Ewch i’r prif gynnwys

Mater Cywasgedig a Ffotoneg

Mae Mater Cywasgedig a Ffotoneg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Mae Mater Cywasgedig a Ffotoneg (CMP) yn dwyn ynghyd wyddonwyr gyda sgiliau ategol, i rannu eu gwybodaeth a’u hadnoddau, i ddarparu ffocws a chyfeiriad ar gyfer dyfodol ein hymchwil ffiseg, a darparu hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Professor Emyr Macdonald

Academic contact

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys 20 o academyddion a ~28 o ymchwilwyr, yn gweithredu ar y ffin rhwng ffiseg sylfaenol a datblygu cysyniadau dyfais drwy fesuriadau optegol hanfodol a phrosesau trydanol mewn lled-ddargludyddion organig ac inorganig a (nano) strwythurau metelig, gan alluogi datblygiadau mewn dealltwriaeth am ryngweithiadau mater golau, cludo gwefr, datblygu a dilysu theorïau, datblygu cysyniadau dyfais newydd ac offerynnau sbectroscopig a ffotometrig sensitifrwydd. Gellir rhannu gweithgarwch grŵp ymhellach i is-themâu ymchwil Ffotoneg a Bioffotoneg, Dyfeisiau a Deunyddiau Cwantwm, Technoleg a Gwyddoniaeth Nanoraddfa, Delweddu a Ffiseg Cyfrifiadurol a Theori, Synwyryddion ac Offeryniaeth.

Mae’r grŵp yn meddu ar labordai o’r radd flaenaf gan gynnwys dwy ystafell lân dosbarth 1000 ar gyfer saernïo strwythur prawf a dyfais ac mae ganddo alluoedd damcaniaethol ac arbrofol helaeth gan gynnwys nifer o ddeunydd o’r radd flaenaf, saernïo dyfais a thechnegau nodweddu a ddyfeisiwyd yn y grŵp.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Ffiseg a Seryddiaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig