Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a addysgir

Mae gan yr ysgol amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig a addysgir, gan roi cyfleoedd i raddedigion ddatblygu eu hastudiaethau mewn amgylchedd sy'n enwog am ei gwaith ymchwil sy'n arwain y byd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni meistr yn fodd i chi ymgymryd ag astudiaethau penodol sy’n berthnasol i ystod o alwedigaethau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Bydd y myfyrwyr yn elwa o ehangder arbenigedd ymchwilwyr ac ysgolheigion blaenllaw ym meysydd damcaniaethau a methodolegau

Cewch eich addysgu gan ysgolheigion blaenllaw sy’n cael eu cydnabod am eu harbenigedd sylweddol, damcaniaethol a methodolegol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Addysgu a ategir gan ymchwil

Cyflwynir ein haddysgu drwy ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu pynciau.

Maen nhw'n cael eu cydnabod fel rhai rhagorol yn rhyngwladol, gan gael effaith uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer ledled y byd.

Darganfyddwch wybodaeth fanwl am ein cyrsiau isod.

Cyllid a ffioedd

Mae'r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaeth Graddau Ôl-raddedig a Addysgir i gefnogi myfyrwyr y DU a'r UE y mae arnynt eisiau astudio rhaglen meistr.