Cemeg
Mae ymchwil wedi’i grwpio yn bum thema gysylltiedig gwahanol: cemeg biolegol, gwyddoniaeth catalysis a rhyngwynebol, deunyddiau ac ynni, synthesis moleciwlaidd a sbectrosgopeg a deinameg.
Mae ymchwil Ysgol Cemeg yn amryfal ei natur ac yn cwmpasu themâu sylfaenol ac ymarferol fel ei gilydd. Mae pynciau ymchwil sydd ar gael yn adlewyrchu diddordebau amryw aelodau o’r staff - ar y cyfan, maen nhw’n ymwneud â chemeg fiolegol, organig, anorganig, ffisegol, damcaniaethol a chyfrifiadurol.
Nodau'r rhaglen
I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol a sectorau cemegol pur, addysgu, meysydd ymchwil biofeddygol, rolau ymchwil a rheoli yn y diwydiant gweithgynhyrchu cyffredinol (e.e. bwyd, colur, petrogemegol, ac ati).
Nodweddion unigryw
- Mae cemeg yn parhau i ddenu tîm cynyddol o ymchwilwyr, yn ogystal â chynnal rhwydwaith eang o gysylltiadau diwydiannol
- Mae cydweithredu rhyngddisgyblaethol cryf yn cefnogi prosiectau ar draws adrannau pwnc traddodiadol; mae’r ôl-raddedigion yn rhyngweithio ar draws y grwpiau hyn
- Mae ein catalysis o’r radd flaenaf, yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, yn cefnogi ymchwil sy’n arwain y byd ym maes y gwyddorau cemegol yn ein Canolfan Ymchwil Drosi Canolfan
- Ymchwil Drosi - Datblygiadau ar y campws - Prifysgol Caerdydd
- Cydweithredu eang yn rhyngwladol; mae nifer o raglenni ymchwil yn ei gwneud yn bosibl ymgymryd â lleoliad dramor, gan gynnwys yn Ewrop a Siapan
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
Fel myfyriwr PhD/MPhil mewn Cemeg, byddwch yn ymgymryd ag ymchwil arloesol yn un o themâu amrywiol ein gwaith ymchwil.
Mae'r Ysgol yn arbenigo yn y meysydd ymchwil canlynol:
Meysydd ymchwil
Prosiectau ymchwil
Mae gennym amrywiaeth o brosiectau ymchwil sy’n cael eu hariannu’n allanol Prosiectau, Rhaglenni ac Ysgoloriaethau PhD Cemeg Prifysgol Caerdydd i Fyfyrwyr y DU (findaphd.com) Gwiriwch eich bod yn cwrdd â meini prawf cymhwysedd penodol cyn gwneud cais am arian.
Mae'r Ysgol Cemeg hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.
Mae gennym restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn -Themâu prosiect PhD - Ysgol Cemeg - Prifysgol Caerdydd
Mae croeso i chi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth.
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy wasanaeth gwneud cais Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.
Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion a llwythwch unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).
Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, mae rhai yn parhau ar hyd y llwybr academaidd gyda swyddi ôl-ddoethurol mewn grwpiau yng Nghaerdydd a ledled y byd, mae eraill wedi ymuno â’r proffesiwn addysgu tra bod nifer wedi ymuno â chwmnïau diwydiannol mawr mewn swyddi sy’n amrywio o ymchwil i reoli.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Mae gofyn i ymgeiswyr feddu ar BSc 2.2 neu uwch, neu gyfwerth, mewn Cemeg neu mewn pwnc cysylltiedig.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Dr Ben Ward
Administrative contact