Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg: Ynni a'r Amgylchedd

Mae Ynni a’r Amgylchedd yn thema ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Peirianneg (PhD, MPhil).

Un o dri thema ymchwil yr Ysgol yw Ynni a’r Amgylchedd, sy’n ceisio datblygu technoleg ynni a chwarae rôl allweddol wrth fynd i’r afael â’r galw cynyddol ar gyfer technolegau carbon isel a chynaliadwy, tra’n lleihau’r effaith amgylcheddol a sicrhau amgylchedd cynaliadwy.

Mae’n glir y bydd trawsnewid a defnyddio ynni yn dod dan fwyfwy o bwysau gan yr angen i leihau allyriadau CO2. Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd bellach yn eirioli lleihad o 80% erbyn 2050 a dad-garboneiddio effeithiol yn y sector pŵer erbyn 2030. Mae Llywodraeth y Du wedi nodi’r farchnad fyd-eang ar gyfer nwyddau a gwasanaethau carbon isel i fod yn $3 triliwn o ddoleri UDA ac y bydd miloedd o swyddi newydd yn cael eu creu yn y DU yn y sector hwn yn y dyfodol.

Mae Peirianwyr yn Ysgol Peirianneg Caerdydd yn ymateb i’r trawsnewid radical hwn yn yr economi.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Research Admissions, School of Engineering

Administrative contact

Mae gwaith ymchwil a gyflawnir o dan y thema Ynni yn arloesol ac yn flaengar, gyda chenhadaeth i ddatblygu technoleg ynni yn yr ymgais byd-eang i gyflawni economi ynni cynaliadwy. Nod y thema Ynni yw cyfrannu at greu gwybodaeth hirdymor, ond hefyd dadansoddi a deall beth sy’n hanfodol i annog mabwysiadu’r technolegau carbon isel presennol sydd eto i’w defnyddio’n eang.

Mae ymchwil yn y thema hon hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth leihau effaith amgylcheddol a chynyddu arferion cynaliadwy mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys adeiladu, tanwydd, ynni, gwaredu gwastraff, ansawdd dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd. Mae cyfuniad o’r meysydd hyn yn cynrychioli dull amlddisgyblaethol i rai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas wrth symud tuag at ymwybyddiaeth mwy amgylcheddol a mwy o angen am gynaliadwyedd.

I fynd i’r afael ag agweddau gwahanol ar ymchwil ynni ac amgylcheddol, mae’r thema Ynni a’r Amgylchedd wedi’i rannu’n saith o grwpiau gyda diddordebau ymchwil arbenigol; y Ganolfan Ymchwil geo-amgylcheddol (GRC), y Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol, a’r Ganolfan BRE ar gyfer Adeiladu Cynaliadwy, Y Ganolfan Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Adnewyddadwy Integredig (CIREGS), y Ganolfan Ymchwil Peirianneg Foltedd Uchel Uwch (AHIVE), Canolfan Wolfson ar gyfer Magneteg a’r Ganolfan Ymchwilio i Ynni, Gwastraff a'r Amgylchedd (CREWE).

Meysydd ymchwil

Mae'r meysydd ymchwil yn y thema hon yn cynnwys:

  • Integreiddio Grid o Ffynonellau Ynni Adnewyddadwy
  • Gridiau Clyfar
  • Modelu ac Asesu Ynni
  • Seilwaith Ynni
  • Cynhyrchu Pŵer a Gwres Carbon Isel
  • Rheoli Ynni, Risg ac Amgylcheddol
  • Tanwyddau a Thechnolegau Trafnidiaeth Amgen
  • Systemau Thermol a Hylif Cymhleth
  • Adfer Gwres a Deunyddiau Thermodrydanol
  • Sysytems Inswleiddio
  • Sain Hyfyr Systemau Pŵer
  • Systemau Daearu Bach Trydanol ac Amddiffyn Gor-foltedd
  • Asesu Risg Tebygolrwydd a Daearu Systemau Trydanol
  • Magneteg Pŵer
  • Modelu labordy a rhifiadol ar gyfer prosesau hydrodynameg mewn basnau dŵr
  • Prosesau ansawdd dŵr a halogi mewn basnau morydol, arfordirol ac afonol
  • Datblygu offer hydrowybodeg ar gyfer rhagweld llifogydd a strategaethau ‘rhagweld a diogelu’ ar gyfer cydymffurfio gyda chyfarwyddebau’r UE
  • Ystorfeydd gwaredu gwastraff niwclear lefel uchel
  • Ymddygiad mecanyddol/hydro/thermo pridd annirlawn
  • Colledion ynni o adeiladau i’r tir
  • Asesu risg a rheoli risg
  • Tir halogedig, adfywio tir ac adfer
  • Asesu risgiau a pheryglon, lliniaru ac effaith yn y sector ynni
  • Optimeiddio proses wrth reoli gwastraff solet
  • Nodweddu elifiant hylif a phrosesau trin
  • Effeithiau iechyd ac amgylcheddol gronynnau a nwyon mân iawn
  • Cynllunio strategol a rheoli.

Adnoddau a Chyfleusterau

Mae’r Ysgol yn meddu ar y cyfleusterau mawr diweddaraf i’w alluogi i ymateb i anghenion byd-eang ymchwil ynni gan gynnwys Ysgogwr System Pŵer (PSS), cyfleuster unigryw y gellir ei ddefnyddio i feithrin dysgu’n seiliedig ar wybodaeth a hyfforddiant sgiliau ar bob agwedd o systemau pŵer trydanol, labordy foltedd uchel gyda chyfarpar da a nifer o drawsgludwyr (hyd at 300kV); cyflenwadau dc (hyd at 100kV); generaduron curiad (hyd at 400kV neu 20kA); siambr prawf llygredd gyda chyflenwad pŵer IEC507 a siambr heneidio’r haul; a chyfleuster testun goleddau-plân.

Hefyd, mae safle prawf y tu allan â chyfarpar da, systemau nodweddu eiddo trydanol a thermol o’r radd flaenaf, ac amrywiaeth o gyfleusterau arbrofol sy’n cael eu defnyddio i ategu astudiaethau modelu, gan gynnwys bomiau hylosgi, siambrau amgylcheddol a labordai dadansoddi amgylcheddol helaeth. Mae’r Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy, wedi’i leoli oddi ar y safle, hefyd yn ffurfio rhan o gyfleusterau graddfa fawr yr Ysgol.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen .

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig