Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgareddau rhyngddisgyblaethol

Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau creu cymuned a rhannu ymchwil i helpu myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â'i gilydd. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Rwyf wedi gwneud ffrindiau â phobl rwy'n eu trysori na fyddwn i wedi dod i'w hadnabod heb y gweithdai ymarferol, seminarau ysbrydoledig a chynadleddau rhyngddisgyblaethol.

Adelle, Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Ein digwyddiadau allweddol

Dros y flwyddyn academaidd, rydym yn cynnig ystod o weithgareddau ar-lein, gan gynnwys rhai wedi’u strwythuro a llai ffurfiol, i ehangu eich rhwydwaith ymhellach o fewn diwylliant ymchwil bywiog.

Dechrau Arni: Ymsefydlu

Dyma gyfle gwych i gwrdd â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill a dechrau datblygu rhwydweithiau personol a phroffesiynol pwysig. Mae'n cyflwyno'r amgylchedd ymchwil ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd a'r gwasanaethau sydd ar gael i'ch helpu drwy gydol eich PhD. Byddwch hefyd yn dysgu am y cyfleoedd hyfforddi a dysgu ehangach sydd ar gael yn yr Academi Ddoethurol a ledled Prifysgol Caerdydd i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich sgiliau a’ch datblygiad personol. Bydd Dechrau Arni yn ategu at y broses ymsefydlu fwy penodol a ddarperir gan eich ysgol.

Hefyd, mae digwyddiadau ailgyfarwyddo yn agored i fyfyrwyr fydd yn dechrau ail flwyddyn neu flwyddyn olaf eu hastudiaethau doethurol. Bydd y rhain yn helpu iddynt fyfyrio ar eu hanghenion datblygu, a dysgu rhagor am y cyfleoedd, y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd fwyaf priodol ar bob cam.

Three Minute Thesis (3MT®)

Mae Three Minute Thesis (3MT®) yn gystadleuaeth cyfathrebu ymchwil a ddatblygwyd gan Brifysgol Queensland.

Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i herio eu hunain a chymryd rhan. Drwy gymryd rhan yn y digwyddiad, byddwch yn datblygu eich sgiliau academaidd, cyflwyniad ac ymchwil cyfathrebu mewn amgylchedd cefnogol, gan gynnwys y gallu i egluro'n effeithiol eich ymchwil mewn iaith sy'n briodol i gynulleidfa anarbenigol.

Encil i awduron

Mae llawer o ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael trafferth dod o hyd i’r cymhelliant a’r ewyllys i ganolbwyntio a chwblhau darn sylweddol o waith ysgrifenedig. Mae’r encil diwrnod llawn hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio amser yn ysgrifennu mewn amgylchedd tawel, strwythuredig a chefnogol.

Rydym hefyd yn trefnu encil ysgrifenwyr preswyl blynyddol. Mae hyn yn darparu amgylchedd ysgrifennu dwys. Y nod yw rhoi'r amser, y gofod a'r anogaeth i chi wneud cynnydd sylweddol wrth ysgrifennu eich traethawd ymchwil PhD.

Y Ford Gron Amser Cinio

Mae ein cyfres o ddigwyddiadau 'bord gron' rheolaidd yn cynnig cyfleoedd anffurfiol a diogel i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig osod yr agenda a rhannu profiadau ar bynciau sydd o bwys a diddordeb i bawb, a hynny tra’n mwynhau cinio’n rhad ac am ddim. Sesiynau awr o hyd fydd cyfarfodydd y ford gron, a bydd pob un yn canolbwyntio ar thema benodol a awgrymwyd gennych chi, y bobl sy’n cymryd rhan.

Mae themâu'r gorffennol yn cynnwys:

  • rheoli eich cymhelliant yn ystod eich gradd ymchwil
  • rheoli eich ymchwil a'ch datblygiad wrth ofalu am blant
  • ymgymryd â gradd ymchwil mewn argyfwng costau byw

Sesiynau Bwrw Syniadau

Mae ein sesiynau bwrw syniadau anffurfiol yn rhoi cyfle i chi gydweithio a rhannu syniadau ar themâu amrywiol o safbwyntiau disgyblaethol gwahanol. Bydd y sesiynau bwrw syniadau yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwil eang a chynhwysfawr sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich profiadau a’ch arbenigedd eich hun am wneud ymchwil yn y meysydd hyn, yn ogystal â chreu a chryfhau cysylltiadau gydag ymchwilwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Cyngor un i un

Os ydych chi’n chwilio am gyngor ac arweiniad ar agwedd benodol ar eich ymchwil, eich datblygiad personol a phroffesiynol, eich traethawd ymchwil, neu hyd yn oed o ran bywyd myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn gyffredinol, mae’r Academi Ddoethurol yma i helpu.

Gallwych chi drefnu apwyntiad cyfrinachol un i un i drafod eich opsiynau gydag uwch-aelod profiadol o dîm yr Academi Ddoethurol sydd wedi cwblhau gradd ymchwil ac sydd â'r wybodaeth ac arbenigedd diweddaraf ym maes addysg a datblygiad doethurol.