Ewch i’r prif gynnwys

Catalysis yn Sefydliad Catalysis Caerdydd

Mae gan yr Ysgol Cemeg gryfderau penodol mewn Catalysis Heterogenaidd, Catalysis Homogenaidd a Gwyddoniaeth Arwynebau, gan gynnwys Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) sy’n bwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Ni yw’r grŵp academaidd mwyaf mewn ymchwil catalysis yn y DU.

Mae catalysis wrth wraidd sawl proses gemegol, gan gynnwys y labordy ymchwil academaidd, systemau byw a chymhwyso mewn adweithyddion diwydiannol mawr. Drwy ddefnyddio catalysis yn ofalus ac yn ddeallus gellir gwneud nifer o brosesau yn gyflymach, yn lanach ac yn fwy cynaliadwy.

Mae ein hymchwil yn Sefydliad Catalysis Caerdydd yn mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd ac mae’n cynnig atebion arloesol. Rydym yn effeithio ar feysydd allweddol megis:

  • darparu dŵr glân drwy reoli a dinistrio llygryddion
  • diogelu'r awyrgylch a darparu aer glân
  • defnyddio adnoddau presennol yn fwy effeithlon a chaniatáu defnydd o adnoddau cynaliadwy newydd
  • datblygu tanwyddau carbon isel a sero carbon
  • galluogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy
  • datblygu catalysis ar gyfer gofal iechyd byd-eang

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd bellach wedi’i leoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi newydd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i sicrhau y bydd yr atebion catalytig yr ydym yn eu darganfod neu eu dyfeisio yn cael eu hehangu a’u datblygu i dechnolegau masnachol. Mae ein myfyrwyr ymchwil yn aml yn cael cyfleoedd i weithio ar leoliadau gyda phartneriaid yn y diwydiant.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Mae cryfderau ymchwil penodol yn cynnwys:

  • Catalysis aur
  • Catalysis amgylcheddol
  • Ffotocatalysis
  • Biocatalysis
  • Electrocatalysis
  • Darganfod catalydd
  • Synthesis catalydd
  • Mecanweithiau adwaith catalytig
  • Theori a modelu

Cyfadran Nodedig

Mae Yr Athro Hutchings, FRS, Cyfarwyddwr CCI, yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw ym maes catalysis heterogenaidd, gydag enw da yn fyd-eang am dorri tir newydd drwy ddefnyddio nano-ronynnau aur mewn ffyrdd arloesol. Mae wedi derbyn dau o’r gwobrau mwyaf mawreddog ym maes gwyddoniaeth - y Thompson Reuters Citation Laureate a Medal Davy y Gymdeithas Frenhinol.

Prosiectau

Mae gennym amrywiaeth o brosiectau ymchwil sy’n cael eu hariannu’n allanol Prosiectau, Rhaglenni ac Ysgoloriaethau PhD Cemeg Prifysgol Caerdydd i Fyfyrwyr y DU (findaphd.com) Gwiriwch eich bod yn cwrdd â meini prawf cymhwysedd penodol cyn gwneud cais am arian.

Mae'r Ysgol Cemeg hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.

Mae gennym restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn -Themâu prosiect PhD - Ysgol Cemeg - Prifysgol Caerdydd

Mae croeso i chi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth.

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy wasanaeth gwneud cais Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion a llwythwch unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).

Mae’r rhagolygon gyrfa ar gyfer graddedigion y rhaglen hon yn wych. Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i nifer o gwmnïau rhyngwladol adnabyddus gan gynnwys Jaguar Land Rover a Johnson Matthey.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig