Ewch i’r prif gynnwys

Canser a Geneteg

Gallwch gynnal eich gradd ymchwil yn yr Is-adran Canser a Geneteg. Anogir ymchwil er budd cleifion yr effeithir arnynt gan ganser a gan glefyd etifeddol.

Strategaeth y rhaglen yw i hybu ymchwil er budd y cleifion yr effeithir arnynt gan ganser a chlefyd a etifeddwyd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r rhaglen ymchwil yn mapio ar y llwybr ymchwil drosi yn amrywiaeth o wyddoniaeth sylfaenol i brofi cyfryngau therapiwtig cyn-glinigol yn ogystal â threialon clinigol cyfnod cynnar a hwyr. Mae ein hymchwil drosi yn canolbwyntio ar sylfaen genetig a moleciwlaidd clefyd dynol yn y thema ganolog o ganser. Mae’r Yr Isadran Canser a Geneteg yn darparu arbenigedd a chyfleusterau i gynnal ymchwil i eneteg a chlefyd dynol, marcwyr prognostig a diagnostig ar gyfer canser, therapïau newydd ar gyfer canser haematolegol ac organau solet, metastasis, imiwnoleg canser a bioleg celloedd canser.

Bydd y rhaglen hon yn arwain at radd ymchwil mewn canser a / neu geneteg y gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd, clinigol a diwydiannol.

Mae’r meysydd canlynol ar gael:

  • Malaenedd hematolegol - yn canolbwyntio ar ymchwil trosiadol a sylfaenol i falaenedd hematolegol a threialon clinigol sy’n archwilio triniaeth arloesol ar gyfer lewcemia;
  • Meddygaeth genetig a genomig - i ddeall mecanweithiau sylfaenol canser a chlefyd genetig yn well;
  • Canserau solet - yn ceisio gwella canlyniadau i gleifion gyda chanser gan ganolbwyntio’ bennaf ar dreialon clinigol ac ymchwil labordy cysylltiedig.

Nodweddion unigryw

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Bethan Moore

ICG Admin

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Stephen Man

Dr Stephen Man

Reader

Email
mans@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29206 87056

Cynhelir ymchwil drosi sy’n cwmpasu bioleg sylfaenol, ymchwil cymhwysol ac ymchwil clinigol ym mhob maes ymchwil.

Mae’r ddolen drosiadol yn cau drwy geisio darparu diagnosteg newydd ar gyfer risg canser a therapiwteg canser newydd drwy hwyluso’r partneriaethau rhwng Cleifion, Gwyddonydd, Clinigwr a’r Diwydiannau Fferyllol.

Mae’r meysydd a astudir yn cynnwys ansefydlogrwydd astudio (ansefydlogrwydd genom a ysgogir gan delomer a difrod ac adfer DNA), geneteg molecwlaidd canser a thueddiad tiwmor a etifeddwyd yn cynnwys sglerosis cnapiog a syndrom Rett.

Mae ymchwil canser solet yn cynnwys y prostad, y bledren, y fron, y colon a’r rhefr a’r pen a’r gwddf ta bod ymchwil canser nad yw’n solet yn cwmpasu malaenedd haematolegol fel lewcemia myeloid acíwt (AML, lewcemia lymffocytig cronig (CLL) a malaeneddau lymffoid eraill, myeloma a thrawsblannu bôn gelloedd clinigol.

Mae’r wyddoniaeth sylfaenol yn amlddisgyblaethol yn cynnwys delweddu, bioleg celloedd a bioleg foleciwlaidd yn ogystal â themâu traws-bynciol gydag imiwnoleg a fferylliaeth. Ym mhob achos, mae dylunio a darparu treialon clinigol cyfnod hwyr aml-ganolfan ac ymchwil drosi gysylltiedig mewn canserau solet amrywiol a malaenedd haematolegol yn faes arwyddocaol o ymchwil yn yr Is-adran. Yma mae datblygu therapïau sydd wedi’u dylunio ar gyfer unigolion penodol gyda chanserau penodol yn amcan.

Amgylchedd ymchwil a chyfleusterau

Mae’r Is-adran Canser a Geneteg yn un o bedwar o Is-adrannau’r Ysgol Meddygaeth, sydd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd. Mae ganddo tua 170 o staff a 70 o fyfyrwyr PGR, wedi’u lleoli mewn pedwar adeilad ymchwil gyda labordai â chyfarpar da. Mae agosrwydd Ysbyty’r Brifysgol yn caniatáu mynediad at samplau cleifion (gyda chaniatâd gwybodus a chymeradwyaeth foesegol). Hefyd, mae gan ymchwilwyr yn yr Is-adran fynediad at gymorth Biowybodeg drwy Barc Genynnau Cymru, a’r potensial i gydweithio â chydweithwyr yng Ngwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan y GIG. Ar hyn o bryd mae 9 o beiriannau sy’n gallu darparu dilyniannu trwygyrch uchel yng nghampws Parc y Mynydd Bychan.

Yn ogystal â bod yn gyfrannwr mawr i ddigwyddiadau’r Ysgol, mae gan yr Is-adran ei rhaglen seminar wythnosol ei hun lle mae myfyrwyr, gwyddonwyr ôl-ddoethurol, cymrodyr ymchwil clinigol a Phrif Ymchwilwyr (penaethiaid labordy) yn cyflwyno eu hymchwil. Hefyd, mae diwrnod ymchwil PGR DCG blynyddol, sy’n cynnwys sgyrsiau myfyrwyr a digwyddiad cymdeithasol dan arweiniad myfyrwyr. Hefyd mae cyfres Gwyddoniaeth mewn Iechyd a Seminar Gwyddoniaeth yr Ysgol yn cynnwys siaradwyr gyda thema canser neu geneteg.

Mae’r holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth yn ymgymryd â chwrs hyfforddi 1 wythnos mewn dulliau ymchwil fel rhan o’u wythnos ymsefydlu, a bydd ganddynt fynediad at amrywiaeth eang o gyrsiau ar sgiliau ymchwil drwy Coleg Graddedigion y Brifysgol. Ar hyn o bryd mae gan yr Ysgol Meddygaeth gyfradd cwblhau o 92.5% ar gyfer cyflwyniadau PhD a chyfradd cyflogaeth o 100% ymhlith myfyrwyr a arolygwyd. Mae myfyrwyr ymchwil o’n labordai wedi parhau ym maes ymchwil yn y byd academaidd neu yn y diwydiant.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Meddygaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig