Ewch i’r prif gynnwys

Niwrowyddoniaeth

Mae Biowyddoniaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Biowyddorau (PhD, MPhil, MD).

Mae’r adran Niwrowyddoniaeth yn mynd ar drywydd amrywiaeth eang o ymchwil niwrofiolegol, yn cwmpasu lefelau moleciwlaidd i ymddygiadol.

Mae ein themâu ymchwil yn cynnwys:

  • datblygu niwronal
  • niwrowyddoniaeth cellog a moleciwlaidd
  • niwroffisioleg
  • plastigrwydd synaptig, dysgu a chof, a
  • niwroddirywiad a’r system nerfol sy’n heneiddio.

Rydym yn ymdrechu i integreiddio ein gwaith ymchwil i ddarparu gwell dealltwriaeth o swyddogaeth y system nerfol iach a'r mecanweithiau sy’n arwain at glefyd niwrolegol. Prif amcan yw trosi ein gwybodaeth yn therapïau ffarmacolegol a chelloedd a gwella ymarfer clinigol.

Mae’r Is-adran yn aelod o Ganolfan Niwrowyddoniaeth Caerdydd (CNC), sy’n dwyn ynghyd niwrowyddoniaeth, seicoleg a geneteg a genomeg seiciatrig. Mae’r Is-adran Niwrowyddoniaeth hefyd yn gartref i’r ganolfan MRI arbrofol (EMRIC) a’r Grŵp Trwsio’r Ymennydd, ac mae’n gyfranogwr mawr yn rhaglen PhD 4 blynedd Ymddiriedolaeth Wellcome mewn Niwrowyddoniaeth Integreiddiol.

Nodweddion unigryw

  • Aelod o Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMH RI), yn dwyn ymchwilwyr ynghyd sydd wedi’u lleoli yn Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Meddygaeth ac Ysgol Seicoleg.
  • Grŵp Trwsio Ymennydd.
  • Canolfan MRI Arbrofol (EMRIC).

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Beth Beckett

Administrative contact

Mae sbectrwm y gweithgareddau ymchwil yn cynnwys:

  • gwahaniaethau niwral mewn bôn-gelloedd llygoden a dynol
  • rheoleiddio genynnau mewn ymateb i ysgogiadau ffisiolegol
  • mecanweithiau rhwydwaith niwronal a chellog cysgu
  • sefydlogwyr hwyliau a sylfaen gellog anhwylder deubegynol
  • uwch dechnegau optegol ar gyfer delweddu asgwrn cefn canghennog a deinameg calsiwm
  • ghrelin a rheoleiddio prosesau niwroendocrin
  • gwahaniaethau swyddogaethol niwronau synhwyraidd ymylol oedolion
  • signalau mewn-gellog mewn dysgu a chof
  • mecanweithiau plasigrwydd niwronal yng nghortecs yr ymennydd
  • niwro-ddelweddu plastigrwydd a phrosesu synhwyraidd
  • plastigrwydd yn y system gweledol sy'n datblygu
  • prosesau moleciwlaidd, cellog a niwral cof tymor hir a chof emosiynol
  • mecanweithiau rhwydwaith niwronaidd, genetig a chellog epilepsi
  • heneiddio yn y system nerfol awtonomig
  • therapïau celloedd ar gyfer clefydau Huntington a Parkinson
  • mecanweithiau moleciwlaidd a chellog camweithredu’r cof mewn anhwylderau niwroseiciatrig
  • datblygu niwronau sy’n deillio o iPSC fel therapi celloedd ar gyfer clefydau niwroseiciatrig
  • BDNF fel targed therapiwtig mewn anhwylderau meddwl
  • pathoffisioleg Awtistiaeth.

I gael manylion am brosiectau parhaus a chydweithio, ewch i wefannau aelodau unigol yr Is-adran Biowyddoniaeth.

Prosiectau

Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o brosiectau ar gael i wneud cais amdanynt yn Ysgol y Biowyddorau, ac mae rhai yn cael eu cynnig fel rhan o’n amrywiaeth o ymglymiadau DTP.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o feysydd. Mae'r rhestr canlynol yn dangos amrywiaeth o arbenigeddau cyn-fyfyrwyr:

  • biocemegydd
  • seicolegydd addysgol
  • niwroseicolegydd clinigol
  • seiciatrydd
  • niwrolegydd
  • meddyg
  • seicoffarmacolegydd
  • niwropatholegwr
  • niwroffisiolegydd
  • biotechnolegwyr
  • asiant patentau
  • awdur gwyddoniaeth
  • cyhoeddwr academaidd
  • rheoli llwybrau clinigol
  • therapydd lleferydd
  • ffisiotherapydd
  • therapydd galwedigaethol
  • bioystadegwr
  • peiriannydd strwythurol
  • niwrowyddonydd cyfrifiannol
  • rheoli cronfa ddata
  • ymgynghori rheoli.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Biowyddorau.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig