Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr PhD yn ehangu'i gorweIion â thaith ymchwil i'r UDA

Mae Beatrice Berthon yn ymchwilydd PhD mewn Ffiseg Feddygol yn yr Ysgol Meddygaeth sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith ymchwil 21 diwrnod i UDA a ariannwyd gan Wobr Deithio IPEM.

Beatrice Berthon, Myfyriwr PhD tu allan i brif adeilad Prifysgol John Hopkins.
Beatrice Berthon, Myfyriwr PhD tu allan i brif adeilad Prifysgol John Hopkins.

"Roedd yn rhaid i mi gysylltu â’r grwpiau yr oedd gennyf ddiddordeb ynddynt a darparu llythyrau gwahoddiad ar gyfer y cais am y wobr, yn ogystal ag amserlen fanwl ar gyfer y daith a chynllun cyllideb. Pwrpas y daith oedd ymweld â labordai/cwmnïau sy’n gweithio ar bynciau sy'n berthnasol i’m prosiect PhD ac i ddysgu am feysydd perthnasol.

"Mae fy nhaith wedi atgyfnerthu cysylltiadau yr oedd gan ein grŵp â rhai grwpiau draw yno, wedi creu rhai newydd ac mae wedi fy helpu i ehangu fy rhwydwaith. Llwyddais hefyd i gyflwyno fy ngwaith a thrafod cyfleoedd posibl."

Ymwelodd Beatrice ag Adran Oncoleg Ymbelydredd Prifysgol Emory a Velocity Medical Solutions yn Atlanta a mynychodd 55ain Cyfarfod Blynyddol ASTRO yn Atlanta, cyn ymweld â George Sgouros RTD Lab ym Mhrifysgol John Hopkins, Athrofa Ymchwil Feddygol Wisconsin a’r Memorial Sloane-Kettering Cancer Centre yn Efrog Newydd.

"Cefais daith wych, a oedd yn gyffrous iawn o ran ymchwil arloesol, a phrofiad diwylliannol. Roeddwn yn ffodus i weld un o'r systemau ViewRay cyntaf, offeryn darparu MRI ac RT hybrid. Ymysg fy uchafbwyntiau hefyd roedd ymweliad â’r World of Coca Cola mawreddog yn Atlanta, a thaith gerdded i lyn prydferth Devil’s Lake gyda’r grŵp ymchwil yr oeddwn yn westai iddynt yn Madison, Wisconsin.

"Dim ond ychydig o bobl yr oeddwn yn eu hadnabod drwy ohebu dros e-bost, ond roedd fy ngwesteiwyr yn gyfeillgar iawn ac yn barod i’m tywys o gwmpas. Cefais brofiad gwych yn treulio amser gwerthfawr gyda myfyrwyr PhD eraill.

"Roedd y profiad hwn yn gam mawr ymlaen yn natblygiad fy ngyrfa, gan ei fod wedi fy helpu i ehangu fy ngorwelion a'm gweledigaeth o faes Ffiseg Feddygol. Ymwelais â sefydliadau a grwpiau ymchwil gwahanol iawn, a dysgais am feysydd newydd lle y gellir cymhwyso fy mhrofiad a’m sgiliau. Bydd hyn o gymorth mawr ar gyfer dewis y cam nesaf yn fy ngyrfa. Gwnes lawer o gysylltiadau pwysig hefyd.

"Roedd cyflwyno fy ngwaith i grwpiau eraill hefyd yn brofiad gwych, gan ei fod wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau cyflwyno a magu hyder. Amlygodd y trafodaethau a gefais ynglŷn â’m prosiect ag ymchwilwyr eraill gryfderau a gwendidau fy ngwaith, gan roi syniadau i mi ar gyfer camau olaf fy mhrosiect PhD.

"Byddwn yn argymell y math hwn o brofiad yn gryf. Achubwch ar unrhyw gyfle i weld beth sy’n digwydd mewn llefydd eraill, a sut!"

Dechreuodd Beatrice ei PhD Ffiseg Feddygol yn 2011 ar ôl ennill ysgoloriaeth ymchwil PhD a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru drwy’r Ysgol Meddygaeth. "Penderfynais wneud gradd ôl-raddedig gan fod gennyf ddiddordeb mawr yn y broses ymchwil academaidd, a gan fy mod yn meddwl bod hwn yn brofiad unigryw a fyddai hefyd yn ased allweddol ar gyfer fy ngyrfa.

"Mae fy ngoruchwylwyr wedi fy annog i gymryd rhan mewn cynadleddau, cyhoeddi fy ngwaith a chymryd rhan mewn hyfforddiant. Rwyf wedi cael llawer o wybodaeth gan y Brifysgol am hyfforddiant sydd ar gael, ac wedi cael fy annog i gyflwyno fy ngwaith ar y diwrnod ymchwil ôl-raddedig. Roedd rhywfaint o'r hyfforddiant a gefais yn ddefnyddiol a difyr, roedd yn newid perffaith ac yn gyfle da i gwrdd â myfyrwyr eraill.