Llety haf i fyfyrwyr (arhosiad byr)
Mae ystafelloedd hunanarlwyo ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (arhosiad o 7 noson o leiaf).
Os ydych chi’n byw yn llety'r Brifysgol ar hyn o bryd ac eisiau aros wedi i’ch contract ddod i ben ar 26 Mehefin 2024
- mae ystafelloedd ar gael o 26 Mehefin 2024 hyd at 11 Medi 2024 am £20.38 y noson yn Ne Talybont (arhosiad o 7 noson o leiaf)
- mae pob ystafell yn en-suite gyda chegin mae pawb yn ei rhannu
- gwnewch eich cais ar-lein trwy borth SIMS cyn 12 Mehefin 2024
Cadw lle yn llety eraill y brifysgol
- mae ystafelloedd ar gael o 03 Gorffennaf 2024 hyd at 11 Medi 2024 (arhosiad o 7 noson o leiaf)
- arosiadau o 7 i 28 noson yn Llys Senghennydd am £30 y noson
- arosiadau o 29 noson neu fwy yng Nghwrt Cartwright neu Lys Senghennydd am bris llai o £25 y noson
- Mae pob ystafell yn un sengl gyda chegin ac ystafell ymolchi mae pawb yn eu rhannu
- Rhaid i chi gadw ystafell o leiaf ddau ddiwrnod gwaith ymlaen llaw.