Ewch i’r prif gynnwys

Neuadd y Brifysgol

  • Pris: O £129.92 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £5196.80)
  • Ar gael ar gyfer: israddedigion, israddedigion sy'n astudio cwrs gofal iechyd estynedig, israddedigion sy'n astudio cwrs gofal iechyd sy'n dechrau ym mis Ionawr
  • Myfyrwyr: 673

Cyfleusterau allweddol

WiFi WiFi
Hearing Aid Loop Cyfleusterau ar gyfer nam ar y clyw
Laundry Ystafell golchi dillad
icon-catering Hunanarlwyo
Ensuite En-suite

Mae Neuadd y Brifysgol yn neuadd fawr gydag amgylchedd bywiog a chyfeillgar. Mae’n daith gerdded neu feicio byr i gampws Parc y Mynydd Bychan ac yn llai na 2 filltir o gampws Parc Cathays. Mae gan y Brifysgol gwasanaeth bws yn gweithredu rhwng Neuadd y Brifysgol a champysau Parc Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, sy’n rhedeg yn ystod yr wythnos. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu fel rhan o becyn preswylfeydd ar gyfer Neuadd y Brifysgol, felly nid oes rhaid i chi dalu bob tro rydych yn defnyddio Gwasanaeth Bws y Brifysgol.

Gofodau byw

  • Fflatiau/lloriau â chegin a rennir ar gyfer 8-18 o fyfyrwyr

  • Stiwdios hunangynhwysol ar gyfer cyplau a theuluoedd

  • Fflatiau hunangynhwysol ar gyfer cyplau a theuluoedd

Parcio

65 spaces

Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer

  • Teuluoedd
  • Cyplau
  • Myfyrwyr anabl
  • Byw'n dawel (Israddedig)

Gofodau byw

  • Fflatiau/lloriau â chegin a rennir ar gyfer 8-18 o fyfyrwyr

  • Stiwdios hunangynhwysol ar gyfer cyplau a theuluoedd

  • Fflatiau hunangynhwysol ar gyfer cyplau a theuluoedd

Parcio

65 spaces

Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer

  • Teuluoedd
  • Cyplau
  • Myfyrwyr anabl
  • Byw'n dawel (Israddedig)

Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety.


Y lleoliad

Neuadd y Brifysgol, Caerdydd, CF23 5YB

View location on mapbox

Pellter i gampysau

Prif adeilad Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty)
Pellter 1.75 milltir 1.25 milltir
Cerdded 35 munud 25 munud
Beicio 17 munud 12 munud
Bws Mae gwasanaeth bws a weithredir gan y Brifysgol ar gael. Ewch i cyfleusterau i gael rhagor o wybodaeth. Gwasanaeth bws ar gael gan y Brifysgol Mae gwasanaeth bws a weithredir gan y Brifysgol ar gael. Ewch i cyfleusterau a dewisiadau uchod i gael rhagor o wybodaeth. Gwasanaeth bws ar gael gan y Brifysgol

Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.

Agosaf

Siop Penylan
Archfarchnad Rhodfa Colchester (Sainsburys)
Bwyd cyflym Heol Wellfield
Bar Heol Wellfield
Cyfleusterau chwaraeon Ardal gemau aml-ddefnydd awyr agored (MUGA) ar y safle, gan gynnwys Tennis, Pêl-rwyd, Pêl-Fasged a Futsal.
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol

Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.

Lawrlwytho’r canllaw lleoliadau

Costau

Bydd y prisiau ar gyfer 2025/2026 ar gael o fis Mai 2025 ymlaen.

Mis Medi 2024 i fis Mehefin 2025 (40 wythnos)

MathCyfanswmRhandaliadau
Rhannu ystafell ymolchi £5196.802 X £1732.27and 1 X £1732.26
Ensuite £6020.002 X £2006.67 and 1 X £2006.66
Lle parcio £175 

Mis Medi 2024 i fis Medi 2025 (blwyddyn lawn)

MathCyfanswmRhandaliadau
Stiwdio £8852.943 X £2950.98
Fflat un ystafell £10134.573 X £3378.19 
Fflat dau ystafell £11229.522 X £3743.17 and 1 X £3743.18

Cwrs gofal iechyd estynedig (ansafonol)

Math
Ensuite / Rhannu ystafell ymolchi (Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan)Yn amrywio, yn ôl dyddiadau cyrsiau unigol. Bydd rhent yn cael ei gyfrifo yn ôl y gyfradd ddyddiol ar gyfer cyfnod y contract, sef 40-wythnos.

Nodwch: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:

Swyddfa Preswylfeydd

Email Ebost:
residences@cardiff.ac.uk
Telephone Ffôn:
+44 (0)29 2087 4849
Cardiff University logo
Mae Neuadd y Brifysgol wedi ei lleoli ar ben Bryn Pen-y-Lan, ychydig tu allan i ganol y ddinas. Mae’n gampws preswyl yn debyg i’r breswylfa fwyaf adnabyddus ‘Talybont’. Camddealltwriaeth arferol am Neuadd Y Brifysgol yw bod pellter y breswylfa o’r Brifysgol yn ei wneud yn lleoliad llai dymunol – ond os unrhyw beth, mae’n creu cymuned llawer cryfach. Gyda blociau gwahanol, rydych yn cael y cyfle i gyfarfod pobl o bob math o gwrs gyda diddordebau gwahanol. Rydych yn treulio llawer mwy o amser gyda’ch gilydd gan ei fod yn anoddach mynd am dro i’r dre. Mae rhai o’r ffrindiau roeddwn yn cyd-fyw â nhw yn parhau yn ffrindiau agos hyd heddiw. Ac un uchafbwynt arall, gallwch wylio pawb arall yn cerdded i’r brifysgol yn y glaw wrth i chi deithio ar fws am ddim! Perffaith!
Madeleine Phillips

Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.