Ewch i’r prif gynnwys

Seryddiaeth ac Astroffiseg

Mae Seryddiaeth ac Astroffiseg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Mae’r rhaglen arsylwadol yn defnyddio amrywiaeth o delesgopau rhyngwladol yn rheolaidd, gan gynnwys Telesgop James Clerk Maxwell, telesgop GEMINI a Thelesgop Isgoch y DU yn Hawaii, Arsyllfa La Palma, Telesgop Anglo-Australian, a’r Telesgop Hubble Space (HST). Mae llawer o’n gwaith yn ymwneud ag arsylwadau aml-donfedd o’r Bydysawd Cudd, y rhannau hynny o’r Bydysawd sy’n anweledig gyda thelesgopau optegol oherwydd eu bod yn oer a dan len o lwch - y rhanbarthau lle mae galaethau, sêr a phlanedau newydd yn ffurfio.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Tîm Derbyn Ôl-raddedigion

School of Physics and Astronomy

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Mattia Negrello

Academic contact

Mae ein prif amcanion yn ymwneud â Tharddiad: mesur yr amrywiadau y mae’r clystyrau cyntaf o alaethau wedi’u ffurfio ohonynt; ymholi i ffurfiant, strwythur ac esblygiad galaethau, heddiw ac mewn amseroedd yn y gorffennol; canfod ffurfiau newydd o fater; pennu cyflenwadau perthynol o elfennau cemegol mewn rhannau gwahanol o’r Bydysawd; canfod sêr a phlanedau yng nghamau cyntaf eu ffurfio a chofnodi gwewyr eu geni.

Caiff y gweithgareddau arsylwi ac allweddol hyn eu hategu gan raglen ddamcaniaethol cryf ac amrywiol sydd hefyd yn anelu at ateb cwestiynau Tarddiad, megis:

  • beth sy'n pennu strwythur a deinameg y cymylau moleciwlaidd enfawr y mae sêr a phlanedau newydd yn ffurfio ohonynt
  • effeithlonrwydd ffurfio seren a’r masau sy'n ffurfio sêr
  • priodweddau clystyru sêr a pham mae'r rhan fwyaf o sêr yn cael eu geni mewn systemau deuaidd
  • sut mae galaethau’n ffurfio a sut mae galaethau mewn clystyrau yn rhyngweithio â'i gilydd
  • sut, pryd a ble mae’r elfennau cemegol yn cael eu syntheseiddio
  • sut mae esblygiad ac ymddangosiad y Bydysawd yn cael eu heffeithio gan lwch
  • sut mae'r broses o ffurfio galaeth yn ymwneud â chosmoleg, yn enwedig y strwythur ar raddfa fawr y "gwe gosmig"

Mae'r prosiectau hyn yn gwneud defnydd helaeth o fodelu cyfrifiadurol ac efelychiadau, gan ddefnyddio uwchgyfrifiaduron cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â pheiriannau cyfochrog mewnol pwerus.

Gweithgaredd mawr arall yw ymchwil sylfaenol mewn seryddiaeth perthnasedd cyffredinol a thonnau disgyrchol. Mae hyn yn cynnwys dyluniad telesgopau tonnau disgyrchol, yn enwedig y prosesau a ddefnyddir i echdynnu a dadansoddi’r signalau bach iawn maen nhw’n eu cofnodi; a rhagweld signalau i’w disgwyl o ffynonellau tebygol fel tyllau du, uwchnofa, pylser, mewndroelli a chyfuno sêr niwtron, a phrosesau cwantwm syn digwydd ar ddechra’r Bydysawd.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Ffiseg a Seryddiaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig