Archif Salisbury

Llun o Enoch Salisbury (1819-90).
Llun o Enoch Salisbury (1819-90).

Archifau personol a chyfoethog sy'n rhoi mewnwelediad o fywyd y dyn busnes a'r gwleidydd o Gymro o'r 19g.

O ganlyniad i ddiddordeb personol Salisbury mewn hanes Cymru a'r Ffiniau, mae hefyd yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am y pwnc. Mae ei gasgliad print yn adnodd sy'n arbennig o unigryw. Ceir  ynddo 17 ffolio atlas o argraffiadau, oll yn cynrychioli gwahanol sir Cymreig neu ardal y Ffiniau.

Mae pob cyfrol yn llawn o argraffiadau, brasluniau ysgribin ac inc a dyfrlliwiau sy'n dangos tirweddau amrywiol, eglwysi, eglwysi cadeiriol, abatai, cestyll, golygfeydd diwydiannol a phobl, o amrywiaeth eang o ffynonellau. Gallwch bori'r archif ar Archive Hub.

Mae'r archif yn cynnwys:

  • dyddiaduron, 1851-65, yn bennaf am faterion busnes
  • dogfennau busnes a chyfreithiol, yn cynnwys prosbectysau, adroddiadau, papurau ac hanesion nifer o gwmnïau o'r cyfnod 1841-73
  • cyfeiriadau etholiad, llythyron, posteri ac hysbysiadau etholiadau Caer yn 1857, 1859, 1865, 1868 a 1874 ( Roedd E. R. G. Salisbury yn ymgeisydd llwyddiannus yn 1857, ond yn aflwyddiannus yn 1859)
  • casgliad o lyfrau lloffion, toriadau'r wasg wedi'u mowntio, taflenni, cartwnau, pamffledi o 1815-1885
  • toriadau o ddiddordeb hanesyddol a bywgraffiadol yn ymwneud â' siroedd y Ffiniau
  • catalogau llyfrgelloedd a gwerthwyr llyfrau
  • rhifynnau papur newydd unigol, 1732-1884
  • casgliad o lawysgrifau o'r 18g-19g, yn cynnwys barddoniaeth, pregethau a nodiadau hanesyddol/bywgraffiadol
  • dros 1000 o argraffiadau o'r 18g-19g yn cynnwys darluniau, golygfeydd, topograffeg a chofadeiladau.

Mae Llyfrgell bersonol Salisbury hefyd ar gadw yn ein Casgliadau Arbennig.

About this collection

Collection type: Archive

Dates: 18 century, 19 century

Size: 43 o focsys; 24.5 metr

Notes: Prynwyd papurau personol a llyfrgell E.R.G. Salisbury o Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yn 1886.

Formats: Newspapers and periodicals, Archives

Subjects: Religion, Politics, Economics and business, Art and music, History, Society and law

Contact Us

Our professional team is here to help you to make the most out of our collections.