Ewch i’r prif gynnwys

Theori Wleidyddol

Mae Theori Wleidyddol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Mae gan yr Ysgol ddiwylliant ymchwil eithriadol o gryf gydag enw da am ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir a’r nifer cynyddol o grantiau ymchwil y mae’r ysgol yn eu denu. Mae’n gartref i Ganolfan Collingwood a Delfrydiaeth Prydain ac mae’n denu ysgolheigion gwadd o ledled y byd, y mwyaf amlwg o’r rhain yw’r Athrawon Carole Pateman a Rex Martin, sydd bellach ill dau yn Athrawon Anrhydeddus yn Nghaerdydd.

Mae gan yr Uned Ymchwil Theori Gwleidyddol grynodiad anarferol o ddamcaniaethwyr gwleidyddol a haneswyr sy’n meddwl yn wleidyddol ac mae hyn yn ei alluogi i gynnig goruchwyliaeth ar draws ystod eang o bynciau ymchwil, gan gynnwys

  • Delfrydiaeth Prydain
  • Collingwood
  • Theori gwleidyddol cyfoes
  • Cyfiawnder dosbarthol
  • Gwleidyddiaeth amgylcheddol
  • Ymoleuo Ewropeaidd a Gwrth-Ymoleuo
  • Astudiaethau rhywedd
  • Globaleiddio
  • Cyfiawnder Byd-eang
  • Hanes syniadau
  • Hanes meddwl yn wleidyddol
  • Hanesyddiaeth a damcaniaeth hanesyddol
  • Ymyrraeth Ddyngarol
  • Hawliau Dynol
  • Hunaniaeth
  • Beirniadaeth ideoleg
  • Cyfraith Ryngwladol
  • Cysylltiadau Rhyngwladol
  • Ar ôl y rhyfel
  • Rhyddfrydiaeth
  • Amlddiwylliannedd
  • Cenedlaetholdeb
  • Theori gwleidyddol normadol
  • Theori Wleidyddol
  • Žižek

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Politics Admissions Administrator

Administrative contact

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig