Ceisiadau ansafonol ar gyfer astudio ôl-raddedig
Mae gan rai o'n cyrsiau ôl-raddedig a addysgir brosesau ymgeisio gwahanol.
Dysgwch sut i wneud cais a ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Diploma Graddegig yn y Gyfraith amser llawn
Mae'n rhaid ymgeisio am le ar gwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith drwy wefan Saesneg allanol y Bwrdd Ceisiadau Canolog.
Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC)
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LLM a PgDip) drwy gyfrwng gwefan y Bwrdd Ceisiadau Canolog.
Gwnewch gais ar-lein drwy’r Bwrdd Ceisiadau Canolog.
Rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol i astudio Ymarfer Cyfreithiol:
Gwaith Cymdeithasol
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau i astudio'r MA mewn Gwaith Cymdeithasol drwy wefan allanol UCAS neu drwy ffonio 0371 468 0468.
Er bod hon yn raglen ôl-raddedig, pan 'rydych yn gwneud cais drwy UCAS bydd yn rhaid i chi wneud hynny drwy ei system ymgeisio israddedig. Wrth wneud cais bydd angen y wybodaeth ganlynol:
Cod sefydliad: C15
Cod y cwrs: L508
Cod y campws: -
Enw cod y sefydliad: CARDF
Ffurf fer y cwrs: MA/SW
Gwnewch gais ar wefan allanol Saesneg UCAS.
Dylai'r ffurflen gais gynnwys manylion cymwysterau hanfodol, yn ogystal â datganiad personol ystyriol sy'n dangos sut mae'r ymgeisydd wedi ennill dealltwriaeth o feysydd gofal a gwaith cymdeithasol drwy eu profiadau.
Dylech gynnwys manylion ynglŷn â'ch cymhelliant o ran astudio, sgiliau dadansoddi a rhesymu beirniadol yn eich datganiad. Dylech gynnwys geirda sy'n academaidd neu sydd â chysylltiad ymarferol.
Bydd y dogfennau cais a gyflwynir yn sail i'r penderfyniad a ddylid galw am gyfweliad ai peidio.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cyfweld yn bersonol yng Nghaerdydd.
Seicoleg Glinigol
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y cwrs Seicoleg Glinigol drwy'r Adran Glirio ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig mewn Seicoleg Glingol.