Sgorau Morfydd Owen

Morfydd Owen
Morfydd Owen (1891-1918), cyfansoddwraig

Sgorau erwydd a phethau cofiadwy personol y gyfansoddwraig, Morfydd Owen.

Porwch y catalog ar-lein

Roedd Morfydd Llwyn Owen (1891-1918) yn gyfansoddwraig, pianydd a mezzo-soprano Cymraeg talentog iawn. Nid yn unig roedd hi’n dalentog ond roedd yn gynhyrchiol hefyd. Er bu farw’n ifanc yn 26 oed, fe gynhyrchodd dros 180 o gyfansoddiadau mewn llai na deng mlynedd. Mae’r casgliad yn cyflwyno cyfanrwydd ei chynnyrch cerddorol sef:

  • gweithiau cerddorfaol
  • gweithiau corawl
  • gweithiau piano
  • gweithiau siambr
  • caneuon
  • operâu
  • y Cyfrol Goffa, sy'n cynnwys 4 rhifyn, o'i gweithiau a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys pethau cofiadwy personol:

  • rhaglenni perfformiad
  • ei thystysgrif priodas i’r seicreiddiwr a chofiannydd Freud, Ernest Jones
  • casgliad mawr o hysbysiadau i’r wasg.

About this collection

Collection type: Archive

Dates: Early 20 century

Size: 10 bocs, 3 o fetrau

Notes: Rhoddwyd i Goleg y Brifysgol Caerdydd ar ôl marwolaeth Morfydd yn 1918. Trosglwyddwyd y casgliad i Ganolfan Gwybodaeth Cerddoriaeth Cymru, Caerdydd. Mae'n dangos tystiolaeth o ddeunydd perfformiad o’r cyfnod. Dychwelodd y casgliad i Brifysgol Caerdydd wedi hynny ac mae bellach o dan ofal Casgliadau Arbennig ac Archifau.

Formats: Books, Archives

Subjects: Art and music, History

Special Collections and Archives team

Need help?

Our professional team is here to help you to make the most out of our collections.