Ewch i’r prif gynnwys

Uned Ymchwil BRASS

Prifysgol Caerdydd oedd cartref Canolfan yr ESRC ar gyfer Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS) rhwng 2001 a 2012.

Mae gwybodaeth am yr ymchwil a wnaed drwy'r ganolfan i'w weld ar y dudalen hon ac ar wefannau'r Ysgol Fusnes, Yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth ac Ysgol y Gyfraith. Maent oll yn parhau gyda'r agweddau ar ymchwil a gychwynwyd yn BRASS.

Mae Lleoedd Cynaliadwy yn falch iawn ei bod yn medru hyrwyddo ac ymestyn etifeddiaeth ymchwil Canolfan BRASS drwy sefydlu'r Uned Ymchwil hon. Mae pedair thema gweithredrol i'r ymchwil sydd hefyd wedi sichrau argaeledd archif.

Symudedd cynaliadwy

O fewn Uned Ymchwil newydd BRASS, bydd yr ymchwil yn parhau ar fodelau busnes, canolfannau symudedd modur, a symudedd electronig.

Prisio gwasanaethau ecosystemau

Mae'r rhan hon o'r ymchwil yn defnyddio sawl thema o dan sylw Canolfan BRASS sy'n ffocysu ar gwestiynau am atebolrwydd, rheoliad a llywodraethu'r amgylchedd.

Bwyd cynaliadwy

Mae'n prosiectau cyfredol yn ffocysu ar bioeconomeg a defnydd tir a deall y berthynas rhwng trefol, gwledig a threfol-gwledig ar draws sectorau bwyd ac egni.

Cymunedau cynaliadwy

Mae'r ymchwil sy'n perthyn i'r thema hon yn ffocysu ar gymunedau cynaliadwy ar draws nifer o sectorau, yn cynnwys egni a thrafnidiaeth.

Archif BRASS

Gwybodaeth archif o ganolfan ymchwil BRASS oedd yn weithredol rhwng 2001 a 2014.