Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau sydd wedi’u cwblhau

Dewch o hyd i enghreifftiau o rai o'r prosiectau rydym wedi gweithio arnynt o'r blaen.

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd

Buom yn gweithio gyda chydweithwyr yn DECIPHer ar adolygiad o ymyriadau i wella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi profi gofal (adolygiad systematig CHIMES). Nod yr adolygiad oedd asesu llwyddiant gwahanol raglenni o ran gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn ogystal ag edrych ar yr heriau o ran cyflwyno rhaglenni o'r fath. Awgrymodd yr adolygiad fod mentora yn rhaglen bosibl y gellid ei defnyddio yn y DU i wella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Yn ogystal, canfu'r adolygiad fod angen rhagor o gymorth i helpu gofalwyr a sefydliadau i gydweithio.

Llywodraeth Cymru

Ynghyd â chydweithwyr yn DECIPHer, cawsom ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad cyflym o gwnsela ysgolion a chymunedol. Edrychodd yr adolygiad ar effeithiolrwydd cwnsela o ran plant a phobl ifanc gan ystyried y rhwystrau a'r hyn sy’n hwyluso rhoi cwnsela ar waith. Awgrymodd yr adolygiad y gallai cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned gael effeithiau cadarnhaol ar blant a phobl ifanc. Canfuwyd tystiolaeth hefyd ynghylch y nodweddion sy'n bwysig ar gyfer gwasanaeth cwnsela o ansawdd uchel, ac ymhlith yr hyn a ganfuwyd roedd darpariaeth hyblyg, codi ymwybyddiaeth ynghylch cwnsela, bod â mannau priodol ar gyfer cwnsela, a blaenoriaethu perthnasoedd o ansawdd uchel rhwng rhanddeiliaid. Yn ogystal, roedd plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi cael dewis a hefyd bod yn rhan o wneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau cwnsela.

What Works for Children’s Social Care

Nod Canolfan What Works Centre for Children’s Social Care oedd gwella bywydau plant a theuluoedd drwy archwilio tystiolaeth yn gysylltiedig â gofal cymdeithasol plant. Buom yn gweithio gyda chydweithwyr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfres o adolygiadau cwmpasu a systematig i nodi, gwerthuso a chyfosod y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael. Yn rhan o’r gwaith hwn gwnaethpwyd adolygiad cwmpasu ar ymyriadau sydd at ddibenion lleihau niferoedd y plant a phobl ifanc sy'n dechrau derbyn gofal ac adolygiad systematig o ymyriadau sydd at ddibenion cadw gweithwyr cymdeithasol ym maes plant a theuluoedd, ac iechyd meddwl a lles y gweithwyr hynny. Yn ogystal, gwnaethom gynnal ymchwil ar chwilio am astudiaethau mewn gofal cymdeithasol plant a defnyddio gwahanol offer a thechnegau.