth gynhwysfawr am weithdrefnau Asesu'r Effaith Amgylcheddol a'r fframwaith cyfreithiol rheoleiddiol a gymhwysir yn y Gyfraith yn y DU.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.

Mae'r Ysgol yn darparu hetiau diogelwch caled, dillad PPE a llyfr nodiadau technegol gwrth-ddŵr, ond mae'n ofynnol i fyfyrwyr brynu esgidiau o fath ""riger"" eu hunain, sydd wedi’u cymeradwyo’n ddiogel ac sy'n addas ar gyfer ymweliadau safle diwydiannol (gellir eu prynu am lai na £20). Sylwch nad yw esgidiau cerdded yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymweliadau safle diwydiannol gan nad ydyn nhw wedi’u hatgyfnerthu â dur.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol.

Mae meddalwedd arbenigol ar gyfer y rhaglen ar gael ar gyfrifiaduron ar y rhwydwaith yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear ac Amgylcheddol.

Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Gwyddoniaeth, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae natur gymhwysol y cwrs hwn yn gwneud yn siŵr bod ein graddedigion yn meddu ar ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt mewn diwydiant.

Yn dilyn y radd hon efallai y byddwch yn dewis gweithio ym maes ymgynghori, awdurdodau rheoleiddio neu asiantaethau amgylcheddol y llywodraeth ar draws y byd. Efallai y byddwch hefyd yn penderfynu gwneud ymchwil pellach a chwblhau PhD.

Cewch hyd i gynfyfyrwyr yn gweithio i gwmnïau megis Network Rail, Mott McDonald, Cyfoeth Naturiol Cymru, Environment Agency England, WSP, Ove Arup, Atkins, a nifer o ymgyngoriaethau ac asiantaethau geo-amgylcheddol eraill arbenigol o amgylch y DU a thu hwnt.

Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn dod yn rhan o linell hir (>30 mlynedd) o gyn-fyfyrwyr sydd bellach i’w cael ar draws y sector daeareg amgylcheddol cyfan, o lefel mynediad i uwch reolwyr a rheoleiddwyr, ledled y byd. Darllenwch hanesion gyrfa ein cyn-fyfyrwyr.

Lleoliadau

Byddwch yn mynd ar leoliad proffesiynol mewn diwydiant fel rhan o ail gam y cwrs. Bydd y lleoliad hwn yn para am 5 mis (Mai - Medi), a byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ac yn cwblhau eich traethawd hir yn ystod y cyfnod hwn.

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i leoli myfyrwyr gyda phartneriaid diwydiannol pan fo hynny’n bosibl. Gall lleoliad hwn fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor, cyhyd â bod y prosiect yn cael ei ystyried yn ddiogel o ran logisteg ac yn academaidd ddichonadwy.

Gwaith maes

South Wales provides a wide range of highly relevant geoenvironmental and geotechnical case studies and site visits. These include site visits to the Cardiff Bay Barrage, acid mine drainage from abandoned mines and active landslides in the south Wales Valleys. Field work includes surveying skills, rock engineering to the Rhondda Valley and Cardigan, site investigation visits to the Mumbles, Bournville landslide, as well as contaminated land studies at Barry Docks and Bryn Pica landfill site. All fieldwork on this course is compulsory.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Earth sciences, Environmental science, Geology


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.