Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda diwydiant

Rydyn ni’n chwilio ym mhob sector am ddarpar bartneriaid a fydd yn cyffroi, yn ysbrydoli ac yn herio’r to nesaf o beirianwyr meddalwedd.

Rydyn ni wedi datblygu partneriaethau â chwmnïau ledled y DU er mwyn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar brosiectau sy’n canolbwyntio ar y cleient.

Mae ein myfyrwyr wedi dylunio adnodd ar-lein ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i roi gwybod am dipio anghyfreithlon yng Nghymru, wedi gweithio gydag Ysgol Ddeintyddiaeth Caerdydd i fynd i’r afael â gorbryder mewn plant ifanc sy’n mynd i’r Ysbyty Deintyddol, ac wedi archwilio ateb digidol i gefnogi’r broses o ad-drefnu Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Tasglu’r Cymoedd.

Cyfleoedd i bartneriaid

Mae amryw o gyfleoedd i bartneriaid gymryd rhan. Gallwch wneud y canlynol:

  • darparu prosiectau byw gyda chleientiaid i roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a meithrin sgiliau
  • mentora myfyrwyr wyneb yn wyneb ac o bell
  • cyflwyno seminarau gwadd neu sesiynau sgiliau
  • cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr fwrw haf yn eich cwmni a chynnig swyddi i raddedigion
  • cynnig nawdd a bwrsariaethau i fyfyrwyr
  • noddi gwobr/cymhelliant i fyfyrwyr
  • cynorthwyo gyda marchnata a chyhoeddusrwydd.

I gael gwybod rhagor am sut gallwch fod yn rhan o'r cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â:

Roeddem yn awyddus i gael criw newydd ac awyddus o ddatblygwyr yn gweithio gydag iBeacons. Roedd gennym ddiddordeb mewn sut yr oeddent yn rhagweld y byddai iBeacons yn gwella apiau ac yn cynnig dimensiwn arall i brofiad y defnyddiwr. Roedd cael 25 pâr o lygaid yn gweithio gyda thechnoleg newydd ac yn rhoi eu hadborth yn bwysig i ni. Pleser pur oedd manteisio ar yr egni yma a gweld y prosiectau yn datblygu.

David Pugh, Rheolwr Peirianneg Systemau, GCell

Partneriaid yn y diwydiant

Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau, gan gynnwys:

Cysylltwch â ni

Ewch i gael gwybod mwy am sut mae cymryd rhan yn y cyfle cyffrous hwn.

Joanna Emery

Joanna Emery

Knowledge Transfer Officer

Email
emeryjl4@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0851
Justin James

Justin James

Executive Officer (National Software Academy)

Email
jamesj20@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8695
Dr Wendy Ivins

Dr Wendy Ivins

Lecturer

Email
ivinswk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0248