Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs Adolygu Systematig

Cwrs dwys i'ch cyflwyno i'r sgiliau angenrheidiol i gwblhau adolygiad systematig.

Datblygwch ddealltwriaeth o'r broses adolygu'n systematig drwy'r cwrs ymarferol a rhyngweithiol iawn hwn, gydag amrywiaeth o sesiynau trafod, grŵp ac ymarferol. Rhagwelir y bydd y cyfranogwyr yn dod i’r cwrs â phwnc ymchwil ac yn mynd â phrotocol drafft ar gyfer eu hadolygiad systematig.

Dyddiadau'r cwrs

Cynhelir cwrs nesaf Adolygu Systematig ar 15 – 18 Ebrill 2024.

Cwrs rhithwir yw hwn a fydd yn cynnwys 5 sesiwn hanner diwrnod (boreau) a fydd yn cael eu harwain gan diwtor. Bydd llawer o seibiannau wedi'u hamserlennu a digon o gyfleoedd ar gyfer astudio annibynnol yn ystod y prynhawniau.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am y cwrs

Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn rhithwir neu wyneb yn wyneb dros 4 neu 5 diwrnod. Arweinir y sesiynau gan diwtor gyda chyfleoedd i astudio'n annibynnol a chefnogaeth tiwtor un i un.

“Darlithwyr medrus iawn, arddull anffurfiol, a chynnwys o ansawdd uchel. Manylion ymarferol - arfarnu beirniadol wedi'i ddysgu'n dda iawn. Bwyd da iawn ac yn wych i lysieuwyr.”

Cyfranogwr cwrs, Cwrs Adolygu Systematig SURE

Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?

  • Gweithwyr gofal iechyd
  • Ymchwilwyr gofal iechyd ôl-raddedig
  • Llunwyr polisïau
  • Llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol

Cynnwys y cwrs

Bydd cyfranogwyr yn dod i’r cwrs â phwnc ymchwil ac yn mynd â phrotocol drafft ar gyfer eu hadolygiad systematig.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:

  • cyflwyniad i adolygiadau systematig a mathau eraill o synthesis tystiolaeth
  • datblygu protocol
  • chwilio am lenyddiaeth a dewis astudiaethau
  • arfarnu beirniadol o ymchwil meintiol ac ansoddol
  • echdynnu data - datblygu ac addasu ffurflenni
  • meda-ddadansoddi neu syntheseiddio naratif
  • adrodd a lledaenu syntheses tystiolaeth.

Manteision

  • datblygu sgiliau rhyngweithiol
  • dod gyda phwnc
  • gadael gydag amlinelliad o brotocol
  • tiwtoriaid â phrofiad helaeth o adolygiadau systematig

Arweinydd cwrs

Mala Mann

Mala Mann

Arbenigwr Gwybodaeth/Adolygydd Systematig

Email
mannmk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7913

“Cyfuniad o ddarlithoedd ac ymarferion. Staff addysgu hynod ddiddorol. Hynod wybodus a chymwys. Digon o gyfle i drafod a chwestiynu. Wedi ateb cwestiynau yn dda."

Cyfranogwr cwrs, Cwrs Adolygu Systematig SURE