Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol

Mae Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Ein nod yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol, byd academaidd neu mewn gofal sylfaenol/eilaidd.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Mrs Wendy Davies

Postgraduate Research Administrator

Themâu ymchwil

  • Llywio a dylanwadu ar ymarfer fferylliaeth
  • Datblygu polisi ynghylch defnyddio meddyginiaethau a chymeradwyo
  • Canfyddiadau cleifion
  • Ymchwil economaidd-gymdeithasol.

Meysydd arbenigedd

Yn natblygiad a defnydd mesurau ansawdd bywyd yn ymwneud ag iechyd y gellid eu defnyddio i werthuso effeithiolrwydd clinigol therapïau cyffuriau amrywiol mewn nifer o glefydau, fel dementia math Alzheimer, sglerosis ymledol, clefyd Parkinson a chanser. Mae mesur cyfansawdd o statws iechyd yn cael ei ddefnyddio i werthuso canlyniadau cleifion gan ddefnyddio dau ddull methodolegol: yn gyntaf, drwy astudiaethau profi rhagdybiaeth fel hapdreialon dan reolaeth ac yn ail, drwy ddefnydd arferol o fesurau ansawdd bywyd wrth wneud penderfyniadau (gan gynnwys rhagnodi) a monitro cleifion.

Mae ein harbenigeddau ymchwil eraill yn cynnwys:

  • datblygu modelau ar gyfer asesu risg/budd meddyginiaethau
  • systemau cefnogi penderfyniadau triniaeth cyffuriau
  • materion yn ymwneud â datblygu fferyllol byd-eang a’i reoleiddio.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig