Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Creadigol

Mae’r rhaglen PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ar gyfer myfyrwyr ac awduron sy’n dymuno cwblhau gwaith creadigol sylweddol o ansawdd y gellir eu marchnata. Mae ein cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno ymgymryd â PhD.

Mae'r rhaglen PhD yng Nghaerdydd yn addas ar gyfer unigolion sy'n awyddus i ymuno â chymuned ffyniannus o awduron—o nofelwyr a chofyddion i feirdd a sgriptwyr—y mae pob un ohonynt yn rhannu'r diben cyffredin o fod eisiau ymgolli yng nghyfansoddiad darn sylweddol o ymchwil greadigol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys elfen hanfodol orfodol lle mae myfyrwyr yn cysylltu'r gwaith creadigol y maent yn ei gynhyrchu i'w gyd-destunau beirniadol a diwylliannol ehangach ac yn gwerthuso'r cyfraniad cysyniadol a damcaniaethol y mae'r gwaith yn ei gynrychioli.

Nodau'r rhaglen

  • Mae'r rhaglen PhD wedi'i chynllunio i alluogi myfyrwyr i lunio darn gwreiddiol o waith creadigol—nofel, casgliad o gerddi neu straeon byrion, drama, sgript ffilm, neu waith ffeithiol-greadigol—ynghyd â sylwebaeth feirniadol fyfyriol.
  • Mae’r rhaglen yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i’ch arwain at rôl mewn Addysg Uwch, neu gyflogaeth sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch mewn ymchwil neu wybodaeth pwnc uwch.
  • Mae'r rhaglen yn recriwtio ystod amrywiol o fyfyrwyr Cartref/UE a Rhyngwladol sydd am gymryd rhan mewn amgylchedd ymchwil a nodweddir gan arbenigedd ymchwil o’r radd flaenaf ym mhob agwedd ar ysgrifennu creadigol.

Nodweddion unigryw

  • Mae'r rhaglen PhD yn cynnig cyfres seminar fisol sy'n benodol i fyfyrwyr ymchwil Ysgrifennu Creadigol.
  • Mae gan yr Ysgol gyllid ar gael bob blwyddyn i fyfyrwyr PGR sy’n dymuno mynychu cynadleddau neu ymweld â llyfrgelloedd neu archifdai er mwyn cynorthwyo eu hastudiaethau PhD.
  • Anogir myfyrwyr i fynychu’r encil awduron blynyddol yn Neuadd Gregynog, tŷ gwledig gyda threftadaeth artistig nodedig sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad godidog canolbarth Cymru.
  • Anogir myfyrwyr PhD hefyd i gyhoeddi a gellir gofyn am gyngor gan staff Ysgrifennu Creadigol; y mae pob un ohonynt yn awduron cyhoeddedig.
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd addysgu ar y radd israddedig, a gall myfyrwyr PhD ymgymryd â rhaglen unigryw “Dysgu Addysgu” yr Ysgol, sydd wedi’i achredu gan yr Academi Addysg Uwch

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd
Hyd rhan-amser PhD 5 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Hydref

Mae ein myfyrwyr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn cynhyrchu gwaith deinamig mewn moddau a ffurfiau sefydledig. Cynhyrchir gwaith ar draws ystod o genres (hybrid) o farddoniaeth arbrofol a straeon byrion i sgriptiau radio a ffilm, nofelau uchelgeisiol a ffeithiol naratif arloesol ac fe'u cefnogir gan oruchwylwyr sy'n academyddion profiadol, cyhoeddedig gydag enw da rhyngwladol sefydledig ac sy’n datblygu. Mae ein myfyrwyr wedi'u hyfforddi ymhellach yn eu gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith eu hunain. Bydd y cydbwysedd rhwng dadansoddiad hunanfyfyriol o'r elfen greadigol ar y naill law a'r cyd-destun disgyblu a deallusol ehangach ar y llaw arall yn amrywio yn ôl cyfuchliniau pob prosiect doethuriaethol. Er hynny, dylai'r sylwebaeth fod yn ddadansoddiad gwerthusol trylwyr o'r diriogaeth y mae'r gwaith creadigol yn ymyrryd ynddi, ac o'r ffyrdd y cyflawnir yr ymyriad hwnnw.

Ceir enghreifftiau o bynciau PhD diweddar a chyfredol isod:

  • ‘Gwener Gwylaidd: Arbrofion mewn Gweld" (Naratif Ffeithiol)
  • "Byd o Ymddangosiadau: Diffinio Dull Ôl-Estynnol mewn Byd Barddol Cyfoes"
  • “Galar Barddonol: Ysgrifennu Marwolaeth Dibynnwr”
  • ‘Cynrychiolaethau o’r Eidal mewn Llenyddiaeth Saesneg’ a nofel
  • “Gwraidd a Brigyn: Cyfeiriad yn y Nofel Drefol mewn Ffuglen Gymraeg Gyfoes yn Saesneg”
  • 'Y Werin a’r Crachach: Nofel”
  • ‘Myth a’i Gofrestriad’ Eiddo Deallusol a Masnachwyr a Nofel

Asesiad

Mae'r rhaglen PhD yn cynnwys paratoi darn gwreiddiol o waith creadigol—ffuglen, ffeithiol, sgript neu sgript sgrîn, casgliad o gerddi neu straeon byrion—a sylwebaeth feirniadol.

Bydd ymgeiswyr ar gyfer PhD Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn cyflwyno un o’r canlynol:

  • Rhyddiaith: nofel, stori fer, gwaith ffeithiol creadigol neu ddrama/sgript ar gyfer ffilm; ni fydd y sylwadau beirniadol a’r darn creadigol fel arfer yn fwy na 100,000 o eiriau. Ni fydd y sylwadau beirniadol yn llai na 20,000 o eiriau.
  • Barddoniaeth: tua 60 tudalen o gasgliad o gerddi, rhyddiaith barddoniaeth neu ficro-ffuglen, gyda sylwadau beirniadol heb fod yn llai na 20,000 o eiriau.
  • Cais Creadigol-Critigol integredig sydd heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau.

“Wedi’u lleoli ar ryngwyneb traddodiadau, methodolegau, dulliau damcaniaethol, disgyblaethau ac arferion gwahanol, mae ein hymchwil arloesol sydd wedi’i hadnabod yn rhyngwladol yn ennyn cwestiynau heriol a difyr ar gyfer ein staff, a hefyd drwy ein goruchwyliaeth PhD a’n addysgu’n seiliedig ar ymchwil, ar gyfer ein myfyrwyr ar bob lefel.” Yr Athro Ann Heilmann, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Rhestrwyd yr Ysgol yn y deg uchaf am ansawdd ei hymchwil Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF2014). Yn ddiweddar, ymunodd Prifysgol Caerdydd â'r 100 prifysgol orau yn y byd ar gyfer astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol unwaith eto) yn Rhestr QS Prifysgolion y Byd 2016.

Amgylchedd ymchwil

Mae’r Ysgol yn cymryd hyfforddiant ein myfyrwyr ymchwil o ddifrif calon a chynigir cyfleusterau ac arweiniad goruchwylio a fydd yn eu helpu i ffynnu’n ddeallusol ac i weithio’n gynhyrchiol. Mae gan yr Ysgol gyfres bwrpasol o ystafelloedd ymchwil PhD gyda chyfleusterau rhwydweithio TG rhagorol. Mae gan bob myfyriwr gyllideb cynhadledd a rhoddir cyfraniad at gostau llungopïo, yn ogystal â chyfleusterau argraffu rhad ac am ddim.

Rydym yn gwirio gyda’n myfyrwyr yn rheolaidd pa hyfforddiant maen nhw ei angen, ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu. Gall ein myfyrwyr PhD wneud cais i gael profiad addysgu gyda ni, ac mae ein rhaglen “Dysgu Addysgu” wedi’i achredu gan yr Academi Addysg Uwch. Mae’r Ysgol yn cynnal cynhadledd flynyddol i alluogi myfyrwyr PhD gael y cyfle i rannu eu gwaith gyda’u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol, cyffrous ac aml-ddisgyblaethol. Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn llawn llyfrau a chyfnodolion academaidd yn ein holl feysydd pwnc, adnoddau electronig sylweddol, a chasgliadau arbenigol fel Llyfrau Prin Caerdydd, archif gyfoethog o dros 14,000 o eitemau sy’n amrywio o incwnabwla o’r bymthegfed ganrif i lyfrau cain yr ugeinfed ganrif.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol, anogir a chefnogir ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau fydd yn eu gwneud yn gyflogadwy, beth bynnag fo cyfeiriad eu gyrfa. Rydym yn gwerthfawrogi profiad cyfoethog ein nifer o fyfyrwyr tramor, ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion penodol o ran cyd-destun diwylliannol eu hastudio a gofynion ysgrifennu’n gain mewn ail iaith.

Mae’r rhaglen yn cynnig paratoad delfrydol i’r rhai hynny syn dymuno dilyn gyrfaoedd mewn ysgrifennu llawrydd a’r maes academaidd, yn ogystal â gyrfaoedd mewn newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, , cysylltiadau cyhoeddus, rheoli celfyddydau a gweinyddu.

Swyddi: Awdur, Darlithydd, Golygydd, Pennaeth, Athro EFL, Athro Saesneg, Darlithydd, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus.

Cyflogwyr: Prifysgolion o Cork (Iwerddon) i Wladwriaeth Wisconsin (UDA), Gwasg Prifysgol Rhydychen, Penguin Random House, Palgrave MacMillan, Ysgol Ffilm Llundain, Virgin Media, Llenyddiaeth Cymru, Croeso Cymru.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae’r Ysgol yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ystyried gwneud cais am gyllid ar gyfer y PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Croesewir ceisiadau gan raddedigion sydd ag o leiaf 2.1 ar lefel israddedig (mewn unrhyw ddisgyblaeth academaidd). Er bod MA mewn Ysgrifennu Creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg o fantais, nid yw'n rhagofyniad.

Argymhellir eich bod yn anfon e-bost at y gweinyddwr ôl-radd ar encap-pg@caerdydd.ac.uk gyda’ch cynnig ymchwil a sampl o waith creadigol cyn gwneud cais ffurfiol.

Gofynion Iaith Saesneg

Mae'r Ysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Ar gyfer siaradwyr Saesneg anfrodorol, mae sgôr gyffredinol IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr yn hanfodol.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal â ffurflen gais, cynnig ymchwil a dogfennau ategol, rydym hefyd angen copïau o waith creadigol diweddar, bydd cyfrif geiriau hwn yn dibynnu yn fawr ar genre’r gwaith a gynhyrchir ond byddem yn disgwyl tua 3,000 o eiriau o ryddiaith neu 10-15 o gerddi.

Dylai ymgeiswyr gynnwys cynnig ymchwil (tua 1000 o eiriau), dau eirda academaidd, sampl o ysgrifennu creadigol, copïau o dystysgrifau gradd BA ac MA a thrawsgrifiad o'r marciau.

Rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gyfer y Datganiad Personol neu ddeunydd ategol.

Cynnig ymchwil

Dylai'r cynnig ymchwil fod tua 1,000 o eiriau o hyd. Dylai hyn roi amlinelliad o nodau ac amcanion eich prosiect a nodi sut rydych yn ei weld yn cyfrannu at y maes, yn nhermau creadigol a beirniadol fel ei gilydd.

Yn ogystal â hyn, rydym angen copïau o waith creadigol diweddar, a bydd y cyfrif geiriau yn dibynnu'n fawr iawn ar genre’r gwaith a gynhyrchir. Byddem yn disgwyl tua 3,000 o eiriau o ryddiaith neu 10-15 cerdd.

Dylai ymgeiswyr hefyd gynnwys dogfennau ategol ar ffurf dau eirda academaidd, copïau o dystysgrifau gradd BA ac MA a thrawsgrifiad o farciau.

Y broses dderbyn

Mae Cyfarwyddwr y Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn asesu pob cais. Ystyrir ansawdd a hyfywedd y prosiect, yn ogystal â gallu'r staff i'w oruchwylio. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori â goruchwylwyr posibl. Yna, gwahoddir ymgeiswyr sy'n pasio'r cam asesu cychwynnol am gyfweliad.

Rhestr o staff sy'n gweithio o fewn Ysgrifennu Creadigol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

ENCAP Postgraduate Admissions

Administrative contact

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig