Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae ein hymchwil yn arwain y byd, gan gyflawni sgoriau rhagorol am ymchwil, ansawdd ac amgylchedd ym maes Addysg a Chymdeithaseg yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, gan sgorio 3ydd a 10fed yn y DU yn y drefn honno.

Rydym yn ymrwymedig i ymchwil a lywir gan ddamcaniaeth gyda ffocws clir ar bolisi. Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol, yn arloesol ac yn cael effaith.

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn cynnwys:

  • Cymrawd o'r Academi Brydeinig
  • Academydd o'r Academi Gwyddorau Cymdeithasol
  • Enillydd Gwobr Cyflawniad Oes y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig
  • Cymrawd Academi Amaethyddiaeth a Choedwigaeth Frenhinol Sweden
  • Cymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Croesawn amryw o ymwelwyr a siaradwyr rhyngwladol, Yn y gorffennol mae'r rhain wedi cynnwys: Yr Athro Michael Burawoy; Yr Athro Randall Collins; Syr Michael Marmot; Madeleine Bunting; a'r Athro Danny Dorling.

Grantiau a chydweithrediadau

Mae ein cydweithrediadau'n amrywio o bartneriaethau gyda phrifysgolion blaenllaw ac asiantaethau rhyngwladol ledled y byd, i weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr lleol.

Er 2008, mae'r Ysgol wedi sicrhau grantiau ymchwil gyda chyfanswm o dros £38 miliwn. Ein hadran ni sy'n sicrhau'r grantiau allanol uchaf fesul pen o unrhyw adran Gwyddorau Cymdeithasol yn y wlad.

Rydym yn bartneriaid yn What Works Centre for Crime Reduction y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rydym yn cynnal Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol., Hefyd rydym yn arwain DECIPHER (y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd).