Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Cewch gyfle i fynd ar leoliad neu astudio dramor yn ystod eich ail flwyddyn. Er bod y ddau opsiwn yn cynnig profiad gwahanol, mae'r ddau yn werthfawr ar gyfer eich datblygiad personol a'ch CV.

  • Roedd 89% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21)
  • Roedd 98% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21)

Cyrchfannau graddedigion

Mae ein graddedigion yn derbyn swyddi mewn ystod trawiadol o sectorau yn cynnwys llywodraeth, plismona, bancio, gwasanaeth carchardai ac addysgu.

Mae cyrchfannau graddedigion yn cynnwys;

  • Llywodraeth Cymru
  • Y Gwasanaeth Sifil
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwoladol
  • Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
  • Y GIG
  • NSPCC
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Y Cyngor Prydeining

Cymorth gyrfaol pwrpasol

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig,

Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn a gallwn eich helpu chi i gwrdd â'ch uchelgais gyrfa drwy amrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.

Byddwch yn cael:

  • apwyntiadau arweiniad gyrfaoedd
  • ystod o weithdai am CVs, ceisiadau, rhwydweithiau cymdeithasol (gan gynnwys LinkedIn), cyfweliadau a diwrnodau asesu.
  • digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (o fewn meysydd sector megis addysu)
  • siaradwyr gwadd proffesiyn o ystod eang o sectorau (er enghraifft addysgu, plismona, llywodraethu)
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor (er enghraifft llywodraeth, sector elusennol, plismona)
  • gweithgareddau menter
  • bwrdd swyddi yn cynnwys lleoedd gwag i raddedigion, interniaethau a lleoliadau gwaith
  • gwybodaeth am y farchnad lafur.

Mwy o wybodaeth am gyfleoedd lleoliadau gwaith.

Cefnogi ein cynfyfyrwyr

Nid yw'n cymorth gyrfaol yn gorffen ar ôl i chi raddio; mae yna nifer o fanteision ar gael ar gyfer ein graddedigion ni'n unig.

Mae cyngor gyrfaol i gynfyfyrwyr ar gael hyd at dwy flynedd ar ôl graddio, yn cynnig gwybodaeth am ffeiriau gyrfaoedd, gweithdai a digwyddiadau yn ogystal â mynediad i wybodaeth gyrfaol, interniaethau a mwy.

Dyfodol Myfyrwyr

P’un a ydych chi’n gwybod i ba gyfeiriad yr ydych am fynd, neu os nad oes gennych syniad eto, gallwn eich helpu chi yn ystod taith eich gyrfa. Mae ein cyfuniad o arweiniad wyneb yn wyneb ac ar-lein yn golygu bod modd cynllunio eich dyfodol mewn ffyrdd hawdd, hygyrch a chyffrous.

Mae ein gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig:

  • apwyntiadau gyrfaoedd un-i-un
  • gweithdai hanfodol ar bynciau fel CVs, LinkedIn a chyfweliadau
  • sesiynau hyfforddi gyrfa
  • digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol a ffeiriau gyrfaoedd
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor
  • cymorth i ddechrau busnes
  • gwybodaeth gyfredol am y farchnad lafur
  • mynediad i’n Bwrdd Swyddi ar-lein

Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.