Ewch i’r prif gynnwys

Canllaw Amgen ar gyfer Cyllid Ôl-raddedig

Mae Prifysgol Caerdydd wedi tanysgrifio i Arweiniad Amgen am Arian i Ôl-raddedigion.

Alternative Funding Guide 2021-22 cover

Mae'r llawlyfr hwn yn esbonio sut mae dod o hyd i ffynonellau arian eraill - yn enwedig elusennau - sy’n cynnig grantiau i myfyrwyr ymchwil ac addysgir ôl-raddedig presennol a darpar.

Mae elusennau yn ffynhonnell ariannu sy’n cael eu tanbrisio, ac yn aml maen nhw’n rhoi gwobrau i fyfyrwyr unrhyw bwnc ac unrhyw genedl. Mae sicrhau cyllid hefyd yn rhoi hwb i’ch CV, yn enwedig os ydych chi’n ystyried gyrfa academaidd.

Dau fyfyriwr ôl-raddedig luniodd y llawlyfr yn sgîl cael gafael ar dros £45,000 trwy 55 o wahanol elusennau.

Roedd y llawlyfr yn ddefnyddiol iawn o ran egluro sut mae cyflwyno ceisiadau i ymddiriedolaethau ac elusennau cydnabyddedig ledled y deyrnas. Mae rhestr o wahanol gysylltiadau ynddo, hefyd. Roedd datganiadau a llythyrau enghreifftiol gan fyfyrwyr blaenorol yn ddefnyddiol iawn i mi. Anfonais 50-100 o lythyrau i wahanol sefydliadau ac, er i rai wrthod y cais, cytunodd un elusen i roi grant digonol ar gyfer costau byw’r tymor cyntaf.

Laura, MSc Eco-ddinasoedd

Yn y canllaw hwn, byddwch yn gweld enghreifftiau o ddatganiadau ariannol a phersonol model, a dros 500 o ddolenni i ffynonellau ariannu’r sector gwirfoddol. Cyhoeddir yr Arweiniad Amgen yn annibynnol gan GradFunding.

I ofyn am eich copi am ddim o’r arweiniad, llenwch y ffurflen briodol: