Ewch i’r prif gynnwys

Systemau rhyngweithiol sy’n cyd-esblygu

Mae ein hymchwilwyr yn astudio’r berthynas rhwng systemau ecolegol a phrosesau cymdeithasol ar draws gwahanol raddfeydd amser a gofodol. Mae’n archwilio’r ffyrdd posibl o greu dyfodol cynaliadwyedd ar sail lleoedd yng nghyd-destun newid amgylchedd byd-eang.

Mae lleoedd yn dod i’r amlwg trwy ryngweithio rhwng pedair system a phroses gysylltiedig:

  • ffisegol (tirewedd)
  • ecolegol ac ecosystemau
  • technegol ac adeiledig
  • cymdeithasol a llywodraethu.

Mae diffyg gwaith ymchwil integreiddiol sy’n ystyried y berthynas sy’n esblygu rhwng y pedwar ohonynt. Mae’r rhaglen hon yn datblygu modelau damcaniaethol a fframweithiau dadansoddol er mwyn deall y berthynas sy’n cyd-esblygu rhwng y bedair system a phroses yn well. Yn benodol, mae’n archwilio’r berthynas rhwng newidiadau naturiol a ffisegol, y canlyniadau tebygol i’r ecosystem a sut mae ymatebion y gymdeithas yn llywio trefniadau llywodraethu a’r seilwaith dechnegol ac adeiledig, ac yn cael eu llywio ganddynt.

Mae ein gwaith yn codi o ymgysylltiad damcaniaethol, ac mae’n archwilio mannau penodol, gan gynnwys tirweddau trefol, alldrefol, a thirweddau gwledig a choediog sydd wedi’u haddasu gan ddynol ryw, yn ogystal â rhanbarthau arfordirol.

Tîm ymchwil

Yr Athro Susan Baker

Yr Athro Susan Baker

Professor

Email
bakerscm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5237