Ewch i’r prif gynnwys

Marchnata a Strategaeth

Mae Marchnata a Strategaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o’n rhaglen PhD Astudiaethau Busnes.

Mae’r Adran Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal ac yn cyhoeddi ymchwil arloesol a gwreiddiol ar ffurfio a gweithredu strategaethau marchnad effeithiol ar lefelau domestig a rhyngwladol. Bydd yr adran yn parhau i gynhyrchu cyfraniadau, yn ddefnyddiol i ymarferwyr busnes, gwneuthurwyr polisi cyhoeddus ac ymchwilwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd.

Nodweddion unigryw

  • Mae’r Adran Marchnata a Strategaeth yn falch o’i chysylltiadau agos gyda nifer o sefydliadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

PhD Programme Office, Cardiff Business School

Administrative contact

Rydym yn cynnig ystod lawn o arbenigeddau, ond mae’r meysydd canlynol yn arbennig o gryf:

  • Marchnata rhyngwladol
  • Marchnata Strategol
  • Dadansoddi ymddygiad defnyddwyr (marchnata)
  • Marchnata gwasanaethau
  • Systemau rheoli strategol.

Mae meysydd pellach o arbenigedd yn cynnwys:

  • Y brand
  • Ymddygiad defnyddwyr
  • Busnes i Fusnes
  • Marchnata perthynas
  • Rheoli arloesedd cynnyrch a chreadigrwydd
  • Entrepreneuriaeth
  • Marchnata cyfryngau digidol
  • Moeseg, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a chynaliadwyedd
  • Marchnata traws-ddiwylliannol a rhyngwladol
  • Cyfathrebu marchnata
  • Manwerthu a gwasanaeth marchnata.

Goruchwylwyr

Mae rhestr o’r staff academaidd sy’n gallu darparu goruchwyliaeth i’w gael ar wefan Ysgol Busnes Caerdydd.

Bydd y rhaglen PhD yn eich paratoi naill ai am yrfa fel ysgolhaig academaidd blaenllaw neu i ragori mewn busnes proffesiynol neu wneud penderfyniadau polisi cyhoeddus uwch.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Astudiaethau Busnes.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig