Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni PhD

Rydym yn awyddus i ddenu’r myfyrwyr ymchwil gorau yn rhyngwladol yn ein chwe rhaglen ymchwil a meysydd rhyng-gysylltiedig:

Mae’r rhaglenni a chyfleoedd hyfforddiant yn cael eu cyflenwi gan staff ymchwil y Sefydliad a’n partneriaid allanol. Hefyd, mae cyfle i elwa ar hyfforddiant a gyflenwir gan Rwydwaith Hyfforddiant Arloesol Marie Curie SUSPLACE.

Mae pob un o’n myfyrwyr PhD yn cael cyfle i weithio gyda phartneriaid creu lleoedd cynaliadwy allanol, yn ogystal â bod yn rhan o’n rhwydweithiau academaidd rhyngwladol ehangach, a’n prosiectau ymchwil gweithredol, sy’n gweithio ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd.

Meysydd astudio

Mae gan ein staff ymchwil ddiddordeb mewn goruchwylio ymchwil ar ystod eang o bynciau rhyng-ddisgyblaethol, gan gynnwys, ymysg eraill:

  • datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys rôl prosesau a sefydliadau llywodraethu.
  • gwaith sy’n mynd i’r afael â llywodraethu yng nghyd-destun newid amgylcheddol byd-eang (newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth)
  • mae diddordeb penodol mewn astudio datblygiad cynaliadwy yn ymwneud â deall y rhyng-berthynas rhwng systemau ecolegol a phrosesau cymdeithasol, gan gynnwys astudio’r gwerth a roddir ar natur ym maes rheoli amgylcheddol trwy bolisïau a mentrau adfer.
  • cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • masnach deg
  • menter gymdeithasol
  • marchnata cymdeithasol
  • marchnata cynaliadwyedd
  • datblygiad cefn gwlad
  • y bio-economi
  • systemau bwyd cynaliadwy
  • bioamrywiaeth amaethyddol (geneteg a genomeg)
  • cadwraeth drofannol (gwyddorau biolegol a systemau cymdeithasol-ecolegol cysylltiedig)
  • bioleg cadwraeth a thystiolaeth o reoli rhywogaethau.

Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant a rhaglenni mewn partneriaeth â’r Brifysgol, a phrifysgolion a sefydliadau cydweithredol rhyngwladol, gan gynnwys Prifysgol Leuven: Prifysgol y Cenhedloedd Unedig, Malaysia: Prifysgol Tongji, Tsieina.

I gael rhagor o wybodaeth neu drafod prosiectau PhD posibl, cysylltwch â’r:

Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy