Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i fyfyrwyr PhD yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae dau fyfyriwr PhD o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi sicrhau darlithyddiaethau yn yr Ysgol, sy’n dipyn o gamp.

Mae Catherine Dunn a Dominic Roche, a lwyddodd ill dau i sicrhau eu lleoedd cyn cwblhau eu PhD, yn llawn cyffro ynglŷn â’r cyfle i barhau yn yr Ysgol, fel darlithwyr.

Portrait shot of a woman with chin-length hair.

Stori Catherine

Hyfforddodd Catherine fel nyrs yn syth ar ôl cwblhau ei Safon Uwch ac aeth ymlaen i weithio mewn llawfeddygaeth gardiothorasig, ac yna cardioleg. Astudiodd ar gyfer ei gradd Meistr yn y Coleg Imperial, Llundain ac yna dychwelodd i Gaerdydd yn 2005 i weithio ym maes cardioleg.

Daeth i Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth Caerdydd (Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd bellach) i ddilyn y cwrs Rhagnodi Annibynnol (ar ôl hynny bu’n rhedeg Clinig Poen Mynediad Cyflym a arweinir gan nyrsys yn Ysbyty Athrofaol Cymru tan 2009) ac yna unwaith eto i addysgu fel Darlithydd Cysylltiol. Llwyddodd i sicrhau cyllid ar gyfer ei PhD yn 2009. Mae’n dal i wneud rhywfaint o waith clinigol ochr yn ochr â’i haddysgu a’i gwaith ymchwil.

Dechreuodd Catherine addysgu yn gynharach eleni ac mae wrthi'n cwblhau ei PhD, sef 'An exploration of barriers to the disclosure of erectile dysfunction as an early warning of coronary heart disease'. Mae'r prosiect yn astudiaeth ansoddol, gan ddefnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig a holiaduron i archwilio profiadau a dealltwriaeth cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ddatgelu anhawster i gael codiad.

Wrth drafod ei hastudiaethau dywedodd Catherine fod, "dychwelyd i astudio’n llawn amser ychydig yn frawychus ar y dechrau. Nid oeddwn wedi astudio’n llawn amser ers fy hyfforddiant nyrsio cychwynnol 11 mlynedd ynghynt. Ers cymhwyso roeddwn wedi astudio’n rhan-amser yn yr Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth, felly gwyddwn y byddai'n amgylchedd cefnogol; er hynny, cefais fy synnu gan faint o gefnogaeth oedd ar gael.

"Roeddwn yn hapus iawn i ddarganfod faint o gefnogaeth oedd ar gael."

Catherine Dunn

"Yn ystod y blynyddoedd a dreuliais yn astudio, magais hyder ac ochr-yn-ochr â hynny, gwnes fwy a mwy o geisiadau am wahanol  ysgoloriaethau ymchwil a bwrsariaethau! Cefais fy nerbyn fel myfyriwr ar raglen ysgol haf yr Academi Gwyddorau Nyrsio Ewropeaidd, cefais gyllid i fynychu cynhadledd Cymdeithaseg Feddygol y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig a’i digwyddiad ymchwilwyr cynnar ac roeddwn yn un o dri unigolyn a gafodd grant er mwyn mynychu cynhadledd y Cyngor Nyrsio Cardiofasgwlaidd Ewropeaidd yn Copenhagen.

"Mae pob un o'r profiadau hyn wedi fy helpu i ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol ac ni fyddai'r un ohonynt wedi bod yn bosibl heb y cymorth a'r gefnogaeth a gefais yn ystod fy astudiaethau PhD gan aelodau o staff a chyd-fyfyrwyr yr ysgol, sef Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd bellach.

Gwnaeth Catherine gais am ddarlithyddiaeth fis Ionawr diwethaf ac fe'i penodwyd ym mis Mawrth. Gan nad oedd hi wedi cwblhau ei PhD eto, awgrymodd y Deon y dylai ddechrau ym mis Awst, ar ôl iddi ysgrifennu ei thraethawd ymchwil.

"Roeddent yn gefnogol iawn ac rwyf nawr yn addysgu ar gymysgedd o gyrsiau graddau ôl-raddedig a chyrsiau israddedig cyn cofrestru."

Man with short dark hair, wearing a jumper, is looking into the camera and smiling.

Stori Dominic

Gadawodd Dominic yrfa mewn rheoli prosiectau i ailhyfforddi fel nyrs yn 2005 yn Abertawe, gan gymhwyso yn 2008 a pharhau i wneud gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus ochr yn ochr â gwaith clinigol. Enillodd ysgoloriaeth ymchwil PhD gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) a daeth i Brifysgol Caerdydd pan gymerodd ei oruchwyliwr PhD, Dr Aled Jones, swydd yn yr Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth yn 2011.

"Deuthum i Brifysgol Caerdydd chwe mis i mewn i fy PhD a’r peth cyntaf a'm trawodd oedd y gymuned ôl-raddedig eithriadol o gynnes, cyfeillgar a chefnogol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Ceir cymysgedd amrywiol o unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd a chefais groeso cynnes gan bob un ohonynt. Gallaf ddweud yn hyderus fy mod wedi gwneud ffrindiau am oes!

"Y peth cyntaf wnaeth fy nharo i oedd y gymuned ôl-raddedig eithriadol o gynnes, gyfeillgar a chefnogol o'm cwmpas."

Dominic Roche

"Mae'r cyfleusterau yn rhagorol gan gynnwys gofod gwaith personol dynodedig ar gyfer pob myfyriwr gyda chyfleusterau TG da (a chymorth TG gwych yn Nhŷ Eastgate). Mae gan yr ysgol brosesau adolygu PhD trwyadl ar waith i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y lefel o gefnogaeth sydd ei hangen i'w alluogi i ffynnu a llwyddo yn ei waith ymchwil.

"Mae safon y goruchwylio academaidd a gefais wedi bod o’r radd flaenaf a gwn fod myfyrwyr eraill wedi cael profiad yr un mor gadarnhaol. Mae’r cymorth anffurfiol a gynigir o ddydd i ddydd gan staff academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig eraill wedi bod yn help mawr hefyd. Mae'r Ysgol hefyd yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau a seminarau pwrpasol, yn aml dan arweiniad academyddion a chlinigwyr blaenllaw, gan gynnwys yn ddiweddar yr Athro Mary Dixon Woods a’r Athro Sue Bale OBE.

"Ceir cyfleusterau ôl-raddedig o’r radd flaenaf ym mhob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys gofod ôl-raddedig gwych yn y prif ysbyty ar Gampws y Mynydd Bychan, ynghyd ag adeilad newydd a modern Adeilad Cochrane. Mae Coleg Graddedigion y Brifysgol wedi bod yn agoriad llygad i mi – mae amrywiaeth ac ansawdd y cyrsiau a'r cymorth sydd ar gael yn arbennig. Mae’r Coleg yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau 'Dechrau Arni' ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig newydd, sy’n rhoi croeso arloesol a difyr i'r Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo ethos o weithio traws-ddisgyblaethol, a gefnogir gan y Coleg ar ffurf cynadleddau amlddisgyblaethol, a arweinir gan fyfyriwr drwy gydol y flwyddyn academaidd.Caiff myfyrwyr ôl-raddedig eu hannog i ymuno â phwyllgorau trefnu’r digwyddiadau hyn i gael profiad o gynllunio digwyddiad ac i ffurfio cysylltiadau parhaus rhwng Ysgolion a Cholegau ar draws y brifysgol.

I ddechrau bydd Dominic yn rhoi 50% o'i amser i gwblhau ei PhD a 50% i addysgu. Teitl PhD Dominic yw ‘A realist evaluation of patient involvement in a safer surgery initiative’. Mae'n canolbwyntio ar ymdrechion i wella diogelwch cleifion drwy hyrwyddo’r broses o gynnwys cleifion yn y gwaith o gynllunio a darparu gofal llawfeddygol drwy raglen Gwell Adferiad Ar Ôl Llawdriniaeth.

O ran y cyfleoedd ar gyfer addysgu rhan-amser ochr yn ochr â PhD, meddai Dominic: "Rwyf wedi gwneud mwy o addysgu yn ystod fy PhD, gan gael profiad ychwanegol ochr yn ochr â’m gwaith ymchwil. Nid oes disgwyl i chi addysgu yn yr Ysgol, ond anogi’r hynny ac mae staff yn yr Ysgol wedi bod yn gefnogol iawn."

Dywedodd Katie Featherstone, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig yn yr Ysgol, “Rwy’n falch iawn o Cath a Dom, mae’r ddau wedi gwneud cyfraniad cryf at y diwylliant ymchwil ac addysgu yn yr Ysgol yn ystod eu PhD. Maent yn rhoi esiamplau da i’n myfyrwyr, fel academyddion gyrfa gynnar sy’n datblygu corff o ymchwil glinigol berthnasol sydd hefyd yn llywio eu haddysgu. "