Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn cynnig graddau ymchwil mewn disgyblaethau meddygol fel canser, imiwnoleg, haint, imiwnedd, y niwrowyddorau, iechyd meddwl, meddygaeth boblogaeth ac addysg feddygol.

Am ymhell dros 100 mlynedd mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i geisio gwella iechyd drwy addysgu, ymchwilio ac ymgysylltu â’r byd ehangach.

Cefnogir ein ymrwymiad i ragoriaeth ymchwil drwy ganolfannau grwpiau ac unedau ymchwil sy’n gweithio ar y cyd yn ein cyfleusterau modern.

Drwy gyflawni gwaith yn ein hadrannau gwaith ymchwil, mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan mewn gwyddoniaeth arloesol ac ymchwil o'r radd flaenaf ym maes meddygaeth sy'n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.

Pwy sy'n astudio Gradd Uwch yn yr Ysgol Meddygaeth?

  • Gwyddonwyr Biolegol
  • Gwyddonwyr Cyfrifiadurol a Bioiwybodegwyr
  • Epidemiolegwyr, Ystadegwyr, Mathemategwyr
  • Seicolegwyr, Gwyddonwyr Cymdeithasol
  • Gwyddonwyr Ffisegol.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil, MD
Hyd amser llawn PhD 3-4 blynedd; MD 2 flynedd; MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 blynedd; MD 3 blynedd; MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

PhD

Mae gwneud PhD yn gyfle cyffrous a buddiol i edrych ar rywbeth yn fanwl, ymysg ymchwilwyr sy'n arwain y maes gyda chyfleusterau sydd wirioneddol o'r radd flaenaf. Mae gofyn i ymgeiswyr wneud cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth drwy gynnal prosiect ymchwil annibynnol.

MD

Fel arfer bydd gan y prosiect ymchwil ffocws clinigol, ond gallai agweddau eraill ar ddarpariaeth gofal iechyd a meddygol fod yn sail i bwnc y gwaith ymchwil. Mae gofyn i ymgeiswyr fel arfer fod â gradd MBBCH neu gymhwyster cyfatebol. Fel arfer mae ymgeiswyr wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

MPhil

Mae MPhil yn rhaglen annibynnol sy'n caniatáu ymgeiswyr i ymgymryd â rhaglen ymchwil dros un flwyddyn. Weithiau, gall hyn fod yn gam canolradd cyn cofrestru ar raglen PhD dilynol; gan ddibynnu ar sut y bydd y prosiect yn datblygu.

Sgiliau a Ddatblygwyd

Bydd myfyrwyr yn elwa o feithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol yn ystod eu hastudiaeth ymchwil. Gan ddibynnu ar y prosiect, gall y rhain gynnwys:

  • sgiliau labordy
  • dadansoddiad beirniadol
  • dadansoddiad ansoddol
  • dadansoddiad meintiol
  • sgiliau cyfweld ansoddol
  • hwyluso grŵp ffocws
  • sgiliau cyflwyno (gwyddonwyr, y cyhoedd)
  • cyhoeddi academaidd ac ysgrifennu grant.

Asesiad

Traethawd (80,000 o eiriau ar gyfer PhD, 60,000 o eiriau ar gyfer MD a 50,000 o eiriau ar gyfer MPhil) ac arholiad viva voce.

Mae ein hymchwil yn hoelio’i sylw ar themâu rhyngddisgyblaethol sydd i gyd yn rhychwantu’r sbectrwm o wyddoniaeth sylfaenol i ymarfer clinigol mewn ysbytai neu yn y gymuned. Mae ein themâu ymchwil allweddol yn cynnwys:

  • Canser a Geneteg
  • Haint ac Imiwnedd
  • Meddygol Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
  • Meddygaeth y Boblogaeth
  • Addysg Feddygol

Ein nod sylfaenol yw sicrhau’r ‘trosi’ mwyaf ar wybodaeth sylfaenol er lles y claf.

Daw’n hymagwedd ni â phobl, gwybodaeth a sgiliau o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd. Yr ymagwedd honno yw’r allwedd i’n cryfderau a’n cyflawniadau ym myd ymchwil. Mae pob un o'n his-adrannau ymchwil yn ymgorffori'r athroniaeth hon.

Meysydd Ymchwil

Canser a Geneteg

Bydd y rhaglen hon yn arwain at radd ymchwil mewn canser a/neu geneteg y gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd, clinigol a diwydiannol.

Haint ac Imiwnedd

I gynnig gwybodaeth eang ac arbenigedd ym mhob agwedd ar brosesau clefyd imiwnolegol yn seiliedig ar y lefel cellog a moleciwlaidd, gyda chryfderau mewn imiwnedd cynhenid, imiwnoleg canser, bioleg celloedd-T a heintiau bacteriol a firaol.

Meddygaeth y Boblogaeth

Mae rhaglenni ymchwil ôl-raddedig Is-adran Meddygaeth Boblogaeth yn canolbwyntio ar Atal ac ailgynllunio gwasanaethau gofal iechyd.

Meddygol Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Mae Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn un o’r Adrannau prifysgol mwyaf o ran seiciatreg yn y DU, yn darparu arweiniad mewn arfer clinigol, addysgu ac ymchwil arloesol, o ansawdd uchel ar draws nifer o feysydd o arfer seiciatrig.

Addysg Feddygol

Mae'r llwybr Mphil / PhD mewn Addysg Feddygol wedi'i leoli yn y Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME). Gan ddod â meddygon, nyrsys, seicolegwyr, gwyddonwyr cymdeithasol ac addysgwyr profiadol ynghyd, rydym yn sicrhau bod gwaith yr ysgol yn seiliedig ar sylfeini ymchwil addysgeg cryf.

Meysydd ymchwil

Canser a Geneteg

Bydd y rhaglen hon yn arwain at radd ymchwil mewn canser a/neu geneteg y gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd, clinigol a diwydiannol.

Haint ac Imiwnedd

I gynnig gwybodaeth eang ac arbenigedd ym mhob agwedd ar brosesau clefyd imiwnolegol yn seiliedig ar y lefel cellog a moleciwlaidd, gyda chryfderau mewn imiwnedd cynhenid, imiwnoleg canser, bioleg celloedd-T a heintiau bacteriol a firaol.

Meddygaeth Boblogaeth

Mae rhaglenni ymchwil ôl-raddedig Is-adran Meddygaeth Boblogaeth yn canolbwyntio ar Atal ac ailgynllunio gwasanaethau gofal iechyd.

Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau Clinigol

Mae Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn un o’r Adrannau prifysgol mwyaf o ran seiciatreg yn y DU, yn darparu arweiniad mewn arfer clinigol, addysgu ac ymchwil arloesol, o ansawdd uchel ar draws nifer o feysydd o arfer seiciatrig.

Bydd y rhaglen PhD yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn ymchwil/addysgu academaidd, labordai clinigol y GIG a chwmnïau fferyllol neu biotechnoleg.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn rhoi nifer o ysgol PhD 3 blynedd hael bob blwyddyn. Dyfernir yr ysgoloriaethau ymchwil clodfawr hyn i ymgeiswyr o'r safon uchaf ar draws holl adrannau perthnasol. Bydd ysgoloriaethau ymchwil yn cynnwys ffioedd dysgu DU/UE a thâl blynyddol.

Hysbysebir prosiectau a ariennir drwy gydol y flwyddyn.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uchaf, gradd meistr neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol o leiaf.

Mewn rhai achosion, mae angen gradd feddygol a/neu gymwysterau neu brofiad proffesiynol perthnasol arnoch.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Bydd prosiectau PhD a ariennir yn benodol yn cael eu hysbysebu gyda chyfarwyddiadau penodol ar geisiadau, fel arall cynghorir darpar fyfyrwyr i gysylltu â goruchwylwyr posibl.

Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw adeg, ond hefyd, bydd galwadau penodol, gyda chyfarwyddiadau a therfynau amser cysylltiedig.

Dylai datganiad personol neu lythyr eglurhaol ymdrin â sut y gall yr ymgeisydd gyfrannu at y prosiect arfaethedig.

Y broses dderbyn

Caiff penderfyniadau eu gwneud ar sail eich cais ysgrifenedig a’r geirdaon a dderbyniwyd, ac efallai y bydd darpar fyfyrwyr yn cael eu cyfweld fel rhan o'r broses derbyn.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Swyddfa Graddau Ymchwil yr Ysgol Meddygaeth

Administrative contact

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig