Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

SPARK approach
Bydd ymchwilwyr SPARK yn gweithio gyda phartneriaid allanol i ddatrys problemau cymdeithasol.

Nod ein gwaith yw mynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.

Yn ein byd llawn cysylltiadau a chymhlethdodau, ni allwn ddisgwyl cael yr holl atebion o un sefydliad neu un bwnc academaidd. Mae creu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) cyntaf y byd yn ymateb i’r her hon. Wrth addasu a datblygu model traddodiadol o barc gwyddoniaeth, mae’n cyfuno yr hyn rydyn ni’n ei wybod am y gwyddorau cymdeithasol â gwybodaeth ein partneriaid.

Mae SPARK yn dod â grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau sy’n effeithio arnom. Mae’r rhain yn cynnwys achosion diweithdra a ffyrdd o’n gwneud yn fwy iach a diogel. Bydd dod ag arbenigedd ynghyd yn ein galluogi i weithio mewn ffyrdd newydd wrth i ni chwilio am atebion i’r problemau hyn a’u datblygu.

Social science parks: society's new super-labs

Y syniadau y tu ôl i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.

Bydd gwneud gwaith ymchwil o safon uchel ar y cyd â diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn galluogi ein myfyrwyr i feddwl am eu dyfodol. Bydd hefyd yn eu hannog i ddychmygu beth y gellir ei gyflawni, ac yn rhoi cyfle iddynt weld pa mor entrepreneuraidd ydyn nhw.

Bydd gwybodaeth a syniadau newydd yn cael eu creu o ganlyniad i bartneriaethau newydd; gyda lwc, bydd y ffordd newydd hon o weithio yn llunio dyfodol gwaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.

Yn SPARK – parc ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd – bydd grwpiau ymchwil a arweinir gan wyddonwyr cymdeithasol sydd ar flaen y gad ar lefel fyd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfuno dulliau newydd ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol, biolegol a ffisegol mewn amgylchedd pwrpasol i gynhyrchu gwybodaeth newydd a datblygu atebion newydd i broblemau cymdeithasol mawr. Bydd hyn yn enghraifft berffaith o gysylltu, cydweithio a chael effaith.

Yr Athro Damian Walford Davies Y Dirprwy Is-Ganghellor