Ewch i’r prif gynnwys

Benthyciadau ar gyfer astudiaethau doethurol

Os ydych yn byw fel arfer yn y DU ac yn dechrau eich PhD ym mis Medi 2024, efallai y gallech wneud cais am fenthyciad doethurol i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau.

Nodwch fod ffigurau a ddyfynnir isod yn amodol ar reoliadau yn cael eu llunio ac felly gallan nhw newid.

Bydd y benthyciad sydd ar gael i chi a chithau’n fyfyriwr doethurol yn dibynnu ar ble rydych chi fel arfer yn byw cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ac yn bwriadu dechrau PhD ym mis Medi 2024 yna efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethurol i ôl-raddedigion gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Pa gyllid sydd ar gael?

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yna fe allech chi gael benthyciad i helpu gyda chostau eich cwrs, megis ffioedd dysgu, a'ch costau byw cyffredinol.

Uchafswm y benthyciad doethurol i ôl-raddedigion sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau cwrs ym mis Medi 2024 yw £28,655.

Bydd taliad y benthyciad hwn yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs. Yna caiff hawl pob blwyddyn ei dalu'n uniongyrchol i chi mewn tri rhandaliad; un ar ddechrau pob tymor.

Bod yn gymwys

Bydd p’un a allwch dderbyn cyllid i ôl-raddedigion gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu goleg
  • eich oedran
  • eich astudiaeth flaenorol
  • os ydych yn derbyn cyllid arall, megis bwrsariaeth y GIG neu fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd ar gael yn Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael i chi drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais am gyllid

Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yng Nghymru ac sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2024 agor ym mis Mai/Mehefin 2024.

Gallwch wneud cais am y benthyciad yn ystod unrhyw flwyddyn o'ch cwrs ond os gwnewch gais ar ôl eich blwyddyn gyntaf, efallai na fyddwch yn cael yr uchafswm.

Arian ychwanegol

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd yn fyfyriwr ôl- raddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciad i ôl-raddedigion

Bydd y rhai sy'n cael benthyciad i ôl-raddedigion drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn academaidd 2024/25 yn ad-dalu hyn o dan y Cynllun Benthyciadau i Ôl-raddedigion.

Os ydych yn ad-dalu unrhyw fenthyciadau i israddedigion (benthyciad ffioedd dysgu a/neu fenthyciad cynhaliaeth), bydd yr ad-daliadau benthyciad i ôl-raddedigion yn cael eu cymryd yn ychwanegol at ad-daliadau benthyciad i israddedigion. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn ad-dalu eich benthyciadau Israddedig ac Ôl-raddedig ar yr un pryd os ydych yn ennill dros y trothwy ad-dalu.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae benthyciadau i ôl-raddedigion yn cael eu had-dalu yma.

Os ydych fel arfer yn byw yn Lloegr ac yn bwriadu dechrau PhD ym mis Medi 2024 yna efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethurol i ôl-raddedigion gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr.

Pa gyllid sydd ar gael?

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yna fe allech chi gael benthyciad i helpu gyda chostau eich cwrs, megis ffioedd dysgu, a'ch costau byw cyffredinol.

Uchafswm y benthyciad doethurol i ôl-raddedigion sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau cwrs ym mis Medi 2024 yw £29,390.

Bydd taliad y benthyciad hwn yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs. Yna caiff hawl pob blwyddyn ei dalu'n uniongyrchol i chi mewn tri rhandaliad; un ar ddechrau pob tymor.

Bod yn gymwys

Bydd p’un a allwch dderbyn cyllid i ôl-raddedigion gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu goleg
  • eich oedran
  • eich astudiaeth flaenorol
  • os ydych yn derbyn cyllid arall, megis bwrsariaeth y GIG neu fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd ar gael yn Cyllid Myfyrwyr Lloegr.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael i chi drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Lloegr i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais am gyllid

Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yng Nghymru ac sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2024 agor ym mis Mai/Mehefi 2024.

Gallwch wneud cais am y benthyciad yn ystod unrhyw flwyddyn o'ch cwrs ond os gwnewch gais ar ôl eich blwyddyn gyntaf, efallai na fyddwch yn cael yr uchafswm.

Arian ychwanegol

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd yn fyfyriwr ôl- raddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciad i ôl-raddedigion

Bydd y rhai sy'n cael benthyciad i ôl-raddedigion drwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr ym mlwyddyn academaidd 2024/25 yn ad-dalu hyn o dan y Cynllun Benthyciadau i Ôl-raddedigion.

Os byddwch chi’n ad-dalu unrhyw fenthyciadau i israddedigion (benthyciad ffioedd dysgu a/neu fenthyciad cynhaliaeth), bydd ad-daliadau’r benthyciad i ôl-raddedigion yn cael eu cymryd ar ben ad-daliadau’r benthyciad i israddedigion.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y byddwch chi’n ad-dalu eich benthyciadau Israddedig ac Ôl-raddedig ar yr un pryd os byddwch chi’n ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae benthyciadau i ôl-raddedigion yn cael eu had-dalu yma.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ariannu eich cwrs ôl-raddedig, cysylltwch â'r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Email
studentconnect@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 8888