Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Iaith a Chyfieithu

Mae gennym ddiwylliant ymchwil cryf, deallusol ysgogol a bywiog y mae ôl-raddedigion yn cael eu hymsefydlu a’u hymgorffori iddo.

Mae ein cymuned ymchwil o academyddion ac ysgolheigion wedi ymrwymo i gynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf, ac mae ein safle yn y 7fed lle yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn dystiolaeth o’n enw da iawn yn rhyngwladol am ragoriaeth.

Nod ein rhaglen ymchwil yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd mewn sgiliau pwnc-benodol a generig, i’ch cymhwyso ar gyfer swyddi academaidd ac anacademaidd mewn amrywiaeth o sefydliadau.

Rydym yn cynnig cyfarwyddo ar draws ystod eang o bynciau ymchwil, gan gynnwys

  • Hanes a’r Cof
  • Diwylliant a Hunaniaeth
  • Astudiaethau Iaith a Chyfieithu
  • Astudiaethau Ardal Fyd-eang
  • Hanes ac Ideolegau
  • Datblygu a Gwrthdaro
  • Astudiaethau Llenyddol a Thestunol
  • Astudiaethau Diwylliannol
  • Diwylliannau Gweledol

Nodweddion unigryw

  • Rydym yn annog ein myfyrwyr PhD i ennill profiad addysgu, fodd bynnag, gofynnir i ymgeiswyr nodi bod y cyfleodd addysgu sy’n cael eu dyrannu yn dibynnu ar y modiwlau a gynhelir ar lefel Israddedig neu Ôl-raddedig ac efallai na fyddant ar gael i bawb.
  • Mae ein cyfres seminarau Ymchwil ar y Gweill/Research in Progress yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gyflwyno papurau mewn amgylchedd nad yw'n fygythiol. Bwriad y gyfres yw bod yn baratoad ar gyfer cyflwyno papurau mewn cynadleddau, a hefyd mae’n chwarae rôl hanfodol wrth ledaenu sgiliau pwnc-benodol.
  • Mae gennym rôl flaenllaw mewn astudiaethau maes sy’n seiliedig ar iaith yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
  • Mae gan bob myfyriwr ymchwil hawl i alw ar gyfran bersonol o arian y gellir ei gwario ar weithgareddau dilys sy’n gysylltiedig ag ymchwil.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5-7 mlynedd, MPhil hyd at 3 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Mae myfyrwyr PhD yn gwbl integredig o'n cymuned ymchwil. Mae seminarau a digwyddiadau a drefnwyd gan ein grwpiau ymchwil yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ryngweithio ag amrywiaeth eang o staff academaidd ar bynciau sy'n berthnasol i'w gwaith ymchwil, gan ehangu profiad y myfyrwyr. Mae’n myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan dîm o ddau aelod o staff academaidd o leiaf ac mae cyfarfodydd monitro cynnydd a datblygu amserlen rheolaidd ar gyfer cwblhau PhD. Mae'r myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith yn y digwyddiadau Cwblhau Ymchwil sy’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, ac sy’n cynnig adborth unigol manwl gan banel o staff academaidd.

Mae disgwyl i fyfyrwyr amser llawn neilltuo o leiaf 39 awr yr wythnos am 46 wythnos y flwyddyn ar gyfer eu gwaith PhD (rhan-amser 21 awr yr wythnos). Bydd angen i fyfyrwyr ymchwil gynhyrchu a chyflwyno traethawd a gaiff ei arholi gan arholiad llafar.

Sgiliau a ddatblygwyd

Bydd ein myfyrwyr yn caffael cymysgedd eang o sgiliau ymchwil generig, sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau pwnc-benodol. Wrth sgiliau ymchwil ‘generig’, rydym yn dynodi’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer cynnal unrhyw fath o brosiect ymchwil: meistroli technoleg gwybodaeth, er enghraifft, neu wella arddulliau ysgrifennu. Sgiliau trosglwyddadwy yw'r rhai hynny sy'n gwella cyflogadwyedd yn y farchnad lafur ehangach: gall y rhain amrywio o feistroli iaith dramor i sgiliau cyfathrebu da. Mae sgiliau sy'n benodol i ddisgyblaeth yn canolbwyntio mwy ar y ddisgyblaeth academaidd yr ydych yn ei hastudio.

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern yn gartref i grŵp o ymchwilwyr y mae eu diddordebau'n rhychwantu deg o feysydd iaith gwahanol gyda phwyslais cryf ar ddimensiynau trawswladol materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes.

Mae gwaith ein hymchwilwyr yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, yn cynnwys astudiaethau llenyddol a gweledol, cyfieithu, amlieithrwydd, theori gritigol, astudiaethau'r cof, hanes, mudiadau cymdeithasol a gwleidyddiaeth a llunio polisïau.

Mae ein gwaith wedi'i drefnu o amgylch tri grŵp thematig allweddol, sydd i gyd yn cyflwyno digwyddiadau ymchwil rheolaidd: hanes a threftadaeth, astudiaethau ardal iaith fyd-eang, ac astudiaethau diwylliannol a gweledol trawswladol.

Mae gyrfaoedd yn cynnwys addysgu, prifysgolion, y gwasanaeth sifil/y Swyddfa Dramor, y Comisiwn Ewropeaidd, newyddiaduraeth, busnes, gwleidyddiaeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae ein cynfyfyrwyr yn cynnwys Huw Edwards (BBC), Neil Bentley (CBI) a Leri Edwards (y Comisiwn Ewropeaidd).

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn rhan o Gyngor Ymchwil y Cyfryngau a’r Dyniaethau, a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru, De a Gorllewin Lloegr ac rydym hefyd wedi cael arian gan ESRC ar gyfer ysgoloriaethau i fyfyrwyr yn y DU a’r UE yn y gorffennol.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Y gofyniad arferol ar gyfer mynediad i holl Raglenni ymchwil yn yr Ysgol yw dyfarniad gradd 2:1 (ail ddosbarth uchaf), neu’r cymhwyster cyfwerth tramor, mewn pwnc perthnasol.

Fodd bynnag, rydym yn ystyried pob ymgeisydd unigol yn ôl ei rinweddau penodol. Os nad oes gennych y cymwysterau safonol ar gyfer y cwrs cewch wneud cais o hyd a bydd eich cais yn cael ei ystyried. Mae’n bosibl y cynhelir cyfweliadau i nodi ac asesu teilyngdod academaidd darpar fyfyrwyr.

Mae’n bosibl y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno eu traethawd meistr neu ymchwil priodol arall i’w adolygu. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld.

Hefyd rhaid i ymgeiswyr gyflwyno Cynnig Ymchwil (terfyn geiriau/hyd a awgrymir: 2,000-3,000 gair).

Gofynion Iaith Saesneg

Disgwylir y bydd gan siaradwyr Saesneg anfrodorol yn meddu ar gymhwyster Saesneg cydnabyddedig (e.e. IELTS gyda chyfanswm sgôr o 7 a dim is-adran yn is na 6.5), fel y gofyniad safonol i gael eu gwahodd am gyfweliad. Gellir profi cymhwysedd Saesneg ysgrifenedig a llafar mewn hefyd yn y cyfweliad.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Research Team

School of Modern Languages

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig