Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau'r Ddaear

Mae ein graddau ôl-raddedig Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn seiliedig ar waith ymchwil annibynnol llawn amser, gyda goruchwyliwr academaidd i’ch llywio i ganfod meysydd catalysis newydd a chyffrous.

Wedi’i ategu gan gyllid allanol sylweddol, mae amgylchedd ymchwil bywiog Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr PhD ac MPhil weithio gydag arbenigwyr y byd a defnyddio offer ymchwil o safon uchel.

Bob blwyddyn mae tua 15 o fyfyrwyr yn cael eu recriwtio ar gyfer graddau PhD, sydd yn elwa o gymryd rhan mewn ymarferion addysgu, gweithgareddau’r Ysgol a phrofiadau hyfforddi a sgiliau hanfodol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014), roedd 94% o’n allbynnau ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn cael ei ystyried ‘o’r radd flaenaf’ neu’n ‘rhyngwladol ardderchog’.

Nodweddion unigryw

Mae ein cyfleusterau ac offer yn sail y ymchwil ym mhob cangen o Wyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.

O’r technegau dadansoddol diweddaraf i long ymchwil arfordirol, mae ein cyfleusterau’n cefnogi ymchwil a gweithgareddau addysgu yn yr Ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys-

  • Labordy seismig 3D- Rydym yn defnyddio data seismig sy’n deillio o’r diwydiant, eglur iawn a thechnegau dehongli a dadansoddi arloesol i fynd i’r afael ag amrywiaeth eang o gwestiynau ymchwil.
  • Cyfleuster microbaladr electron - Gellir defnyddio ein microsgop i ddelweddu gwrthrychau fel mwynau a microffosilau wedi’u chwyddo yn llawer mwy nag y gallai microsgop optegol.
  • Sganiwr laser daearol - Cynnig gallu mesur uwch mewn amodau atmosfferig anodd.
  • Golau Arweiniol RV - Mae ein llong ymchwil arfordirol yn ein galluogi i ddeall materion morol yn well, o lefel y môr drwy erydu a rheoli arfordirol.
  • Paleohinsawdd a chyfleuster systemau hinsawdd - Gall ein cyfleuster Paleohinsawdd a systemau hinsawdd gynnig elfen olrhain manwl iawn a galluogi dadansoddiadau isotop mewn amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3-3.5 mlynedd; MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5-7 blynedd; MPhil 1 flwyddyn: 2-4 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

O ddyfnderoedd y Ddaear, drwy’r gramen, i mewn i’r cefnforoedd ac ar y tir, mae ansawdd rhyngwladol ein cynnyrch ymchwil yn cael ei amlygu yn ein 4ydd safle yn y Deyrnas Unedig yn ein disgyblaeth (REF2014).

Mae ein tair canolfan ymchwil eang yn dwyn arbenigwyr ar draws yr Ysgol ynghyd i weithio ar brosiectau ymchwil o bwys. Mae pob canolfan yn gyfrifol am fynd i'r afael â themâu ymchwil allweddol ar draws Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.

  • Mae’r Ganolfan Daear Gadarn ac Adnoddau Naturiol yn ymdrin â chyfansoddiad ac esblygiad dynamig mantell a chramen y Ddaear, gan gynnwys ei hadnoddau mwynol a phetrolewm.
  • Mae’r Ganolfan Geobioleg a Geocemeg yn canolbwyntio ar wyneb y Ddaear, gan gynnwys yn ei moroedd ac o dan ei moroedd, lle mae bywyd wedi esblygu ac effeithio’n ddirfawr ar amgylcheddau dros filiynau o flynyddoedd.
  • Mae’r Ganolfan Gwydnwch a Newid Amgylcheddol yn archwilio i achosion a chanlyniadau newidiadau yn system y Ddaear, yn y môr, yr atmosffer ac ar y tir, o’r gorffennol daearegol i’r presennol a’r dyfodol.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o lwybrau cyflogaeth. Mae rhai’n derbyn swyddi ôl-ddoethurol yn y DU a thramor, tra bod eraill yn derbyn swyddi yn y diwydiannau olew a mwynau mewn llawer rhan o’r byd.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae gennym ddau fath o Efrydiaeth PhD:

  • Ysgoloriaethau gyda sicrwydd o gyllid
  • Dyfernir prosiectau sy'n gymwys ar gyfer cyllid NERC drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERS Great Western Four+

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Graddedigion mewn pwnc gwyddoniaeth priodol fel Daeareg neu Wyddoniaeth Amgylcheddol, gydag o leiaf radd Anrhydedd Dosbarth 1af neu 2:1, neu radd athro.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Lle nad yw ceisiadau mewn ymateb i unrhyw bwnc a hysbysebwyd, croesewir cynigion ymchwil ond nid ydynt yn hanfodol, anogir ymholiadau anffurfiol gyda darpar oruchwylwyr hefyd. Dylid cynnwys CV ac unrhyw wybodaeth cyllid gydag ymholiad rhagarweiniol

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Swyddfa Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Marc-Alban Millet

Dr Marc-Alban Millet

Lecturer in Isotope Geochemistry

Email
milletm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5124

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig