Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Ers ein sefydlu, rydyn ni wedi cyfrannu at ystod eang o brosiectau ymchwil.

Rydyn ni wedi mynd i'r afael â phynciau mor amrywiol â gofal lliniarol, iechyd meddwl a lles plant, therapïau digidol, rheoli achosion o ddigartrefedd, ac amddiffyn plant.

Prosiectau ymchwil cyfredol

Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Ariennir Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid sy'n cydweithio â hi, gan gynnwys SURE i gynhyrchu cynhyrchion megis adroddiadau adolygu cyflym, sy’n cyfuno tystiolaeth. Nod yr adolygiadau hyn yw crynhoi canfyddiadau allweddol at ddibenion llywio penderfyniadau ynghylch polisïau ac ymarfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae SURE wedi bod yn bartner i’r Ganolfan droeon ac ar y cyd maent wedi gweithio ar nifer o adolygiadau, gan gynnwys pynciau megis arloesi ym maes gofal cymdeithasol plant ac ymyriadau ar gyfer plant sydd wedi profi profedigaeth. Mae rhestr o bynciau ymchwil gorffenedig a gyhoeddwyd gan y Ganolfan ar gael yn y Llyfrgell Adroddiadau.

Y Ganolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil Gofal Iechyd

Mae’r Ganolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil Gofal Iechyd (CEDAR) yn rhan o’r GIG a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r ganolfan yn canolbwyntio ar dystiolaeth, ymchwil a gwerthuso yn gysylltiedig yn bennaf â dyfeisiau meddygol, diagnosteg a gweithdrefnau ymyrryd. Mae SURE a CEDAR yn rhannu partneriaeth hirsefydlog, maent wedi cyd-weithio ar asesiadau technoleg iechyd ar gyfer Rhaglen Gwerthuso Technolegau Meddygol NICE a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mae SURE a CEDAR wedi gweithio gyda’i gilydd ar gynhyrchu adroddiadau ar gyfer NICE ar dechnolegau meddygol megis AposHealth, dyfais ar gyfer osteoarthritis y pen-glin, a therapïau digidol ar gyfer oedolion sydd â gorbryder.

Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie

Nod Canolfan Ymchwil Marie Curie yw datblygu a chynnal ymchwil sydd wedi'i chynllunio'n dda a fydd yn gwella gofal a phrofiad cleifion pan fydd yr afiechyd wedi datblygu’n ddifrifol. Mae ymchwil hefyd yn cael ei chynnal er mwyn gwella profiadau gofalwyr. Mae SURE yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yng Nghanolfan Ymchwil Marie Curie i gynnal adolygiadau systematig a chyfuno tystiolaeth.

Mae’r Gwasanaeth Adolygu Tystiolaeth Gofal Lliniarol (PaCERS) yn brosiect yn y Ganolfan Ymchwil Marie Curie. Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi clinigwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau drwy ymgorffori tystiolaeth ymchwil yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac ymarfer. Mae'r gwasanaeth yn unigryw gan ei fod yn ymateb i alwadau clinigol neu sefydliadol allanol am dystiolaeth, yn hytrach na diffinio'r agenda adolygu. Gellir cyrchu adolygiadau cyflym sydd eisoes wedi'u cwblhau, ar wefan PaCERS.

Academia Europaea

Nod Academia Europaea yw hyrwyddo ymchwil Ewropeaidd ac mae’n rhoi cyngor gwyddonol i lywodraethau a sefydliadau rhyngwladol. Yn rhan o Academia Europaea, mae SURE yn gweithio ar y cyd â Chyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisïau gan Academïau Ewropeaidd (SAPEA) ar adolygiadau systematig a thystiolaeth arall sy'n cefnogi datblygu polisïau o fewn y Comisiwn Ewropeaidd. Ceir enghreifftiau pellach o waith SAPEA ar wefan SAPEA.

Canolfan Effaith Ddigartrefedd

Mae'r Ganolfan Effaith Digartrefedd (CHI) yn un o ddeg canolfan sy'n rhan o Rwydwaith What Works Llywodraeth y DU. Nod CHI yw gwella bywydau a phrofiadau pobl sy'n profi digartrefedd trwy ddefnyddio data a thystiolaeth. Arweiniodd SURE brosiect adolygu systematig ar gyfer CHI gan edrych ar rôl rheoli achosion wrth gefnogi pobl sy'n profi digartrefedd. Ar hyn o bryd, mae SURE yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Meddygaeth ar adolygiad systematig sy'n archwilio marwolaethau ymhlith pobl sydd wedi profi digartrefedd. Mae'r protocol adolygu wedi'i gofrestru ar gofrestr PROSPERO o adolygiadau systematig.