Ewch i’r prif gynnwys

Rhwydweithiau trefol

Mae newid ffurfiau trefol a dylunio rhwydweithiau aml-fath er mwyn creu newid mewn ymddygiad wrth deithio o ddiddordeb o ran polisi cyhoeddus, cynaliadwyedd a gwydnwch.

Mae'r cwestiwn ynghylch sut mae ymddygiad teithio a'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio yn amrywio'n systematig gyda dyluniad rhwydweithiau trafnidiaeth yn arbennig o bwysig gan mai dylunio rhwydweithiau yw'r system drefol sydd fwyaf araf i newid. Mae gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng mathau o drafnidiaeth a thechnolegau, dylunio rhwydweithiau trafnidiaeth, ymddygiad teithio, dosbarthiad defnyddio tir a defnyddio ynni yn hollbwysig ar gyfer dyluniad, twf, cynhaliaeth a gwydnwch dinasoedd cynaliadwy. Mae diddordeb newydd mewn disgrifiadau meintiol o ddyluniad rhwydweithiau wedi dangos bod dyluniad y rhwydwaith yn elfen allweddol o ran pellter siwrneiau, symudedd metropolitanaidd, patrymau gweithgarwch a dosbarthiad defnydd tir.

Ers 1994 mae Prifysgol Caerdydd wedi dechrau datblygu Model Darogan Ynni a'r Amgylchedd (EEP). Mae'r model EEP wedi'i seilio ar dechnegau Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) ac mae'n cynnwys nifer o is-fodelau i ganfod defnydd ynni cyfredol ac allyriadau CO2 adeiladau, traffig a phrosesau diwydiannol dinas. Roedd dadansoddiad gofodol o'r rhwydwaith trafnidiaeth yn rhan annatod o'r EEP.Amcanion y prosiect yw parhau â'r diddordeb ymchwil mewn deall patrymau yn ffurfiau a gweithgareddau trefi a rhoi gwell disgrifiad o strwythur isorweddol dyluniad y rhwydwaith o strydoedd. I'r perwyl hwn, gydag ymagwedd wreiddiol, mae meddalwedd newydd yn cael ei datblygu i fesur a mynegeio'n well ddyluniad rhwydweithiau ar draws graddfeydd gofodol. Egwyddor sylfaenol yr ymchwil hon yw y bydd deall dyluniad rhwydweithiau trafnidiaeth yn fframwaith da ar gyfer deall a dylunio dinasoedd, er nad y rhwydwaith trafnidiaeth yw'r unig ddangosydd o ran ffurf drefol, teithio trefol, gweithgareddau trefol na dosbarthiad defnydd tir trefol.

Arweinydd prosiect

Alain Chiaradia

Rheolwr prosiect

Crispin Cooper