Ewch i’r prif gynnwys

Seicoleg Glinigol

Bydd y rhaglen doethuriaeth tair blynedd yn rhoi'r cymwyseddau a'r profiadau angenrheidiol i chi gofrestru fel Seicolegydd Clinigol gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal y DU.

Mae Seicolegwyr Clinigol yn darparu cymorth ac ymyrraeth i bobl sy'n profi anawsterau seicolegol mewn ystod eang o gyd-destunau, gan gynnwys gwasanaethau seicolegol ac iechyd corfforol y GIG, yn ogystal ag mewn lleoliadau cymunedol a thrydydd sector ehangach. Mae seicolegwyr clinigol yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd, timau a gwasanaethau i wella gofal a lles seicolegol a cheisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n parchu gwahaniaeth ac amrywiaeth.

Bydd y rhaglen ddoethuriaeth tair blynedd hon yn rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol i chi fod yn Seicolegydd Clinigol wedi cofrestru gyda HCPC. Ar ol cofrestru, byddwch chi’n weithiwr cyflogedig amser llawn y GIG gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac yn fyfyriwr ymchwil ol-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen hon cynnwys ymchwil ac mae’n disgwyl i hyfforddeion, ac yn eu cynorthwyo, i wneud ymchwil sy’n cael effaith ac y gellir ei chyhoeddi. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, cewch eich gosod fel arfer yn un o’r byrddau iechyd sy’n gysylltiedig a’r rhaglen. Yn nodweddiadol, caiff hyfforddeion gyfle i arbenigo yn eu trydedd flwyddyn a gallant gwblhau lleoliadau rywle yn Ne Cymru ac, weithiau, mewn ardaloedd neu wledydd eraill.

Sefydlwyd y rhaglen ym 1975; mae wedi hen fagu gwreiddiau ac wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Mae ganddo hefyd achrediadau ychwanegol ar lefel un gan Gymdeithas Seicotherapi Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) ac achrediad lefel sylfaen gan y Gymdeithas Therapi Teulu ac Ymarfer Systemig (AFT).

Nodau'r rhaglen

Bwriedir y rhaglen ar gyfer graddedigion gyda gradd mewn Seicoleg (neu gyfatebol) ac sy’n gymwys ar gyfer aelodaeth Siartredig (GBC) o Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn rhoi cymhwyster i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a am statws Seicolegydd Clinigol Siartredig gyda’r Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

Nodweddion unigryw

  • Achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
  • Cymeradwyir gan y Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd
  • Cymeradwyaeth sylfaen gan AFT
  • Achrediad lefel un gan BABCP

Ffeithiau allweddol

Achrediadau Accredited by the British Psychological Society (BPS)
Math o astudiaeth Amser llawn
Cymhwyster DClinPsy
Hyd amser llawn 3 blynedd
Hyd rhan-amser Cyfleoedd ar gael
Derbyniadau Medi
Dyddiad(au) cau ceisiadau Mae'r dyddiad cau yn nhymor yr hydref bob blwyddyn a gwneir ceisiadau drwy’r Tŷ Clirio canolog ar gyfer rhaglenni Seicoleg Glinigol.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu cymhwysedd hyfforddeion drwy weithredu cynlluniau hyfforddi cydweithredol wedi’u teilwra. Mae’r rhaglen yn gyffredinol ei natur ac fe’i ategir gan ddull datblygiad hyd oes. Mae tua hanner y rhaglen yn cael ei dreulio ar leoliad clinigol gyda’r gweddill yn cael ei rannu rhwng gwaith cwrs academaidd, ymchwil ac astudio personol. Gan adeiladu ar sylfaen gadarn o hyfforddiant a gyflwynir mewn arbenigeddau a phoblogaethau clinigol craidd, mae hyfforddeion yn gallu datblygu eu sgiliau mewn lleoliadau dewisol.

  • Blwyddyn 1: yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gallu i weithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid, gan gynnwys ymarfer yn broffesiynol ac yn foesegol, bod yn ymwybodol o’r cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol a datblygiadol, meithrin perthynas, deall y cylch clinigol a datblygu’r sgiliau i wneud gwaith therapiwtig uniongyrchol. Cewch brofiad clinigol o wasanaethau iechyd meddwl i oedolion / oedolion hŷn yn bennaf, ond gellir cynnig lleoliadau gwaith eraill.
  • Blwyddyn 2: yn adeiladu ar flwyddyn 1 ac yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gallu i weithio’n anuniongyrchol, gan gynnwys gweithio gyda gofalwyr, timau proffesiynol a gwasanaethau statudol, ymarfer yn systemig a rhoi cymorth ymddygiad cadarnhaol. Cewch brofiad clinigol o weithio gyda phlant a phobl ifanc / anableddau dysgu, ond gellir cynnig lleoliadau gwaith eraill.
  • Blwyddyn 3: yn adeiladu ar flynyddoedd 1 a 2 ac yn canolbwyntio ar weithio mewn sefydliadau, arwain, cymhwyso seicoleg glinigol a defnyddio dulliau therapiwtig ehangach. Mae’r flwyddyn hon yn rhoi’r cyfle i chi gael profiadau clinigol nad ydych wedi’u cael eto a/neu ymgymryd â lleoliad gwaith o’ch dewis.
  • Cynhelir modiwl ymchwil dros gyfnod o dair blynedd.

Staff y rhaglen

Mae staffio’r rhaglen yn cynnwys staff a gweinyddwyr academaidd-glinigol. Mae staff academaidd-glinigol yn ymgymryd â gwaith clinigol mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae ganddynt swyddi anrhydeddus gyda Phrifysgol Caerdydd.

Sgiliau y byddwch yn eu Caffael

Mae gan y rhaglen hon ymrwymiad cryf i alluogi hyfforddeion i ddatblygu’r sgiliau a’r safbwyntiau sy’n ofynnol i weithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, ond mae pwyslais arbennig ar wasanaethau yng Nghymru.

Themâu penodol yn y rhaglen yw CBT (mae rhaglenni cyfochrog yn CBT yn yr Ysgol), therapïau systemig, defnyddwyr gwasanaeth ac ymchwil cyfranogiad gofalwyr.

Mae’r rhaglen hon cynnwys ymchwil ac mae’n disgwyl i hyfforddeion, ac yn eu cynorthwyo, i wneud ymchwil sy’n cael effaith ac y gellir ei chyhoeddi.

Mae cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn rhoi cymhwyster i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a am statws Seicolegydd Clinigol Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cymhwyso o'r rhaglen yn cael gwaith gyda gwasanaethau GIG Cymru. Fodd bynnag, mae cyfleoedd eraill ar gael i Seicolegwyr Clinigol cymwysedig mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn sefydliadau addysg bellach.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae hyfforddeion yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant Band 6. Mae contractau hyfforddi am gyfnod o dair blynedd ac fe’u cynigir ar y dealltwriaeth llym y bydd ymgeiswyr yn cyflwyno eu hunain am asesiadau sy’n gysylltiedig â Doethuriaeth Seicoleg Clinigol a chynnal eu cofrestriad ar gyfer y Doethuriaeth. Nid oes lleoedd hunan-ariannu ar y rhaglen hon. Telir ffioedd y Brifysgol gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyllid ar gael ar gyfer llety dros dro ar leoliadau clinigol y bernir nad oes modd cymudo. Mae cymorth ariannol ar gael i fynychu cyrsiau cymeradwy a chynadleddau a/neu therapi personol hyd at y terfyn unigol.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr gael sail graddedig ar gyfer aelodaeth siartredig y BPS. Gofyniad hanfodol arall yw bod â phrofiad perthnasol o wneud gwaith â thâl neu waith gwirfoddol mewn sefyllfa glinigol, gymunedol neu glinigol-academaidd gyda grwpiau o gleientiaid ac mewn sefyllfaoedd gwasanaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i seicoleg glinigol. Fel gweithwyr GIG Cymru, mae’n rhaid i ymgeiswyr gael yr hawl i weithio yn y DU.

Am fanylion llawn ar ofynion mynediad a’r weithdrefn ymgeisio ar gyfer y rhaglen, gweler mynediad tŷ clirio’r rhaglen.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau drwy’r Ty Clirio ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig mewn Seicoleg Glinigol, lle gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau.

Ni wneir ceisiadau drwy weithdrefn ymgeisio arferol Prifysgol Caerdydd.

Ceisiadau gan Ymgeiswyr Anabl

Mae’r rhaglen hon yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl ac ers 2010 mae wedi arddangos ei hymrwymiad i gyflogi pobl anabl drwy ddefnyddio symbol ‘cadarnhaol am bobl anabl’ (positive about disabled people) Canolfan Byd Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau (symbol 2 dic).

Ar ôl adolygu’r defnydd o’r symbol 2 dic gyda’r Ganolfan Byd Gwaith DWP yn ddiweddar, cynghorwyd y rhaglen nad yw’r symbol yn berthnasol gan fod y swyddi yn swyddi hyfforddi â thâl yn hytrach na swyddi cyflogedig. O ganlyniad, o gymeriant 2015, bydd y rhaglen yn arddangos ei hymrwymiad i gyflogi pobl anabl drwy gynnig deg lle cyfweliad ychwanegol i’r ymgeiswyr â sgorau uchaf wrth greu rhestr fer i’r rhai sydd wedi nodi bod ganddynt anabledd ar y ffurflen gais ac sy’n bodloni’r gofynion mynediad safonol ond nad ydynt wedi’u rhoi ar y rhestr fer fel arall.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

The Student Services Office (DClinPsy)

Administrative contact

Gwneud cais

Mae’r cwrs hwn yn defnyddio proses cyflwyno cais ansafonol.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig