Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau Clinigol

Gallwch gyflawni eich gradd ymchwil yn Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol. Mae ymchwil wedi’i anelu ar ddeall y mecanweithiau sylfaenol sydd wrth wraidd prif anhwylderau seiciatrig a niwrolegol.

Mae Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn un o’r Adrannau prifysgol mwyaf o ran seiciatreg yn y DU, yn darparu arweiniad mewn arfer clinigol, addysgu ac ymchwil arloesol, o ansawdd uchel ar draws nifer o feysydd o arfer seiciatrig.

Nod yr Is-adran yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer cyfleoedd academaidd mewn geneteg ddynol, geneteg seiciatreg, seiciatreg biolegol, niwroddirywiad, seicopatholeg datblygiadol, biowybodeg ac ymchwil bioystadegau.

Nodweddion unigryw

  • MRC Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg.
  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
  • Canolfan ymchwil sy’n gydnabyddedig yn rhyngwladol yn ymwneud ag ansawdd bywyd pobl ag anableddau dysgu.
  • Dull aml-ddisgyblaethol rhwng gwyddonwyr clinigol, ymddygiadol, moleciwlaidd a chymdeithasol.
  • Yn gartref i’r Uned Bioystadegau/Biowybodeg ar gyfer Cymru.
  • Cyfleusterau technegol genomeg, microbrofi a thrawsgenig o’r radd flaenaf.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Swyddfa Graddau Ymchwil yr Ysgol Meddygaeth

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Yr Athro Anthony Isles

Yr Athro Anthony Isles

Reader, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
islesar1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8467

Mae’r Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn cynnwys disgyblaethau clinigol Seiciatreg, Niwroleg, Niwrolawdriniaeth ac Optometreg. Mae ein gwaith ymchwil hefyd yn rhychwantu’r meysydd clinigol hyn ac yn eang o ran cwmpas sy'n amrywio o biocemeg a geneteg foleciwlaidd bioleg celloedd, drwy ymchwiliadau cleifion gan gynnwys astudiaethau gwybyddiaeth ac uwch ddelweddu ymennydd yn ogystal â threialon clinigol, ac i epidemioleg ac astudiaethau eraill poblogaeth.

Mae llawer o'r ymchwil yn cael ei gyflawni yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg MRC, ac rydym hefyd yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil Biomeddygol NISCHR, a Chanolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl. Mae IPMCN hefyd yn rhan o Is-adran Niwrowyddoniaeth ac Ymchwil Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd sy’n dwyn ein ymchwilwyr ynghyd gyda niwrowyddonwyr yn Ysgol y Biowyddorau, Seicoleg, ac Optometreg a Gwyddorau’r Golwg.

Mae’r meysydd ymchwil canlynol yn arbennig o gryf:

  • Geneteg a Genomeg Seiciatrig,
  • Epidemioleg Genetig
  • Bioystadegau a Biowybodeg
  • Sgitsoffrenia
  • Anhwylder deubegynol
  • Iselder
  • Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
  • Clefyd niwro-ddirywiol
  • Clefyd Alzheimer
  • Clefyd Huntington
  • Clefyd Parkinson
  • Niwrowyddorau ymddygiadol
  • Epigeneteg a gadael ôl genomig
  • Bioleg bôn-gelloedd niwral; meithrin celloedd a bioleg trawsblannu
  • Agweddau seicolegol ar eneteg
  • Epilepsi
  • Syndromau cysylltiedig ag anableddau deallusol.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Meddygaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig