Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg

Wedi eich lleoli yn Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, byddwch yn ymuno â chymuned ymchwil ac academaidd fywiog, sy’n falch o’n enw da am hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

O dan oruchwyliaeth arbenigwyr, mae’n myfyrwyr ôl-raddedig yn dod ar draws cyfleoedd cyffrous i ddadlau a chyfnewid syniadau, boed hynny drwy ein Canolfannau Ymchwil sy’n gysylltiedig yn rhyngwladol neu gyfresi seminar niferus.

Mae ein prosiectau ar draws disgyblaethau yn parhau i hyrwyddo ymchwil, wedi’u cefnogi gan bartneriaid sy'n amrywio o’r Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i Ymddiriedolaeth Wellcome.

Nodau'r rhaglen

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil, y byd academaidd, treftadaeth, amgueddfeydd, gwaith contract ac ymgynghoriaeth.

Nodweddion unigryw

  • Cwmpas daearyddol eang mewn grwpiau ymchwil, o ogledd-orllewin yr Alban i’r Lefant a'r Aifft.
  • Cwmpas cronolegol eang, o ddechrau’r cyfnod diweddar i’r cyfnod canoloesol.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Rydym yn cynnig ystod lawn o arbenigedd ym maes archaeoleg Prydain, Ewrop a’r Canoldir o 5000 BC - 1000 AD, gyda chryfderau penodol yn y meysydd ymchwil canlynol:

  • Cynhanes Prydain
  • Y Cyfnod Neolithig yn Ewrop
  • Y Byd Celtaidd
  • Yr Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr
  • Diwylliant a Chymdeithas Canoloesol
  • Y Byd Groeg a Rhufeinig
  • Hen Aifft
  • Nwmismateg
  • Technolegau Hynafol a Deunyddiau Dadansoddi
  • Bioarchaeoleg
  • Rheoli Treftadaeth Archeolegol.

Gellir cael wybodaeth am raglenni cadwraeth yr ysgol ar dudalen we Graddau Ymchwil Archaeoleg.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Mae’n addas ar gyfer unigolion sydd wedi graddio mewn archaeoleg, hanes, hanes yr henfyd, cemeg a gwyddorau cadwraeth, a disgyblaethau eraill cysylltiedig a pherthnasol yn y dyniaethau a’r gwyddorau ffisegol.

Fel arfer dylai ymgeiswyr feddu ar radd meistr mewn pwnc sy’n ymwneud â’u diddordebau ymchwil.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of History, Archaeology and Religion Postgraduate Research Administrative Officer

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Oliver Davis

Dr Oliver Davis

Senior Lecturer, CAER Heritage Project Co-director (Study Leave 2022/3 (Semester 1))

Email
davisop@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0215

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig