Iechyd a chymunedau cysylltiedig
Mae'r rhaglen hon yn unigryw o ran dod â pholisi iechyd a pholisi cyhoeddus i mewn i drafodaethau ar gynaliadwyedd, ac mae wrthi'n datblygu rhagoriaeth ryngwladol mewn ymchwil amlddisgyblaeth ar y berthynas rhwng iechyd, llesiant a lleoedd drwy gydol bywyd, er mwyn hybu cymunedau ffyniannus, gwydn a hyblyg.
Amcanion y rhaglen yw:
- Darogan effaith cymdeithas garbon-isel ar iechyd;
- Deall a mesur yn well y cydadwaith cymhleth rhwng ffactorau cymdeithasol, economaidd, ffisegol a biolegol mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym;
- Integreiddio'r wybodaeth hon ar draws disgyblaethau;
- Mynd i'r afael â chwrs bywyd cyfan, gan gynnwys effeithiau rhwng y cenedlaethau a'r newidiadau ymaddasol mwn ffordd o fyw y mae eu hangen er mwyn ymdopi ag amgylcheddau sy'n newid yn gyflym ac adnoddau sy'n dirywio;
- Defnyddio technoleg newydd i greu cysylltiadau rhwng y cofnodion mewn setiau data mawr ac 'arbrofion naturiol' i adfywio cymunedau;
- Creu 'labordy' polisi wedi'i seilio ar dystiolaeth lle gall syniadau ar gyfer polisïau newydd gael eu profi mewn cymunedau ffug.
Mae'r themâu cynnar sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â gwella'n dealltwriaeth o'r berthynas rhwng ffactorau cymdeithasol, economaidd, ffisegol a biolegol yn cynnwys:
- Sut mae strydoedd, tai, mannau gwyrdd a mannau eraill yn cyd-adweithio â llifoedd pobl, deunyddiau, ynni a mwy;
- Sut mae rheoliadau adeiladu, dyluniad tai ac effeithlonrwydd ynni yn effeithio ar afiechyd sy'n gysylltiedig â'r tymheredd a chlefydau resbiradol;
- Rôl trefniadaeth y gymdogaeth, anheddiad, maint a morffoleg ar deithio llesol, gwariant ar ynni, gordewdra ac anafiadau;
- Dylanwad dyluniad ac ansawdd y gymdogaeth, mannau gwyrdd a llif traffig ar ofn, cydlynedd cymdeithasol ac iechyd meddwl.
Yn unol â'r polisïau cenedlaethol, rydyn ni'n canolbwyntio ar iechyd meddwl, clefydau resbiradol, plant sy'n agored i niwed, a'r cysylltiad rhwng ansawdd tai ac iechyd, a rhwng iechyd a heneiddio.
Mae'r rhaglen yn dod ag ymchwilwyr rhyngwladol at ei gilydd o'r ysgolion Meddygaeth, Cynllunio a Daearyddiaeth a Phensaernïaeth.