Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Mae ein tîm ymroddgar wedi ennill gwobrau am eu dulliau addysgu arloesol ac wedi cael eu cydnabod am gydweithio’n agos â busnesau.

Mae cynnwys ein cwrs wedi cael ei ddylunio gyda mewnbwn gan sefydliadau blaengar er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol o ddatblygu meddalwedd gan ddefnyddio offer a thechnegau masnachol cyfredol. Bydd hyn yn cryfhau eich sgiliau proffesiynol ac yn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer y gweithle, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd drwy ymgysylltu’n gyson â gweithwyr proffesiynol gweithredol.

Mae ein hamgylchedd dysgu pwrpasol yn cefnogi trafodaethau grŵp a chydweithio â chyd-fyfywryr.

Fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, bydd gennych chi fynediad at holl gyfleusterau a gwasanaethau cymorth y Brifysgol.

Prosiectau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid

Mae ein prosiectau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid wedi’u dylunio i roi eich gwybodaeth ar brawf mewn modd ymarferol lle byddwch yn “dysgu drwy wneud”, drwy gael eich trochi yn y math o faterion a thasgau y bydd gofyn i chi eu cyflawni yn y gweithle.

Fel arfer, bydd prosiectau yn cael eu cynnal am oddeutu pedair wythnos tuag at ddiwedd pob tymor, ac eithrio’r Prosiect Mawr ar gyfer Tîm yn ystod Blwyddyn Olaf yr israddedigion, sy’n cael ei gynnal am 8-10 wythnos yn ystod tymor y gwanwyn. Bydd myfyrwyr israddedig yn cynnal prosiect mawr fel rhan o’u traethawd hir.

Cymorth â phrosiectau

Mae goruchwyliwr academaidd yn cynorthwyo â phob prosiect, a bydd yn eich tywys drwy’r prosiect o’r dechrau i’r diwedd. Darlithydd o’ch tîm dysgu fydd hwn fel arfer, ond byddwn hefyd yn cynnwys aelodau o dimau eraill pan fydd llawer o brosiectau ar y gweill. Byddwch fel arfer yn cwrdd â’ch goruchwyliwr academaidd mewn “cyfarfod gwib” wythnosol er mwyn sicrhau bod y prosiect ar y trywydd iawn a datrys unrhyw broblemau.

Gweithio fel tîm

Yn y diwydiant peirianneg meddalwedd, mae pwyslais enfawr ar weithio mewn tîm. Mae ein rhaglenni wedi cael eu llunio i ddysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i weithio’n effeithiol fel peirianwyr meddalwedd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer a thechnegau i reoli cod yn effeithlon, yn ogystal â rheoli tasgau a gofynion prosiect.

Byddwch hefyd yn dysgu amryw o “sgiliau personol” fel cyflwyno, cyfathrebu, negodi a rheoli anghydfod. Mae cael y profiad hwn mewn amgylchedd diogel yn werthfawr dros ben. Pan fyddwch yn graddio, byddwch wedi gweithio ar amrywiaeth dda o brosiectau peirianneg meddalwedd o sylwedd, ac wedi cael profiad helaeth a fydd yn helpu i wella eich cyflogadwyedd.

Offer

Byddwch yn cael gliniadur yn ystod yr wythnos sefydlu fydd yn aros gyda chi drwy gydol eich cwrs. Bydd y meddalwedd angenrheidiol i gwblhau eich cwrs wedi’i osod ar y gliniadur. Eiddo’r Brifysgol yw’r gliniadur ac mae’n rhaid i chi ei ddychwelyd pan fydd y cyfnod dysgu yn dod i ben bob blwyddyn (tua mis Mai i israddedigion a mis Medi i ôl-raddedigion).

Gweithio gyda phartneriaid

Bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau gyda chleient yn y diwydiant, yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ‘Dysgu Dros Ginio’, mynd i ddigwyddiadau rhyngweithio’r diwydiant a siarad â mentoriaid yn y diwydiant.

Ymholiadau gan fyfyrwyr

Myfyrwyr y DU a'r UE

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â’n Swyddfa Derbyn ni, a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau.

Tîm derbyn

Y Swyddfa Ryngwladol