Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg Feddyginiaethol

Mae Cemeg Feddyginiaethol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Ein nod yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol, byd academaidd neu mewn gofal sylfaenol/eilaidd.

Nodweddion unigryw

  • Mae’r gwaith yn cynnwys cydweithio gyda firolegwyr a biogemegwyr o bob cwr o Ewrop ac UDA.
  • Mae gan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol gyfleusterau gwych ar gyfer y grŵp. Mae wedi prynu sbectrometr Bruker 500MHz NMR, Sbectrometr Fisons Platform II Mass (wedi’i osod ar gyfer electrochwistrellu ac APCI) a nifer o fyrddau gwaith Silicon Graphics a meddalwedd helaeth gan gynnwys Sybyl, Macromodel, DOCK, GRID a Meddalwedd Moleciwlaidd Oxford. Mae’r labordai cemeg synthetig yn ddiweddar wedi’i hadnewyddu ac mae gan bob ymchwilydd eu lwfer gwyntyllu eu hunain.
  • Mae cyfleusterau llyfrgell rhagorol a dolenni cyfrifiadurol o’r holl labordai yn galluogi mynediad i amrywiaeth eang o gronfeydd data.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Mrs Wendy Davies

Postgraduate Research Administrator

Mae Cemeg Feddyginiaethol yn grŵp deinamig, hynod weithgar yn synthesis a dadansoddiad moleciwlau bioweithredol. Mae gan y Grŵp labordai modern, â chyfarpar da gyda chyfleusterau mewnol arloesol sy’n cynnwys NMR aml-niwclear maes uchel, sbectrometreg màs, HPLC a graffeg moleciwlaidd.

Themâu ymchwil

  • Modelu moleciwlaidd
  • Progyffuriau niwcleotidau (“Protidau”) yn enwedig fel cyfryngau gwrthganser a gwrthfeirysol

Mae’r grŵp ymchwil hwn yn mwynhau labordai â chyfarpar da.

Mae cydweithio agos gyda firolegwyr a biogemegwyr o bob cwr o Ewrop ac UDA.

Meysydd arbenigedd

  • Graffeg moleciwlaidd cyfrifiadurol
  • cyfosod a dadansoddi moleciwlau bioweithredol
  • defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dadansoddol spectroscopig ac eraill.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig