Ewch i’r prif gynnwys

Addasiadau ynghylch symudeddau, llifoedd ac ymfudo

Mae'r pecyn hwn yn amlinellu ac yn mynd i'r afael ag agenda ymchwil i ddeall goblygiadau'r llifoedd deinamig sy'n digwydd mewn lleoedd ac ecosystemau a rhyngddyn nhw, er mwyn creu lleoedd mwy cynaliadwy.

Mae effeithiau cynaliadwyedd sy'n ymwneud â 'lle' yn cael eu pennu i raddau helaeth gan y llifoedd sy'n digwydd mewn a rhwng lleoedd, gan gynnwys llifoedd pobl, arian, ynni, dŵr, pridd, rhywogaethau, adnoddau naturiol, cynnyrch, nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu, gwastraff a cherbydau. Gan hynny mae angen deall deinameg lleoedd cynaliadwy, drwy ystyried y perthnasoedd mewn lleoedd a rhyngddyn nhw yn nhermau llif yr adnoddau hyn, symudeddau ac ymfudo.

Mae'r pecyn hwn yn ystyried llifoedd ar amryw o raddfeydd, gan gynnwys ecosystemau, y mae'n rhaid deall eu deinameg er mwyn gwella'r gobaith o gynaliadwyedd mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Y prif gysylltiadau