Ewch i’r prif gynnwys

Archif BRASS

Cafodd y Ganolfan ar gyfer Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS) ei sefydlu fel canolfan ymchwil aml-ddisgyblaeth a oedd yn cael ei hariannu gan yr ESRC rhwng mis Hydref 2001 a mis Ionawr 2013.

Ar y dechrau unodd academyddion o'r ysgolion Busnes, Cyfraith a Chynllunio Dinesig a Rhanbarthol (sef Cynllunio  a Daearyddiaeth bellach) a chafodd ei chryfhau wedyn gan gyfraniadau gan gydweithwyr eraill, yn enwedig yn yr Ysgol Seicoleg ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Yn ei chyfnod o ychydig dros 11 mlynedd o gyllid ESRC, llwyddodd BRASS i gynnal lefel eithriadol o uchel o gynhyrchedd. Roedd yr allbwn yn cynnwys:

- ac ymhell dros 500 o bapurau mewn cynadleddau, a'r mwyafrif wedi'u cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol.

Llwyddodd ymchwilwyr BRASS yn gyson hefyd i ddatblygu dull 'ysgolheictod cysylltiedig', gan weithio mewn partneriaeth yn aml â defnyddwyr ymchwil o fyd ymarfer busnes a pholisi cyhoeddus.

Dros ei 11 o flynyddoedd creodd BRASS ryw 90 o adroddiadau i ddefnyddwyr ymchwil, ac mae ymchwilwyr BRASS wedi bod yn ymwneud yn agos  â defnyddwyr drwy secondiadau, hyfforddiant, digwyddiadau ar y cyd, rôl cynghorydd arbenigol, cymryd rhan uniongyrchol mewn meysydd fel drafftio deddfwriaeth, a chynnal arfarniadau ar fentrau ymarferol penodol.

Trefnodd BRASS dair cynhadledd ryngwladol o bwys, sef Cynhadledd Rhwydwaith Gwyrddu Diwydiant yn 2006 (sef y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig), y gynhadledd ryngwladol gyntaf ar Olion Troed Ecolegol yn 2007, a Chynhadledd Polisi Deongliadol 2012.

Helpodd BRASS hefyd i gynnal ystod o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau  i ymarferwyr, gan gynnwys y gynhadledd ryngwladol gyntaf ar CSR i'r diwydiant bwyd, seminar ar risg a rheoleiddio i'r diwydiant bwyd, a digwyddiadau mawr i'r diwydiant mwyngloddio. Gwnaeth gyfraniad arwyddocaol hefyd at y syniad newydd o 'Wyddor Cynaliadwyedd' y mae llawer ohono wedi'i ddisgrifio yn y llyfr arloesol a gyhoeddwyd yn 2012 am ddulliau yn y gwyddorau cymdeithasol ynglŷn ag ymchwil cynaliadwyedd a seiliwyd yn llwyr ar brosiectau BRASS.

Esblygodd agenda ymchwil BRASS yn raddol dros yr 11 mlynedd y bu'n Ganolfan ESRC, ac erbyn y diwedd roedd yr agenda wedi crynhoi o gwmpas 10 maes prosiect allweddol, bob un yn cynnwys amryw o brosiectau o sylwedd:

1. Tuag at Symudedd Cynaliadwy:

2. Systemau Bwyd Cynaliadwy:

3. Technolegau Cynaliadwy ac Arloesi Cyfrifol:

4. Diogelu'r Amgylchedd a Chyfiawnder:

5. Dangosyddion ac Effeithiau Cynaliadwyedd:

6. Gwaith, Llesiant a Lles:

7. Newid Ymddygiad a Marchnata Cymdeithasol:

8. Modelau ac Arferion Busnes Cynaliadwy:

9. CSR ac Atebolrwydd mewn Cyd-destunau Allweddol:

10. Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon: