Ewch i’r prif gynnwys

Hanesion y dosbarth gweithiol

Strydoedd Llundain o Oes Fictoria gyda therasau cefn wrth gefn o lyfr Gustave Doré, London, a Pilgrimage (1872)
Strydoedd Llundain o Oes Fictoria gyda therasau cefn wrth gefn o lyfr Gustave Doré, London, a Pilgrimage (1872)

Ffynonellau am hanes cymdeithasol a diwylliannol y dosbarth gweithiol, yn cynnwys hunangofiannau, cofnodion ac adroddiadau am amodau byw.

Papurau gwleidyddol a phersonol y lobïwr Francis Place, copïau microffilm o'r gwreiddiol sy'n y Llyfrgell Brydeinig.

Roedd Francis Place (1791-1854) yn lobïwr gweithgar dros ddiwygiad y dosbarth gwaith ac yn actifydd gwleidyddol oedd yn gysylltiedig â chymeriadau blaenllaw ei ddydd fel Jeremy Bentham a James Mill. Roedd yn cefnogi cymdeithasau dynion y dosbarth gwaith a sefydliadau fel y London Corresponding Society.  Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ymgyrch lwyddiannus i ddiddymu'r Deddfau Cyfunol gwrth-undebol yn 1824.

Mae papurau Place yn cynnwys toriadau'r wasg,taflenni ac effemera arall sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth ac economeg Brydeinig yn ystod y cyfnod 1770-1853. Y rhai sy'n gohebu fwyaf yw Bentham, Mill, Richard Cobden, a Joseph Hume. Mae'r casgliad felly'n ffynhonnell gyfoethog tu hwnt am ddatblygiad cysylltiadau gwleidyddol dynion o'r dosbarth gwaith rhwng 1779-1842. Mae'r casgliad yn cynnwys yr hanesion canlynol:

  • treialon gwleidyddol
  • clybiau masnachau,undebau llafur a mynnu'r hawl i streicio
  • gohebiaeth y 'London Corresponding Society' (1791-1847) a chymdeithasau gwleidyddol eraill or 18g-19g
  • digwyddiadau gwleidyddol yn Lloegr rhwng 1830-1854, yn cynnwys y Ddeddf Diwygio Mawr, Terfysgoedd Bryste a'r Undeb Gwleidyddol Cenedlaethol
  • hanesion gwleidyddiaeth ac etholiadau San Steffan rhwng 1771-1837
  • papurau a nodiadau am ddarganfyddiad, hanes a materion gwleidyddol Canada
  • areithiau a memoranda am drethiadau a gweinyddu Cyfraith y Tlodion
  • nodiadau am hanes y ddrama Saesneg
  • 13 cyfrol o ddeunydd personol ac hunangofiannol
  • Deunydd am fyd y ddrama a theatr y dydd.

Mae llyfrau cofnodion Cymdeithas Owenite yn cael eu cadw ar wahân ar ficroffilm am y cyfnod 1838-1845 ac yn cynnwys:

  • llyfr cofnodion Cyfarwyddwr y 'National Community Friendly Society' 1838-1843
  • llyfr cofnodion Cyfarwyddwyr y 'Rational Society' 1838-1845
  • llyfr cofnodion Cyfarwyddwyr 'All Classes of All Nations' 1838-1845.

Mae'r gohebiaeth a dogfennau awdurdodau lleol am gadw trefn cyhoeddus, protest a therfysg ar gael ar gopi microffish o'r gwreiddiol sy'n yr Archifau Cenedlaethol.

Mae archifau Llywodraeth Prydain yn y Swyddfa Gartref Dosbarth HO52 yn cynnwys cofnodion am gadw trefn cyhoeddus a  therfysg a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Cartref wrth yr awdurdodau lleol drwy Brydain. Mae'r casgliad yn rhoi darlun byw o'r gormes a'r frwydr a fu. Mae'n darparu adroddiadau uniongyrchol o weithgareddau'r dosbarth gweithiol drwy'r Deyrnas Unedig yn ystod blynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol cyntaf yn y byd.

Mae'r casgliad hwn o Adroddiadau Lleol i'r Bwrdd Iechyd Cyffredinol yn cyflwyno darlun hynod benodol a manwl o Gymru ddiwydiannol ac effeithiau'r Chwyldro Diwydiannol cyntaf. Mae'r adroddiadau'n cynnwys y mwyafrif o'r pynciau, oedd, yn ôl yr arolygwr, yn effeithio ar les moesol a chorfforol a gweinyddiad yr ardal roedd e'n ymweld â hi.

Sefydlodd y Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1848 Fwrdd Iechyd Cyffredinol oedd yn gyfrifol am greu byrddau iechyd lleol. Roedd y rhain yn orfodol lle'r oedd marwolaethau'r ardal yn uwch na 23 ymhob 1000 o'r boblogaeth, neu le'r oedd digon o dalwyr trethi wedi gofyn am gymorth.

Roedd gan y byrddau iechyd lleol y gallu i ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd cyhoeddus yn cynnwys cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth a draeniadau, goleuo, sborionwyr, ansawdd bwyd, tai ymolch, llwybrau'r strydoedd, mannau claddu a rheoli masnachau tramgwyddus. Erbyn 1857 roedd gan Gymru fyrddau iechyd lleol mewn rhyw ddwsin o ardaloedd ac roedd nifer o ardaloedd eraill wedi gofyn am arolygiad.

Mae'r adroddiadau sy'n y casgliad yn berthnasol i'r ardaloedd canlynol:

  • Aberdâr
  • Aberhonddu
  • Abertawe
  • Bangor
  • Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Casnewydd
  • Coity
  • Cwmdu
  • Dinbych y Pysgod
  • Dowlais
  • Eglwys y Drindod
  • Llandeilo Fawr
  • Llanelli
  • Llangadog
  • Llangollen
  • Merthyr Tudful
  • Towyn
  • Tref y clawdd
  • Trallwng
  • Wrecsam
  • Ynyscynhaiarn

Mae hanesion o'r 19g o fywyd dosbarth gweithiol ar gael ar gopi microffish o'r gwreiddiol sy'n yr Amgueddfa Brydeinig. Ceir rhestr Saesneg o'r cynnwys.

Hunangofiannau yw'r mathau mwyaf poblogaidd o'r llyfrau ag ysgrifennwyd gan y dosbarth gweithiol yn y 19g. Maent yn adlewyrchu twf cyflym llythrennedd a'r sylweddoliad o'i werth fel cyfrwng i gyfathrebu gyda chynulleidfa ehangach y tu hwnt i'r gymuned leol.

Mae'r gweithiau hyn yn cynnwys anturiaethau milwrol a morwrol, hunangofiannau ysbrydol, straeon lladron ac atgofion eraill am droseddu a straeon am wella'ch hun. Nid yn unig maent yn rhoi'r unig gofnod ffurfiol o amodau byw'r awduron, maent hefyd yn cyfleu barn y bobl eu hunain am eu bywydau sydd yn aml yn gwrthddweud yr hyn a ddarllenwn mewn llyfrau hanes.

Ceir amrywiaeth o bynciau - o hel achau i berthnasau plentyndod a theuluoedd, o addysg i waith i hamdden, o grefydd i wleidyddiaeth. Maent oll yn rhoi mewnwelediad sylweddol i holl agweddau dosbarth gweithiol a bywyd ym Mhrydain y 19g.

Ceir cannoedd o gyhoeddiadau o'r 19g i'r 20g cynnar am hanes y dosbarth gweithiol a materion sosialaidd yn Ffrainc, ar gopïau microffilm o'r gwreiddiol sy'n y 'Bibliothèque Nationale', Paris.

Yn rhan ohonynt ceir gweithiau gan enwau cyfarwydd iawn fel Balzac a Durkheim hyd at y 'Revue Francaise du Travail' yng nghanol y 20g. Mae nifer o bynciau'n cael eu trafod; o streiciau i iechyd cyhoeddus i adroddiadau o gyngresi sosialaidd.

Mae yna rai gweithiau ideolegol yn y casgliad, ond mae astudiaethau ystadegol a ffeithiol yn cael y flaenoriaeth, yn cynnwys adroddiadau llywodraethol swyddogol a gweithiau personol doctoriaid, economegwyr, gwladweinwyr a dynion llenyddol ('men of letters').

Hefyd yn y casgliad microffilm ceir Adroddiadau Cyngres y 'Parti Communiste Francais' o ganol y 20g. Ceir ambell i rifyn o weithgareddau'r Cynulliad Cenedlaethol Ffrengig, yn fuan wedi ei sefydlu, o'r 1780au-1790au.

Cofnodion, memoranda ac hanesion achos y Bwrdd Diweithdra, copïau ar ficroffilm o'r gwreiddiol sy'n yr Archifau Cenedlaethol.

Ceir hanesion achos manwl sy'n dangos tlodi nifer o deuluoedd, ymatebion y cyhoedd i'r system newydd a phenderfyniadau am ymarferion gwaith y Bwrdd. O ganlyniad i Ddeddf Diweithdra 1934, sefydlwyd y Bwrdd Cymorth Diweithdra, a ddaeth yn gyfrifol am dalu cymorth diweithdra i'r rhai hynny nad oeddent yn gymwys i dderbyn buddion diweithdra wedi'u seilio ar gyfraniadau. Felly daeth gofal ar gyfer y tlawd iach yn gyfrifoldeb y llywodraeth ganolog yn hytrach na'r llywodraeth leol. Roedd hyn yn nodi diwedd cyfnod polisi cymdeithasol a ddechreuodd yn ystod teyrnasiad Elizabeth I.

Mae'r dogfennau'n datgelu tlodi nifer o deuluoedd, y gwahaniaethau mewn amodau byw rhanbarthol a'r drwg deimlad tuag at gynigion gwreiddiol y Bwrdd. Yn ogystal ceir fanylion am bynciau megis adolygu'r graddfeydd cymorth, dulliau'r penderfyniadau taliadau a derbyniad y Bwrdd gydag amser yn ystod y Rhyfel.

Dengys ffeiliau'r Is-bwyllgor Asesu'r berthynas rhwng cyflogau a thaliadau diweithdra, digalondid a chardota a diweithdra ymhlith yr ifanc. Mae'r casgliad hwn yn holl bwysig i haneswyr a gwyddonwyr cymdeithasol fel ei gilydd. Mae'n adrodd stori un o'r brwydrau gwleidyddol mwyaf yn sefydlu'r Wladwriaeth Les Brydeinig: trosglwyddiad hanesyddol cyfrifoldeb am y tlawd o'r llywodraeth leol i'r llywodraeth ganolog.

Cynnwys y riliau:

  • Memoranda'r Bwrdd 1934-1935 -rîl 1
  • Memoranda'r Bwrdd 1935-37 rîl 2
  • Memoranda'r Bwrdd 1937-38 rîl 3
  • Memoranda'r Bwrdd 1938-43 rîl 4
  • Cofnodion y Bwrdd 1934-1935, rîl 5
  • Cofnodion y Bwrdd 1935, rîl 6
  • Cofnodion y Bwrdd 1936-1943, rîl 7
  • Adroddiadau Blynyddol y Bwrdd 1939-1944, rîl 8
  • Gweithdrefnau gweinyddol 1936-1946; Is-bwyllgor Hyfforddiant a Lles 1936-1938; Swyddogion Rhanbarthol 1935-1941; Cynadleddau Swyddogion Rhanbarthol 1941-1946, rîl 9
  • Memoranda'r Bwrdd 1944-1948; cofnodion y Bwrdd 1944-1948; Cynhadledd Swyddogion Rhanbarthol 1946, rîl 10
  • Cynhadledd Swyddogion Rhanbarthol 946-1948, rîl 11

Ar gael ar brint ac yn ddigidol drwy yr Internet Archive.

Adroddiadau blynyddol gan Swyddog Meddygol Caerdydd am gyflwr iechyd cyhoeddus ac amodau byw yn y ddinas ar gyfer y blynyddoedd 1853-1926. Mae'r adroddiadau'n cyfeirio at Ddinas Caerdydd (ac wedi rhannu'r data i ardaloedd unigol), y system Ysgolion a'r Dociau.

Tyfodd fanylder yr adroddion yn sylweddol dros amser. Mae'r adroddiadau cynnar yn cynnwys data yn arddull y Cyfrifiad ar gyfraddau genedigaethau, marwolaethau, priodasau marwolaethau babanod, amodau tai, marwolaethau mewn sefydliadau cyhoeddus, marwolaethau treisgar a manylion clefydau a marwolaethau yn ôl achos, oed a rhyw.

Roedd achosion marwolaeth yn cael eu cymharu gyda data o ardaloedd amaethyddol, trefi mawr eraill, neu Loegr, oedd yn galluogi astudiaethau cymharol. Casglwyd data'r tywydd hefyd oherwydd y gred bod yr hinsawdd yn gyfrifol am glefydau penodol.

O'r 1870gau ehangwyd cynnwys yr adroddiadau i gyfeirio at glefydau penodol fel y frech wen, y dwymyn goch, diphtheria, y pas, colera a'r diciâu.

O 1914, ceir gwybodaeth benodol am famolaeth a lles plant yn cynnwys:

  • hysbysiadau genedigaethau marw
  • ymgynghoriadau cynenedigol
  • clinig deintyddol
  • ysbytai mamolaeth
  • ymweliadau i'r cartref gan ymwelwyr iechyd
  • cyflenwad llaeth am ddim
  • hyfforddi'r bydwragedd
  • bydwragedd yn ymarfer yng Nghaedydd
  • doctoriaid oedd yn cael eu galw i'r genedigaethau gan fydwragedd
  • nyrsio yn y cartref
  • cynorthwywyr yn y cartref
  • plant digartref
  • clefydau rhywiol

O 1923, ceir adroddiadau'n ymwneud â'r Ddeddf Diffygiad Meddyliol 1913, yn cynnwys dosbarthiadau achosion hysbys, crynodebau o'r achosion yn y sefydliadau, y rhai o dan warchodaeth neu oruchwyliaeth yn y cartref.

Casgliad trefnus a chynhwysfawr o sylw'r wasg leol a chenedlaethol am holl agweddau'r diwydiant glo a'i ddirywiad wedi'r rhyfel yn Ne Cymru. Ceir hanes streiciau a chaeadau'r pyllau glo mewn manylder.

Ceir erthyglau hefyd am breifateiddio'r diwydiannau nwy, dŵr a glo yn yr 1990gau cynnar yn ogystal â ffeil o erthyglau am bŵer niwclear. Daw'r mwyafrif o'r erthyglau o'r 'Western Mail', y 'South Wales Argus', a'r 'Guardian and Observer'.  Yn ogystal ceir nifer o weithiau cyfeiriadurol am y diwydiant glo yn Ne Cymru. Pori'r catalog ar-lein.

Nodwch fod enwau'r cyfnodolion yn eu hiaith wreiddiol.

  • Labour History Review (Sheffield,Lloegr)
  • International labor and working class history (Los Angeles, UDA)
  • Labor (journal of the labor and working-class history association, De Carolina, UDA)
  • Bulletin - Society for the Study of Labour History (Sheffield, Lloegr)
  • Rebecca: a radical magazine for Wales (Caerdydd, Cymru)
  • Journal of the Scottish Labour History Society (Aberdeen, yr Alban)
  • Labour: journal of the Committee on Canadian Labour History (Novascotia, Canada)
  • Scottish labour history review, Scottish labour history (Glasgow, yr Alban)
  • Mitteilungsblatt des Instituts zur Erforschung der europäischen Arbeiterbewegung / Bwletin y Sefydliad Astudio Symudiadau Gweithwyr Ewropeaidd (Bochum, yr Almaen)
  • Llafur: cylchgrawn hanes llafur Cymru (Aberystwyth,Cymru)
  • Saothar: journal of the Irish Labour History Society (Dulyn, yr Iwerddon)