Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau adolygu systematig

Dysgwch ragor am yr offer asesu methodolegol a ddefnyddir wrth wneud adolygiadau systematig.

Cochrane Handbook for Systematic Reviews of Interventions

Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn gan y Cochrane Collaboration, ac mae’n rhoi arweiniad i awduron ar gyfer paratoi adolygiadau o Ymyrraeth Cochrane (gan gynnwys Trosolwg Cochrane o adolygiadau).

Systematic reviews of research on effectiveness

Canllawiau'r Ganolfan Adolygiadau a Lledaenu ar gyfer cynnal adolygiadau mewn gofal iechyd.

JBI Manual for Evidence Synthesis

Mae'r llawlyfr hwn yn disgrifio'r broses o gynllunio, cynnal ac ysgrifennu adolygiad systematig o dystiolaeth ansoddol, meintiol, economaidd, testun a barn.

SCIE systematic research reviews: guidelines (2nd edition)

Mae'r canllawiau hyn yn diweddaru ac yn egluro disgwyliadau SCIE ac yn cyflwyno dull newydd SCIE o asesu effaith economaidd arferion gofal cymdeithasol.

Campbell Collaboration systematic review guidance

Rhwydwaith ymchwil rhyngwladol yw Campbell Collaboration sy'n cynhyrchu adolygiadau systematig o effeithiau ymyriadau cymdeithasol.