Ewch i’r prif gynnwys

Gwydnwch mewn systemau naturiol-cymdeithasol deuol

Mae'r thema hon wedi'i seilio ar leoedd ac mae'n ymchwilio i reolaeth gynaliadwy ar dirluniau naturiol mewn modd sy'n golygu y gallan nhw barhau i roi'r gwasanaethau y mae llesiant pobl yn dibynnu arnyn nhw, gan gadw ecosystemau bioamrywiol a gweithredol yr un pryd.

I sicrhau amgylcheddau cynaliadwy, mewn byd lle mae'r hinsawdd ac amodau eraill yn newid, mae arnon ni angen dealltwriaeth newydd o sut mae prosesau ffisegol, ecolegol a chymdeithasol yn cydblethu.

Mae cyd-adweithio rhwng y prosesau hyn ar draws gwahanol raddfeydd yn pennu ansawdd bywyd ac yn pennu sut y gall systemau naturiol weithredu. Mae deall y berthynas ddeuol yn hollbwysig ar gyfer systemau ymaddasol o reoli a llywodraethu a all sicrhau cynaliadwyedd er gaethaf cynnydd yn y pwysau o du newid yn yr hinsawdd, sicrwydd bwyd a phrinder dŵr.

Drwy anelu at ddeall y cydadweithiau hyn, mae'r rhaglen yn gweithio i fynd i'r afael â'r diffyg cyfatebiaeth ymddangosiadol rhwng amgylcheddau ffisegol, ecosystemau a sefydliadau cymdeithasol. Gan weithio ar y rhyngwyneb rhwng ecoleg, gwyddorau'r ddaear a'r gwyddorau cymdeithasol, mae'r tîm yn datblygu cysyniadau a dulliau newydd i ateb cwestiynau fel y rhain:

  • pa gyfuniadau o ecosystemau a systemau cymdeithasol sy'n gynaliadwy? Sut gall y perthnasoedd hyn gael eu cryfhau er mwyn hybu gwydnwch?
  • sut gall llwybrau anghynaladwy gael eu hailosod?
  • pa raddfeydd sy'n berthnasol ar gyfer rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol a swyddogaethau ecosystemau, a sut gall y canfyddiadau gael eu trosglwyddo o'r naill raddfa i'r llall?
  • pa ddulliau a mesurau sydd orau i asesu'r cydadwaith presennol rhwng cymdeithasau a'u hamgylcheddau naturiol, ac a all gael eu defnyddio hefyd at ddibenion darogan?

Y prif gysylltiadau